Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad sbarc|spark yn agor drysau newydd

7 Mawrth 2022

Cutting the sbarc|spark ribbon, left to right: Professor Alun Preece, Co-director, Crime and Security Research Institute; Rhys Pearce-Palmer, Innovation Operations Manager, Cardiff Innovations@sbarc|spark; Professor Chris Taylor, Director, SPARK; Professor Damian Walford Davies, Deputy Vice Chancellor; Professor Sally Power, WISERD, and Sally O’Connor, SPARK Director of Operations.

Mae canolfan flaenllaw newydd lle mae syniadau'n tanio’r gwaith o ddyfeisio pethau newydd wedi agor ei drysau.

Mae sbarc|spark – sef cartref arloesedd Caerdydd – yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deillio academaidd at ei gilydd mewn adeilad o’r radd flaenaf wrth ganol Campws Arloesedd Caerdydd.

Mae’r ganolfan, sy’n cynnwys unedau cydweithio, canolfan ddelweddu, awditoriwm a RemakerSpace, yn cynnig rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol wrth i’r DU ffynnu o'r newydd ar ôl pandemig COVID-19, a cheir man penodol i fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid yno.

[ffilm]

Y ganolfan yw gweledigaeth Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, a oedd wedi gweithio’n ddygn i greu 'cylch rhinweddol' ar gyfer twf a fyddai'n denu buddsoddiad ac yn creu lles drwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a phartneriaethau.

"bydd sbarc|spark yn denu ymchwilwyr, graddedigion, entrepreneuriaid a chyllidwyr talentog, yn ogystal a dod â rhanddeiliaid o bob sector at ei gilydd i greu prifysgol sy’n ysbarduno twf," meddai'r Athro Riordan.

"Bydd yn rhoi hwb i enw da prifddinas Caerdydd sy’n creu swyddi, sy’n ffynhonnell graddedigion medrus iawn ac sy’n gartref i arloesedd sy’n llewyrchu."

Dyma’r cyfleuster mwyaf o’i fath yng Nghymru o ran arloesedd. Mae’n ymestyn dros 12,000 o fetrau sgwâr ar draws chwe llawr, a cheir unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd yn Arloesoedd Caerdydd@sbarc - y ganolfan ar gyfer partneriaethau Caerdydd.

Bydd academyddion arbenigol o 12 o grwpiau ymchwil ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol – a elwir gyda'i gilydd yn SBARC – yn rhannu lle gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu, i brofi ac i feithrin syniadau newydd a all helpu i greu cymdeithas well.

Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr SBARC, yr Athro Chris Taylor: “Mae SBARC wedi ymrwymo i astudio sut mae cymdeithas yn gweithio, ac mae’r grwpiau sy’n aelodau yn mynd i’r afael â materion sy’n amrywio o iechyd y cyhoedd a throsedd i dlodi a newid yn yr hinsawdd.” Ni fu cysyniad Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol – y tro cyntaf y mae hyn yn digwydd yng Nghymru – erioed mor berthnasol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Sally Power, Cyfarwyddwr grŵp ymchwil WISERD:  "Mae WISERD wedi cyffroi drwyddi draw am y posibilrwydd o symud i sbarc|spark. A hithau’n bartneriaeth rhwng pum prifysgol – Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe – mae WISERD eisoes yn dangos manteision gweithio’n rhyngddisgyblaethol.

"Bydd SBARC yn dangos ffordd arall rydyn ni’n cydweithio â’n gilydd. Bydd yn golygu y gallwn ni ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gydag ymchwilwyr gwahanol sydd ag arbenigeddau gwahanol, a hynny mewn meysydd gwahanol. Bydd cyfleusterau o'r radd flaenaf a fydd yn cefnogi casglu a dadansoddi data, yn ogystal â’r gallu i gyrchu rhwydweithiau dylanwad a fydd yn manteisio i’r eithaf ar gyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil. Yn fyr, bydd SPARK yn golygu y bydd Cymru ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth gymdeithasol."

Daeth yr adeiladwr Bouygues UK o hyd i fwy na 70% o gontractwyr safle a llafur yn lleol yn ystod y gwaith o godi sbarc|spark, gan ddod â manteision economaidd i Gymru.

Yn y pen draw, bydd 800 o bobl yn gweithio yn sbarc|spark. Mae’r adeilad, a ddyluniwyd gan y penseiri arobryn Hawkins\Brown, i’w weld ger canolfannau arbenigol eraill: y Cyfleuster Ymchwil DrosiChanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.

Mae'r adeilad yn dod â manteision i'r gymuned leol. Bydd y llawr gwaelod ar agor i’r cyhoedd gyda chaffi, awditoriwm hyblyg ar gyfer digwyddiadau sy’n debyg i TEDx a grisiau agored – yr ‘Oculus’ – a luniwyd i annog cydweithio a digwyddiadau cymdeithasol yn yr adeilad.

Mae'r Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor, wedi bod yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r ganolfan.

"Rydyn ni’n dathlu agoriad sbarc|spark ac rydyn ni’n hyderus y bydd y weledigaeth a oedd wedi'i hysbrydoli – sef cymuned o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â lles cymdeithasol ac economaidd yn nod pennaf iddyn nhw, ar y cyd â phartneriaid allanol sy’n frwd iawn dros arloesedd mewn adeilad a ddyluniwyd i ddileu rhwystrau – ac y bydd hyn yn realiti byw erbyn hyn. Chwedl y geiriau sy'n ymddangos yn yr adeilad: ‘Nid uchel gaer, ond gefail.’

Rhannu’r stori hon