Ewch i’r prif gynnwys

Darlith gyhoeddus lwyddiannus am yr ymchwil ddiweddaraf i glefyd Parkinson

10 Mawrth 2022

Neurons under a microscope

Mae uwch ymchwilydd o'r Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) wedi cyflwyno darlith gyhoeddus fel rhan o gyfres Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw Prifysgol Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar glefyd Parkinson.

Clefyd Parkinson yw'r cyflwr niwroddirywiol mwyaf cyffredin ond un yn y byd, a hwn yw’r pandemig sy’n tyfu gyflymaf o ran clefyd nad yw’n heintus.

Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o wella clefyd Parkinson, sy’n golygu bod gwir angen triniaethau newydd ac effeithiol ar ei gyfer.

Mae Dr Dayne Beccano-Kelly yn Gymrawd Arweinydd y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi yn y DU sy’n gweithio yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol (DPMCN). Siaradodd Dr Beccano-Kelly am ei ymchwil sy’n cynnwys astudio sut mae celloedd yr ymennydd yn newid yn ystod clefyd Parkinson, gan ddechrau yn y cyfnodau cynharaf a’u mapio dros amser.

Meddai Dr Beccano-Kelly: "Roedd yn wych cyflwyno fy sgwrs fel rhan o gyfres Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw Prifysgol Caerdydd. Credaf, gan fod ymchwil iechyd yn cael ei wneud er budd pawb, y dylem hysbysu pawb a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn rheolaidd o ran ei gynnydd a'i gyfeiriad.  Felly, roedd hi’n bleser rhoi'r sgwrs."

Yn aml mae clefyd Parkinson yn cael ei ystyried yn glefyd sy’n gysylltiedig â henaint, ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod marwolaeth niwronau yn cychwyn pan fo swyddogaethau arferol yn mynd o chwith amser hir cyn i'r symptomau clinigol adnabyddus ddechrau.

Ychwanegodd Dr Beccano-Kelly: "Yn benodol, mae fy labordy'n credu bod y camweithredu cynnar hwn yn digwydd ym mhrif swydd niwronau ac o'i hamgylch, sef cyfathrebu trydanol. Oherwydd y ffordd unigryw a gwych y mae UKRI wedi ariannu fy mhrosiect, nod fy ngwaith labordy yn y DRI yw nodi arwyddion cynnar o ddirywiad sy'n gysylltiedig â'r clefyd, gan ganolbwyntio ar y cyfathrebu hwn ac, yn hollbwysig, y ffordd y mae'n newid dros amser.

Fel hyn, nid yn unig y mae ein hymchwil yn archwilio pa newidiadau sy'n digwydd yn y cyfathrebu hwn, mae hefyd yn edrych ar bryd mae’r cyfathrebu hwn yn mynd o'i le, rhywbeth y mae llawer llai o ddealltwriaeth ohono. Bydd hyn yn ein helpu i gael cyfle i gynhyrchu meddyginiaethau effeithiol drwy dargedu yr hyn sy'n mynd o'i le, a hefyd pryd.
Dr Dayne Beccano-Kelly, UK DRI Group Leader

"Mae ymchwil sy'n digwydd yn y DRI ac ar draws DPMCN ar flaen y gad o ran ymdrechu i wella bywydau pobl sy'n byw gydag anhwylderau niwroddirywiol."

Sgwrs Dr Dayne Beccano-Kelly, Mae'n hen bryd: Cofnodwyd Sut gall newidiadau cynnar yn y synaps effeithio ar glefyd Parkinson, ar 17 Chwefror ac mae ar gael i'w gweld ar-lein.

I gael gwybod mwy am y gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus, ewch i wefan Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon