Ewch i’r prif gynnwys

New resource to monitor children's reading progress

16 Mai 2022

Stock photo of classroom with male teacher sat at a desk reading with two pupils, one girl and one boy

Heddiw (16 Mai), mae Consortiwm Canolbarth y De yn cyhoeddi prawf darllen newydd i blant blynyddoedd 1 i 11 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Datblygwyd y prawf gan academyddion Prifysgol Caerdydd.

Arweiniwyd y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn gan Ysgol y Gymraeg, dan oruchwyliaeth Dr Jonathan Morris a Dr Dylan Foster Evans. Mae’r prosiect hefyd wedi elwa ar arbenigedd Dr Rosanna Stenner o’r Ysgol Seicoleg a Dr Geraint Palmer o’r Ysgol Mathemateg.

Nod y prosiect oedd creu prawf darllen hwylus ar gyfer monitro cywirdeb darllen plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’r adnodd ar gael mynediad agored am ddim drwy wefan y Consortiwm at ddefnydd athrawon, ymarferwyr ac ysgolion ar draws Cymru.

Ceir yn y prawf ddwy ffurflen sy’n cynnwys 17 brawddeg yr un. Mae modd i ymarferwyr ddefnyddio’r ddwy ffurflen ar adegau gwahanol er mwyn asesu cynnydd unigolion drwy gymharu eu sgorau â sgorau safonedig. Seilir y sgorau safonedig ar sgorau 760 o blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru.

Ychwanegodd Dr Rosanna Stenner: “Er gwaethaf pwyslais ar fonitro datblygiad darllen plant, ychydig iawn o ddeunyddiau safonol sydd ar gael i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid yn unig y bydd yr adnodd hwn yn helpu staff mewn ysgolion i ddod i adnabod plant sy’n profi anhawsterau darllen, bydd hefyd yn rhoi cyfle i fonitro cynnydd yn dilyn ymyraeth. Rydym yn ffyddiog y bydd y deunydd yn ychwanegiad gwerthfawr i becyn cymorth llythrennedd ysgolion.”

Yn dilyn cyhoeddiad yr adnodd, mae’r tim o ymchwilwyr yn awyddus i ddeall ei defnydd a’i effaith cyn iddynt ehangu’r prawf at y dyfodol drwy gasglu mwy o ddata.

Rhannu’r stori hon