Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd ar gyfer y seremonïau graddio mwyaf erioed yn Mhrifysgol Caerdydd

20 Gorffennaf 2022

Dafydd Iwan

Mae ffigurau enwog o fyd cerddoriaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth ymhlith y rheini fydd yn derbyn bod yn Gymrodyr er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd a gynhelir yr wythnos hon. (Gorffennaf 20-22)

Y canwr-gyfansoddwr a’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd Dafydd Iwan, y bêl-droedwraig ryngwladol o Gymru Jessica Fishlock, y gerddores a'r ddarlledwraig Cerys Matthews a’r cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi rhyngwladol Cymru, Warren Gatland yw rhai o'r enwau a fydd yn ymuno â 56,000 o fyfyrwyr a gwesteion yn Stadiwm Principality ym mhrifddinas Cymru.

Bydd y newyddiadurwraig ymchwiliadol Carole Cadwalladr, yr Arglwydd Michael Heseltine, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Sophie Howe, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, a'r awdures a'r ddarlledwraig Sali Hughes hefyd yn derbyn yr anrhydedd.

Bydd Julia Gillard, a oedd yn brif weinidog benywaidd cyntaf Awstralia, ynghyd â’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Laura Trevelyan, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd ac yn rhoi araith yn eu seremonïau priodol (Gillard ddydd Mercher 20 Gorffennaf a Threvelyan ddydd Iau 21 Gorffennaf). Bydd newyddiadurwr y BBC Huw Edwards, sydd eisoes yn Gymrawd er Anrhydedd ac yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yntau’n traddodi araith yn y seremoni olaf ddydd Gwener 22 Gorffennaf.

Cyn hyn, roedd y Brifysgol wedi cynnal seremonïau rhithwir i fyfyrwyr yn 2020 a 2021 oherwydd y cyfyngiadau yn sgîl pandemig COVID-19. Bellach, byddan nhw’n ymuno â dosbarth 2022 wrth iddyn nhw gael eu cydnabod am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn y seremonïau graddio mwyaf erioed i’w cynnal gan y Brifysgol.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae ein Cymrodyr er Anrhydedd yn y seremonïau graddio eleni, llawer ohonyn nhw’n gyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, wedi cyflawni llawer iawn mewn ystod eang o feysydd. Rydyn ni’n falch o'u croesawu i Stadiwm Principality. Heb os nac oni bai, byddan nhw’n destun ysbrydoliaeth enfawr i'n myfyrwyr yn ystod y dathliad graddio mwyaf rydyn ni wedi’i gynnal hyd yn hyn.”

Rhestr lawn y Cymrodyr er Anrhydedd

Seremoni 2022 (dydd Mercher 20 Gorffennaf)

Julia Gillard oedd 27ain Prif Weinidog Awstralia a'r fenyw gyntaf, a'r unig fenyw, i fod yn y swydd honno. Ers iddi ymadael â’i swydd, mae wedi ymroi i eiriolaeth, rolau ym maes llywodraethu ac ysgrifennu.

Dramodydd a sgriptwraig ffilmiau yw Abi Morgan OBE. Mae hi’n adnabyddus am ei gwaith ym myd theatr a theledu megis Sex Traffic, The Hour, Brick Lane, The Iron Lady, The Invisible Woman a Suffragette.

Pêl-droedwraig broffesiynol a Llysgennad LHDTCRh yw Jessica Fishlock MBE. Hi oedd pêl-droedwraig gyntaf Cymru i gyrraedd 100 o gapiau rhyngwladol ac ar hyn o bryd hi sy’n dal y nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol dros Gymru.

Penodwyd Sophie Howe (LLB 1999) yn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol cyntaf Cymru yn 2016. Ei rôl yw bod yn warcheidwad er budd cenedlaethau'r dyfodol a chefnogi cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni nodau llesiant.

Sarah Powell yw Prif Weithredwraig Gymnasteg Prydain ac mae'n arweinydd profiadol a chanddi fwy na 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes chwaraeon.

Sarah Powell

Dorothea Hodge (BSc Econ 1995, MSc 1998) yw cyfarwyddwr sefydlol Aequitas Global, asiantaeth polisïau a chyfathrebu sydd wedi ennill sawl gwobr.

Cafodd Joseph Yun (BSc Econ 1976) yrfa ddiplomyddol a oedd yn rhychwantu 33 mlynedd yn Adran Materion Tramor UDA, a hynodwyd ei yrfa am ei ymrwymiad i ddatrys gwrthdaro drwy sicrhau bod pobl yn cwrdd â’i gilydd i drafod anghydfod.

Athro Deallusrwydd Cyfunol, Polisïau Cyhoeddus ac Arloesi Cymdeithasol yng Ngholeg Prifysgol Llundain yw Syr Geoff Mulgan.

(Derbyn Gradd er Anrhydedd) Arweinydd rhyngwladol ym maes technolegau tynnu carbon deuocsid a sylfaenydd a chyfarwyddwr Canolfan Leverhulme er Lliniaru Newid Hinsawdd yw'r Athro David Beerling (BSc 1987, PhD 1990).

Seremoni 2021 (dydd Gwener 22 Gorffennaf)

Canwr a chyfansoddwr yw Dafydd Iwan (BArch 1968) sydd wedi rhyddhau llawer o albymau yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau yn Gymraeg. Ei gân danbaid a chyffrous, Yma o Hyd , bellach yw anthem answyddogol tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, a chipiodd y gân rif un yn y siartiau lawrlwytho ym mis Mehefin.

Cerys Matthews

Cerddores, awdures a darlledwraig yw Cerys Matthews MBE.  Mae hi'n cynnal sioeau ar BBC Radio 2, 4 a 6 Music. Matthews yw Is-lywydd Shelter Cymru a Gŵyl Llenyddiaeth a Chelfyddydau'r Gelli. Ar ben hynny, mae hefyd yn noddwraig Cymdeithas Dylan Thomas a Ballet Cymru.

Roedd yr Arglwydd Michael Heseltine yn Aelod Seneddol rhwng 1966 a 2001. Roedd yn Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 1995 a 1997. Ef yw sylfaenydd a Chadeirydd Grŵp Haymarket, cwmni cyfryngau preifat.

Hyfforddodd Michelle Terry (BA 2001) yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig (RADA) ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Globe Shakespeare ers 2018. Mae hi'n actores sydd wedi ennill Gwobr Olivier ac yn awdures.

Bill Rammell (BA 1982) yw cyn- AS Llafur dros Harlow.  Bu'n Is-Ganghellor Prifysgol Swydd Bedford am wyth mlynedd ac yn 2021 aeth yn Llywydd Prifysgol Kurdistan Hewlêr.

Susan Hemming CBE (LLB 1986) yw Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Yr Athro Jane den Hollander (PhD) oedd Is-Ganghellor Prifysgol Deakin o 2010 hyd nes iddi ymddeol yn 2019. Bu'n Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Gorllewin Awstralia (Mawrth-Gorffennaf 2020) a Phrifysgol Murdoch (Tachwedd-Mawrth 2022).

Yr Athro Kenneth Matengu yw Is-Ganghellor Prifysgol Namibia.

Yehuda Bauer (BA 1950) yw  Athro (Emeritws) Astudiaethau'r Holocost ym Mhrifysgol Hebraeg Jerwsalem, Cynghorydd Academaidd Yad Vashem, ac mae’n Aelod o Academi Gwyddoniaeth Israel.

Seremoni 2020 (dydd Iau 21 Gorffennaf)

Mae Laura Trevelyan (PgDip 1991) yn gyflwynydd a gohebydd ar gyfer rhaglen newyddion y BBC World News America. Mae’r rhaglen, sydd i’w gweld ar BBC World News a PBS, wedi ennill gwobr Emmy.

Hyfforddwr Undeb Rygbi Seland Newydd a chyn-chwaraewr y Crysau Duon yw Warren Gatland CBE. Rhwng 2007 a 2019, bu'n hyfforddi Cymru gan ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith, gan gynnwys tair Camp Lawn, a chyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011 a 2019.

Newyddiadurwraig yn The Guardian a’r Observer yw Carole Cadwalladr. Arweiniodd ei hymchwiliadau at alw Mark Zuckerberg i ymddangos gerbron deddfwrfa Cyngres UDA a chollodd Facebook fwy na $100 biliwn oddi ar bris cyfranddaliadau’r cwmni. Mae gwaith Cadwalladr wedi ennill Gwobr Polk a Gwobr Orwell am newyddiaduraeth wleidyddol.

Roedd Beth Fisher yn ohebydd chwaraeon i ITV Cymru Wales News rhwng 2019 ac eleni, ac mae bellach yn llawrydd. Cyrhaeddodd Beth yn hwyr i fyd y cyfryngau wedi iddi ymddeol o hoci rhyngwladol. Yn 2019, hi oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i sylwebu ar bêl-droed i BBC Cymru, gan greu hanes yn y broses.

Mae Sali Hughes yn awdures ac yn ddarlledwraig sydd wedi bod yn Olygydd Harddwch y Guardian ers 2011. Mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd Beauty Banks, elusen genedlaethol sy'n darparu pethau ymolchi i bobl sy'n byw mewn tlodi.

Uwch-ohebydd tramor ar gyfer CBS News yw Elizabeth Palmer (PgDip 1980). Ar hyn o bryd hi yw gohebydd Asia ac mae’n gweithio yn Tokyo.

Warren Gatland CBE is a New Zealand Rugby Union coach and former All Black. Between 2007 and 2019, he coached Wales winning four Six Nations titles, including three Grand Slams, and reached the semi-finals of the 2011 and 2019 Rugby World Cups.

Carole Cadwalladr is a journalist for The Guardian and Observer. Her investigation into Cambridge Analytica resulted in Mark Zuckerberg being called before Congress and Facebook losing more than $100 billion from its share price. Cadwalladr’s work has won a Polk Award and the Orwell Prize for political journalism.

Beth Fisher was sports reporter for ITV Cymru Wales News from 2019 to this year and is now freelance. Beth arrived late into the industry after retiring from international hockey but made history in 2019 when she became the first woman in Wales to commentate on football for BBC Wales.

Sali Hughes is a writer and broadcaster who has been the Guardian’s Beauty Editor since 2011. She is also co-founder of Beauty Banks, a nationwide charity providing toiletries to people living in poverty.

Elizabeth Palmer (PgDip 1980) is senior foreign correspondent for CBS News, currently working as Asia correspondent based in Tokyo.

Elizabeth Palmer

Cyd-sylfaenydd Oxford Nanopore, cwmni sydd wedi datblygu cenhedlaeth newydd o dechnoleg synhwyro sy'n seiliedig ar nanofandyllau yw Gordon Sanghera (BScTech 1983, PhD 1987). Cafodd Gordon ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol ym mis Mai 2005.

Christopher DV Jones CBE (MBBCh 1979) yw Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sy'n chwarae rhan flaenllaw wrth lunio'r gweithlu gofal iechyd.

Rhannu’r stori hon