Ewch i’r prif gynnwys

9fed yn y DU am effaith ymchwil

12 Mai 2022

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â'r Ysgol Ieithoedd Modern, wedi ei gosod yn y 9fed safle yn y DU am draweffaith ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Mae REF yn broses o adolygu arbenigol a gynhelir bob chwe blynedd i asesu a dangos gwerth ac effaith yr ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Eleni, bu i 157 o brifysgolion gymryd rhan yn yr asesiad; roedd hyn yn cynnwys 76,132 o staff academaidd a 6,781 o astudiaethau achos traweffaith.

Yn y fframwaith diweddaraf, barnwyd bod ymhell dros 80% o'r ymchwil a gyflwynwyd gennym i Uned Asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn dwyn ynghyd y gwaith a wneir gan gydweithwyr o Ysgol y Gymraeg a'r Ysgol Ieithoedd Modern, sy'n rhannu diddordebau penodol mewn dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawsgenedlaethol o ymdrin â diwylliannau llenyddol a gweledol, cyfieithu, treftadaeth a sosioieithyddiaeth.

Roedd astudiaethau achos traweffaith ar draws y ddwy ysgol yn mynd i'r afael â materion o arwyddocâd gwirioneddol megis comisiynwyr iaith a rheoleiddio iaith yng Nghymru ac Iwerddon, a chynlluniau mentora i annog pobl ifanc i ddysgu ieithoedd.

Mae’r ddwy ysgol hefyd yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae’r ffaith i 100% o’r staff cymwys gael eu cyflwyno i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn, a gosodwyd y ddwy ysgol yn 11eg yn y DU o ran amgylchedd ymchwil.

Gyda ffocws cryf ar ymchwil effeithiol a pherthnasol i bolisi, sicrhaodd cyfuniad dylanwadol o ysgolheictod yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol yr ysgol GPA cyffredinol o 3.30.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Rwy'n hynod falch o weld bod gwaith rhagorol ein holl staff wedi cael ei gydnabod gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae hyn yn cynnwys yr effaith wirioneddol mae ein cyfraniad wedi ei chael ar feysydd sydd o bwys sylfaenol i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil hefyd wedi tynnu sylw at ansawdd ein hamgylchedd ymchwil, sy'n argoeli'n dda iawn ar gyfer datblygiadau yng Nghaerdydd yn y dyfodol. Mae'n gyfnod cyffrous iawn i fod yn ymchwilio i'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant yma yn y brifddinas.”

Dewch i wybod rhagor am ganlyniadau cyffredinol Prifysgol Caerdydd a chanlyniadau'r ysgol yn ei huned asesu - Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.