Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid ar gyfer prosiectau Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru

23 Mai 2022

Bydd portffolio o brosiectau gwyddor data a Deallusrwydd Artiffisial sy’n dod ag arbenigedd academaidd Cymru ynghyd â diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn elwa ar gyllid Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru, mae £500,000 yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA), gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.

Mae Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA) yn gydweithrediad rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i helpu Cymru i gyflymu mewnwelediad, rhagwelediad a gwybodaeth newydd o’n hasedau data amrywiol ar gyfer effaith gymdeithasol, iechyd ac economaidd.

Mae’n ceisio hybu arloesedd mewn data a deallusrwydd artiffisial ar gyfer datrysiadau, cynhyrchion a chymwysiadau newydd mewn clystyrau diwydiannol allweddol a gwasanaethau cyhoeddus, tra’n cyfoethogi’r gronfa dalent o sgiliau yng Nghymru ar gyfer gwyddor data ac AI.

Wrth groesawu’r cyllid, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor etholedig ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r byd yn newid ar gyflymder digynsail oherwydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn effeithio ar bron bob sector yng Nghymru. Mae Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi partneru i ffurfio prosiect Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA), rhaglen uchelgeisiol o ymchwil, arloesi a hyfforddiant i gefnogi trawsnewid digidol."

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ‘gwibio’ tymor byr wedi galluogi partneriaeth â sefydliadau a chwmnïau i ddangos yn gyflym bŵer a photensial technolegau data a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cefnogi gwell iechyd a lles, gwell gwasanaethau cyhoeddus, economi gystadleuol a phlaned wyrddach.”

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ‘gwibio’ tymor byr wedi galluogi partneriaeth â sefydliadau a chwmnïau i ddangos yn gyflym bŵer a photensial technolegau data a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cefnogi gwell iechyd a lles, gwell gwasanaethau cyhoeddus, economi gystadleuol a phlaned wyrddach.”

Yr Athro Roger Whitaker College Dean of Research
Professor of Mobile and Social Computing

Mae un o brosiectau Caerdydd i elwa o’r cyllid yn cael ei arwain gan yr Athro Matthias Eberl yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd ei dîm yn defnyddio AI i achub bywydau drwy atal sepsis mewn cleifion llawdriniaeth abdomenol, ac mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi eu helpu i weithio gyda phartneriaid i gefnogi eu hymchwil. Mae Sepsis yn gyfrifol am un o bob pum marwolaeth yn fyd-eang, gan ladd mwy nag 11 miliwn o bobl bob blwyddyn. Yn y DU, mae Sepsis yn lladd mwy o bobl na chanser y coluddyn, y fron a chanser y brostad gyda'i gilydd.

Dywedodd yr Athro Eberl: “Rydym yn falch iawn o ennill y gyfran bwysig hon o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae ein tîm yn arbenigo mewn datrysiadau sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer gwneud diagnosis o haint pan fydd cleifion yn dangos symptomau acíwt.

“Mae ein prosiect yn canolbwyntio ar ganfod a rhagweld cymhlethdodau’n gynnar ar ôl llawdriniaeth ar y coluddyn, a all arwain at ganlyniadau gwael i gleifion, gan gynnwys sepsis a llai o gyfraddau goroesi canser. Mae datrysiadau sy'n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial hefyd yn fodel ar gyfer heintiau safle llawfeddygol yn ehangach, gyda'r potensial i wyddor data gael effaith glinigol ac iechyd sylweddol.

Mae’r prosiect wedi galluogi’r Brifysgol i atgyfnerthu ein cydweithrediad â Siemens Healthineers gan ddefnyddio dulliau data o ran dilysu biofarcwyr profion ar y platfform Immulite a cheisio nodi biofarcwyr ychwanegol a allai deilyngu eu datblygu.”

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion sy’n cydweithio mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes.

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae Cymru yn gartref i ymchwil addysg uwch wych. Rwy'n falch bod y cyllid hwn wedi helpu i gefnogi WDNA i wella bywydau pobl yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae WDNA yn enghraifft o sut y gall sector addysg uwch cryf gefnogi pob agwedd ar ein bywydau.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Ni fu ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg erioed mor bwysig o ran cefnogi prosiectau a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar atebion i fynd i’r afael â’r problemau byd-eang mawr. Rwy’n hyderus y bydd y cyllid newydd hwn yn cefnogi ein prifysgolion i ddefnyddio’r arloesedd technolegol diweddaraf mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i wneud hynny.”

Mae WDNA yn gwahodd pobl sydd â diddordeb mewn AI a gwyddor data i fynd i ddigwyddiad ar 26 Mai. Mae’n cynnig cyfle i rwydweithio ac archwilio prosiectau WDNA a allai siapio dyfodol Cymru. Bydd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn rhoi anerchiad Gweinidogol yn y digwyddiad. I fynd, cliciwch yma i gofrestru trwy Eventbrite.

Rhannu’r stori hon