Cydnabod staff a gwasanaethau’r Biowyddorau yn y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth
7 Mawrth 2022
Derbyniodd Dr Tomasz Jurkowski Wobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Rhagorol i’r Brifysgol, ac enillodd Dr Emma Yhnell y categori Seren Newydd, Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa. Cydnabuwyd Gwasanaeth Sgrinio COVID-19 y Brifysgol, y bu'r Ysgol yn chwarae rhan fawr ynddo, hefyd.
Cyfle yw'r Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth i bob aelod o staff ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth y cydweithwyr hynny sydd wedi mynd yr ail filltir. Maen nhw’n gwobrwyo cyflawniadau unigol, mewn tîm ac ar y cyd mewn ystod o gategorïau.
Cydnabuwyd Dr Jurkowski am ei rôl yn sefydlu Gwasanaeth Sgrinio COVID-19 asymptomatig y Brifysgol, a leolir yn Ysgol y Biowyddorau, ac a chwaraeodd rôl hanfodol wrth amddiffyn lles staff a myfyrwyr trwy gydol y pandemig. Derbyniodd y Gwasanaeth Sgrinio ei hun wobr Gwella Lles y Staff yn Eithriadol.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Jim Murray: "Dim ond yn ystod y flwyddyn flaenorol roedd Tomasz wedi symud i'r DU, ac ymunodd â'r Brifysgol pan darodd y pandemig. Chwaraeodd ran ryfeddol yn ysgogi sefydlu a chyflawni'r Gwasanaeth Sgrinio Covid, gan ddefnyddio dulliau newydd nad oedd yn cystadlu am adnoddau prin gydag ymdrechion profi eraill. Nifer fach iawn o brifysgolion a lwyddodd i sefydlu a chynnal eu gwasanaethau profi PCR eu hunain, a gwnaeth Caerdydd hynny mewn cyfnod anhygoel o fyr gan gyflawni safonau uchel iawn a gymeradwywyd yn glinigol yn ddiweddarach.
Gwnaeth llawer o unigolion gyfraniadau pwysig fel y cydnabuwyd mewn dyfarniad ar wahân i'r Gyfadran gyfan, ond cydnabuwyd pwysigrwydd unigryw Tomasz fel unigolyn gyda Gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Eithriadol i'r Brifysgol”.
Enillodd Dr Emma Yhnell gategori Seren Newydd – Academydd ar Ddechrau Gyrfa. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion sydd wedi tyfu’n sylweddol yn eu rôl, ac wedi cael effaith sylweddol, gadarnhaol o fewn neu ar ran y Brifysgol.
Dywedodd Dr Yhnell, a ddyrchafwyd yn Uwch-ddarlithydd yn ddiweddar: "Rwyf i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr; roedd yn sioc enfawr ond hyfryd. Rwyf i mor ddiolchgar fy mod yn cael gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mor wych yn Ysgol y Biowyddorau sydd wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyliad wrth fy nghefnogi yn fy ngwaith. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i gael fy nghydnabod fel unigolyn, ond rwy'n gwybod bod cynifer o gydweithwyr eithriadol ar draws Ysgol y Biowyddorau a’r Brifysgol gyfan sydd hefyd yn gwneud gwaith anhygoel”.
Daeth tîm Canolfan Addysg Anatomeg Cymru, dan arweiniad Dr Hannah Shaw, sydd hefyd yn rhan o'r Ysgol, yn ail yn y categori Gwella Profiad Dysgu Myfyrwyr yn Eithriadol.
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2021 mewn seremoni wyneb yn wyneb ar 3 Mawrth. Damian Walford Davies, Y Dirprwy Is-Ganghellor, a Claire Sanders, Y Prif Swyddog Gweithredu fu’n arwain y seremoni.
Dyma a ddywedodd Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor: "Roedd yn bleser cwrdd wyneb yn wyneb unwaith eto i ddathlu ein staff a rhoi sylw i ystod mor eang o waith ardderchog. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i enwebu cydweithiwr, a llongyfarch yr holl enwebeion a'r enillwyr am eu hymroddiad, brwdfrydedd, a'u hymrwymiad i wneud Prifysgol Caerdydd yn lle gwych i weithio ac astudio."
Ychwanegodd yr Athro Murray: "Rydym ni am ddiolch i’r holl enillwyr a’u llongyfarch, ac rwyf i wrth fy modd fod eu hymdrechion wedi derbyn cydnabyddiaeth mor gyhoeddus. Dim ond brig y mynydd ia o staff eithriadol yn y Biowyddorau yw'r rhain, ac rwy'n ei theimlo'n fraint cael arwain Ysgol gyda chynifer o unigolion rhagorol sy'n gwneud y fath ymdrechion ar ran ein myfyrwyr, ymchwil, yr Ysgol a'r Brifysgol."