Ewch i’r prif gynnwys

Sbardun i Dwf Busnes

5 Ebrill 2022

Illustration of rocket flying over increasing bar chart

Partneriaethau a threfniadau cydweithio Ysgol Busnes Caerdydd gyda busnesau llai ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt oedd testun y Briffiad Brecwast diweddaraf.

Dychwelodd y Briffiadau Brecwast i'r campws y mis hwn, gyda'r tîm yn cynnal eu digwyddiad hybrid cyntaf yn yr Ystafell Addysg Weithredol.

Ymunodd cynrychiolwyr o fusnesau yma yng Nghaerdydd ac ar draws De Cymru sydd wedi elwa o gydweithio â'r Ysgol Busnes â Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth.

Yn agor y sesiwn roedd Simon Roberts, Rheolwr-Gyfarwyddwr Unite, a soniodd am yr amrywiol ffyrdd mae ei sefydliad wedi ymgysylltu â’r Ysgol Busnes, gan gynnwys lleoliadau myfyrwyr, y rhaglen MBA Weithredol, a rhwydweithio proffesiynol.

Trafododd Simon y manteision a ddaeth i’w ran trwy bartneriaethau gyda'r Ysgol Busnes, gan gynnwys datblygu ei sgiliau arwain, a derbyn mentora a hyfforddiant.”

Dywedodd: “Mae wedi bod yn daith anhygoel. Rydym wedi elwa nid o un profiad, ond yn gyfannol gan Brifysgol Caerdydd yn ei chrynswth.”

Hefyd yn ymuno â'r digwyddiad yn cynrychioli’r asiantaeth fabwysiadu wirfoddol, Cymdeithas Plant Dewi, roedd y Prif Swyddog Gweithredol, Wendy Keidan a Rheolwr Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, Singeta Kalhan Gregory.

Mae'r asiantaeth wedi gweithio gyda'r Ysgol Busnes ar bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth gan ddatblygu newidiadau sylfaenol i'r ffordd y mae gwasanaethau mabwysiadu plant yn cael eu caffael gan awdurdodau lleol yng Nghymru drwy greu cytundebau lefel gwasanaeth a datblygu prosesau newydd. O ganlyniad, mae'r holl awdurdodau rhanbarthol a lleol y maent yn gweithio gyda nhw bellach yn cyfeirio at eu gwasanaeth drwy'r cytundebau lefel gwasanaeth, gan arwain at welliant o ran dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant.

Rhannodd Wendy a Singeta rai o fanteision hyn, fel yr elw cymdeithasol yn sgil y buddsoddiad a oedd o fudd i rai o'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Y nesaf i siarad oedd Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru, a oedd yn rhan o garfan gyntaf rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth.

Dywedodd: “Fe wnaeth y rhaglen fy ngalluogi i edrych ar yr wyddoniaeth a'r gelfyddyd y tu ôl i fodelu busnes.”

Tynnodd Beverley sylw at rai o fanteision y rhaglen, gan gynnwys y cyfle i weithio mewn grŵp o gymheiriaid, dysgu gan fusnesau eraill, trafod eu problemau, a dod o hyd i atebion gyda'i gilydd.

Mae'r newidiadau yn Triathlon Cymru o ganlyniad i amser Beverley ar y rhaglen yn cynnwys gwell amgylchedd gwaith, proses arolwg staff newydd, a fformat wedi’i ddiweddaru ar gyfer adolygiad datblygu perfformiad.

Beth bynnag yw maint y busnes, un o'r heriau sy'n wynebu llawer o berchnogion busnes a Phrif Swyddogion Gweithredol yw eich bod yn canolbwyntio cymaint ar weithrediadau'r busnes o ddydd i ddydd, rydych chi'n anghofio canolbwyntio ar ddatblygu rheolaeth a gweledigaeth strategol y busnes.

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Siaradwr olaf y dydd oedd Thomas Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaethau a Rennir Grŵp Barcud. Rhannodd Thomas hefyd y buddion a gafwyd ar y rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, a'r manteision i'w sefydliad. Roedd y rhain yn cynnwys twf yn y sylfaen o gleientiaid a chyflogi aelodau newydd o staff.

Dywedodd: “Erbyn hyn mae gen i gyfoeth o adnoddau ar flaenau fy mysedd. Gallaf anfon e-bost yn gofyn am help neu argymhelliad, ac mae'r rhwydwaith yno i'n helpu a'n cefnogi wrth symud ymlaen.”

I gloi, crynhodd y sesiwn y cyfleoedd a gynigir gan yr Ysgol Busnes fel a ganlyn:
- lle diogel i feddwl am ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'ch busnes
- galluoedd rhwydweithio
- trosglwyddo gwybodaeth

Mae Cymorth i Dyfu:Rheolaeth yn rhaglen ymarferol 3 mis sydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau bach neu ganolig i hybu perfformiad, gwytnwch a thwf hirdymor eu busnesau.

Gwylio recordiad llawn o'r digwyddiad.

Mae Cyfres Briffiadau Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.