Ewch i’r prif gynnwys

Athro’n derbyn gwobr arbennig gan sefydliad pancreatoleg blaenllaw

8 Gorffennaf 2022

Professor Ole Petersen accepts award
Left: Professor Ole Petersen accepts the Prize from Dr Pramod Garg, IAP Secretary General. Right: Professor Takeyama, IAP President, ready to present the second part of the Prize.

Mae Cyngor y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Pancreatoleg (IAP) wedi dyfarnu Gwobr a Medal Palade 2022 i'r Athro Ole Petersen CBE FRS i gydnabod “ei gyfraniad o ran ymchwil ragorol i bancreatoleg”.

Yn ogystal â chydnabod cyfraniadau’r Athro Petersen i faes pancreatoleg, mae Gwobr Palade yn ei gydnabod am fod “yn fodel rôl rhagorol ac yn fentor uchel ei barch i nifer fawr o glinigwyr ac ymchwilwyr dros ddegawdau lawer.”

Dywedodd yr Athro Petersen: “Braint o’r mwyaf yw derbyn Gwobr Palade IAP. Yn Narlith Nobel George Palade (a gyhoeddwyd yn Science ym 1975), cyfeiriodd at un o’m gweithiau (a gyhoeddwyd yn The Journal of Physiology ym 1973) a oedd yn cynnig tystiolaeth gynnar bod rheolaeth secretiad ecsocrin y pancreas wedi’i chyfryngu gan galsiwm.

“Ers hynny, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus, ynghyd â nifer fawr o gydweithwyr rhagorol o bob cwr o'r byd, i allu nodi a deall y mecanwaith sy’n fodd i ïonau calsiwm reoleiddio secretiad pancreatig arferol, ond hefyd wedi gallu dangos bod gormod o signalau calsiwm yn achosi pancreatitis acíwt.

“Mae'r clefyd dynol hwn yn rhagflaenu pancreatitis cronig sydd, yn aml, yn rhagflaenu canser y pancreas. Mae fy ngrŵp wedi cynnig y dystiolaeth gyntaf bod atal sianeli calsiwm yn ffordd bosibl o drin pancreatitis acíwt. Mae treialon clinigol bellach ar y gweill yn yr Unol Daleithiau i brofi'r driniaeth hon.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol IAP, Dr Pramod Garg, Athro Gastroenteroleg yn Sefydliad Ymchwil Feddygol India Gyfan yn Delhi Newydd: “Mae IAP yn rhoi'r wobr hon i unigolyn am ei gyfraniad o ran ymchwil wreiddiol ac effeithiol i bancreatoleg Mae gwaith arloesol yr Athro Petersen ar signalau calsiwm ym mhathoffisioleg pancreatitis acíwt wedi gwneud argraff arnaf yn bersonol, gan gynnwys nifer o bobl eraill ledled y byd. Mae’n hollol briodol bod IAP wedi penderfynu anrhydeddu'r Athro Petersen am ei gyfraniad cyson.”

Cyflwynwyd Medal a Gwobr Palade i'r Athro Petersen yng Nghynhadledd IAP ar y cyd â Chymdeithas Pancreatig Japan, a gynhaliwyd yn Kyoto rhwng 7 a 9 Gorffennaf 2022, lle traddododd yr Athro Petersen Ddarlith Palade arbennig, hefyd.

A hithau wedi'i henwi ar ôl George E Palade a enillodd Wobr Nobel ym 1974 am ei waith ar gludiant proteinau yng nghelloedd asinig y pancreas, Gwobr Palade yw'r wobr IAP fwyaf nodedig. Mae'n cydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil i’r pancreas, yn enwedig er mwyn dehongli mecanweithiau sylfaenol ffisioleg y pancreas a phathoffisioleg clefydau.

Rhannu’r stori hon