Ewch i’r prif gynnwys

Seremonïau graddio nodedig yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr

18 Gorffennaf 2022

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn dathlu eu graddio yn un o leoliadau mwyaf eiconig y ddinas yr wythnos hon (20-22 Gorffennaf).

Bydd Stadiwm Principality yn cynnal gwerth tair blynedd o ddathliadau wrth i ddosbarthiadau 2020, 2021 a 2022 raddio mewn seremonïau gyda'r hwyr.

Yn flaenorol, cynhaliodd y Brifysgol seremonïau rhithwir i fyfyrwyr yn 2020 a 2021 oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith o amgylch pandemig COVID-19.

Nawr, byddant yn ymuno â dosbarth 2022 wrth iddynt gael eu cydnabod am eu cyflawniadau yn seremonïau graddio mwyaf erioed y Brifysgol.

Mae disgwyl i tua 56,000 o fyfyrwyr a'u gwesteion ddisgyn ar y ddinas i ddathlu dros yr wythnos.

Ochr yn ochr â Stadiwm Principality, cynhelir dathliadau ar draws campws y Brifysgol, gan gynnwys digwyddiadau Ysgol lle bydd graddedigion yn croesi'r llwyfan ac yn cael eu cydnabod yn bersonol am eu cyflawniadau, Gerddi Graddio gyda bandiau byw, bwyd a diod, a derbyniad i raddedigion a'u gwesteion.

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: "Ers dwy flynedd rydym wedi gorfod gohirio seremonïau graddio wyneb yn wyneb. Nid dyma'r ffordd yr oeddem yn rhagweld dod ag amser ein myfyrwyr i ben gyda ni mewn gwirionedd, ond roedd y penderfyniad hwnnw'n golygu y gallem gadw ein cymuned yn ddiogel drwy’r amseroedd mwyaf heriol.

"Nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dyma ni. Rydym yn falch iawn o ddathlu'n bersonol gyda'n myfyrwyr a'u hanwyliaid. Mae pob un o'r tair carfan wedi bod drwy gymaint, ac roeddem am wneud rhywbeth arbennig. Dyna pam yr ydym yn mynd i Stadiwm anhygoel Principality yn y gobaith y

byddwn yn rhoi diwrnod gwirioneddol gofiadwy iddynt i gyd, sy'n gweddu i bopeth y maent wedi'i gyflawni. Mae pob un ohonynt yn ei haeddu'n fawr."

Ymhlith y myfyrwyr hynny sy'n graddio mae'r cyn-gefnwr dros Gymru a Chaerdydd, Hallam Amos, sy'n graddio ar ôl naw mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd â gradd feddygol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cydbwyso ei astudiaethau â'i yrfa rygbi ryngwladol; Josh Colclough a fydd yn graddio o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ar ôl ennill Gwobr fawreddog yr Ysgol am Brosiect Ffiseg Eithriadol am ei waith yn dylunio strwythurau lled-grisial 3D. Canmolwyd y gwaith gan academyddion ledled y wlad ac fe'i hysbrydolwyd i greu gosodiad celf ym Mhrifysgol Bryste a'r Brifysgol Agored; a’r bardd Bethany Handley sydd wedi cyhoeddi peth o’i gwaith ac sy’n graddio mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd ag Ysgrifennu Creadigol. Mae hi wedi defnyddio ei barddoniaeth i addysgu pobl eraill am ei phrofiadau bywyd yn sgîl anabledd. Mae hi hefyd wedi ennill y marc cyffredinol gorau ar y rhaglenni Cydanrhydedd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Bydd llu o unigolion yn ymuno â hwy sy'n dod yn Gymrodyr Er Anrhydedd, gan gynnwys Julia Gillard - cyn Brif Weinidog Awstralia, a newyddiadurwr y BBC Laura Trevelyan. Bydd y ddau yn rhoi areithiau yn eu priod seremonïau (Julia Gillard ddydd Mercher 20 Gorffennaf a Laura Trevelyan ddydd Iau 21 Gorffennaf). Ac yntau’n traddodi araith yn y seremoni olaf ddydd Gwener 22 Gorffennaf, bydd newyddiadurwr y BBC Huw Edwards, sydd eisoes yn Gymrawd Er Anrhydedd ac yn gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Mae cwblhau gradd yn gyflawniad enfawr mewn unrhyw flwyddyn, ond mae gwneud hynny yn ystod pandemig byd-eang - ynghyd â'r heriau niferus a ddaeth yn sgîl hyn - yn wirioneddol ryfeddol.

"Rydym ni fel cymuned brifysgol wedi bod drwy gyfnod digynsail ac mae heddiw'n ymwneud â thalu teyrnged i amynedd, gwydnwch, gwaith caled ac angerdd ein myfyrwyr am eu hastudiaethau dewisol. Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt, ac edrychwn ymlaen at ddathlu gyda nhw, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

"Mae hefyd yn amser i groesawu ein Cymrodyr Er Anrhydedd newydd, yr unigolion hynny sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at gymdeithas, wedi cyflawni rhagoriaeth academaidd neu wedi codi proffil Caerdydd a Chymru yn eu maes. Rydym yn eu croesawu'n gynnes i gymuned Prifysgol Caerdydd."

Rhannu’r stori hon