Ewch i’r prif gynnwys

School recognised for its research excellence in REF 2021

12 Mai 2022

Mae'r Ysgol Cemeg wedi’i chydnabod yn REF 2021 am ragoriaeth ei hymchwil, ac ystyriwyd bod 99% o'r ymchwil a gyflwynwyd ganddi’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesu ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei gwneud yn sector addysg uwch y DU i sicrhau bod safonau ac ansawdd yn cael eu cynnal. Cyfeirir at ganlyniadau’r REF hefyd wrth ddyrannu tua £2 biliwn o gyllid cyhoeddus bob blwyddyn ar gyfer ymchwil prifysgolion.

Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod am ragoriaeth ein hymchwil a’r ffaith bod 99% o’r ymchwil a gyflwynwyd gennym yn cael ei hystyried yn ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym hefyd wedi cael ein cydnabod am effaith ein hymchwil – ystyriwyd bod 100% o effaith ein hymchwil yn rhagorol neu’n sylweddol iawn o ran ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd. Mae hyn yn adlewyrchu sut mae ein hymchwil wedi’i defnyddio i fynd i’r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd yn eu hwynebu.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Damien Murphy: “Er mwyn cynrychioli'r rhinweddau amrywiol, cydweithredol a chynhwysol sydd i’w cael yn ein Hysgol, gwnaethom gyflwyno gwaith 100% o’n staff cymwys i REF 2021. Mae hyn yn tanlinellu llwyddiant ein canlyniadau yn y REF ymhellach. Hoffwn longyfarch pob aelod o’r staff ar draws yr Ysgol a sefydliadau ymchwil cysylltiedig am eu cyfraniad at ein canlyniad rhagorol.”

Drwy gydweithio'n agos â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant, mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Cemeg wedi dod o hyd i atebion i’r heriau y mae’r byd yn eu hwynebu o ran yr amgylchedd, technoleg a chynaliadwyedd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil arloesol sy’n cael ei gwneud yn yr Ysgol Cemeg, ewch i dudalen we’r Ysgol. Mae’r holl wybodaeth am gyflwyniad Prifysgol Caerdydd i REF 2021 ar gael ar brif dudalennau ymchwil y Brifysgol.

Rhannu’r stori hon