Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Dipak Ramji a Dr Emma Yhnell wedi’u hethol yn Gymrodyr o’r sefydliad arbennig

6 Mai 2022

Professor Dipak Ramji and Dr Emma Yhnell

Yr Athro Dipak Ramji a Dr Emma Yhnell wedi’u hethol yn Gymrodyr o’r sefydliad arbennig

A hithau wedi’i sefydlu yn 2010 i godi ymwybyddiaeth o sut mae gwyddoniaeth, y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas, y Gymdeithas yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth a llenyddiaeth sy’n dod ag arbenigwyr o bob maes academaidd ynghyd.

Mae gan y Gymdeithas fwy na 650 o Gymrodyr ar hyn o bryd. Mae’r rhai sydd wedi’u hethol yn Gymrodyr wedi bod yn destun proses asesu drylwyr gan bwyllgor craffu perthnasol.

Astudiodd yr Athro Ramji ar gyfer ei BSc (Anrh) a’i PhD ym Mhrifysgol Leeds. Ar ôl hynny, gwnaeth ymchwil ôl-ddoethurol yn Labordy Bioleg Foleciwlaidd Ewrop (EMBL) yn Heidelberg ac IRBM yn Rhufain drwy sicrhau cymrodoriaethau gan y Gymdeithas Frenhinol a’r UE. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd ym 1992. Ar hyn o bryd, ef yw Dirprwy Bennaeth Ysgol y Biowyddorau. Mae hefyd yn Athro Gwyddoniaeth Gardiofasgwlaidd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar
ddeall sut mae llid yn rheoli clefyd y galon a sut mae effeithiau llesol cynhyrchion maethol yn amlygu eu hunain.

Dywedodd yr Athro Ramji: “Rwyf wrth fy modd ac yn ei hystyried yn fraint bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cydnabod fy llwyddiannau academaidd. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y Gymdeithas a’i gwaith drwy hyrwyddo ymchwil yn fy meysydd arbenigedd ac ysbrydoli dysgu.”

Mae Emma Yhnell wedi bod yn rhan o deulu Prifysgol Caerdydd ers 2009, lle gwnaeth astudio ar gyfer ei gradd mewn Biocemeg ac yna ei PhD mewn Niwrowyddoniaeth Ymddygiad, cyn sicrhau cymrodoriaeth arbennig gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i wneud ymchwil yn y clinig i gleifion â chlefyd Huntington. Ar hyn o bryd, mae Emma yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau. Mae’r penderfyniad i’w hethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Ddysgedig yn seiliedig ar ei harbenigedd a'i chyfraniadau at ddealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth.

Wrth sôn am gael ei hethol, dywedodd Emma: “Braint o’r mwyaf yw cael fy ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac rwy’n arbennig o falch bod y penderfyniad i wneud hynny’n seiliedig ar fy ngwaith ym maes cyfleu gwyddoniaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gymdeithas a’r Cymrodyr eraill i barhau i godi ymwybyddiaeth o wyddoniaeth a’i budd ehangach i gymdeithas.”

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas Ddysgedig: “Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae cwmpas yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau amgylcheddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd o’n blaenau.”

Rhannu’r stori hon