Ewch i’r prif gynnwys

Cafodd mam ei hysbrydoli i astudio nyrsio plant er cof am ei mab

17 Chwefror 2022

Pan gollodd Elinor Ridout ei mab 13 oed William yn druenus o ifanc oherwydd salwch sydyn ac acíwt yn ystod cyfnod y pandemig ym mis Mawrth y llynedd, roedd hi ar goll yn llwyr.

Roedd hi’n hapus yn treulio’i bywyd yn canolbwyntio ar Will, a oedd ag anableddau, a'i chwaer hŷn Jenny.

Yn fuan wedi hynny, roedd hi’n teimlo bod yn rhaid iddi ddod o hyd i bwrpas, rhywbeth i'w wneud er cof am Will, felly cofrestrodd ar lwybr Prifysgol Caerdydd at ofal iechyd i ddilyn ei breuddwyd ac astudio gradd mewn nyrsio plant.

Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) sy’n darparu’r llwybr ac mae'n cynnig llwybr clir i ddysgwyr sy'n oedolion sy'n gobeithio astudio gradd yn yr Ysgol Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywed Elinor ei bod yn benderfynol o lwyddo a dangos i'w merch ei bod yn bosib cael breuddwydion a dyheadau at y dyfodol a chreu bywyd da. Yn ddiweddar, derbyniodd ei chynnig i astudio nyrsio plant ym mis Medi.

Dywedodd Elinor, 38 oed o Ben-y-bont ar Ogwr: "Roeddwn wedi dysgu cymaint gan Will dros y blynyddoedd ac felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n caniatáu imi ddefnyddio popeth yr oedd wedi'i ddysgu imi, ac rydw i wedi mwynhau gweithio gyda phlant erioed.

"Roedd Will i mewn ac allan o'r ysbyty yn aml oherwydd ei epilepsi dros y blynyddoedd, ac roedd wrth ei fodd gyda'i nyrsys yn ei ysgol a'n hysbytai lleol. Roeddwn i’n hynod ddiolchgar am y ffordd yr oedden nhw’n gofalu amdano, ac nid oedd ofn arno fod yn yr ysbyty oherwydd hynny.

"Rwy'n gwybod y byddai Will wedi bod yn hynod o falch pe bawn i'n nyrs. Y syniad o ddefnyddio popeth a ddysgodd Will imi a gallu helpu teuluoedd eraill ar eu taith oedd y cam cywir a’r unig ffordd ymlaen.

"Roeddwn i mor nerfus o ran dechrau astudio eto ar ôl cynifer o flynyddoedd, yn enwedig pwnc nad oeddwn i wedi'i astudio o'r blaen. Roedd y gefnogaeth a'r cyfathrebu cyn i'r cwrs ddechrau yn wych, ac roeddwn yn teimlo'n fwy cartrefol cyn i'r ddarlith gyntaf gael ei chynnal hyd yn oed.

"Rydyn ni wedi bod yn lwcus bod y rhan fwyaf o'r dysgu wedi gallu digwydd wyneb yn wyneb. Torrais i galon mochyn yn ddarnau yn fy nghegin yn ystod un o'r sesiynau Sadwrn ar-lein. Doeddwn i ddim yn credu y byddwn i’n gwneud hynny erioed, ond roedd yn berthnasol iawn i'n pwnc ac wedi cefnogi ein dysgu yn fawr iawn.

"Cawson ni gefnogaeth wych hefyd o ran proses ymgeisio UCAS, ac rwy newydd gael gwybod fy mod wedi sicrhau fy nghynnig cyntaf i astudio Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi ac rwy wrth fy modd. Yn y diwedd, cofrestrodd fy merch ar y llwybr at fusnes ychydig fisoedd ar fy ôl, ac mae hi'n teimlo'r un fath am ei llwybr hi.”

Mae'r llwybr at ofal iechyd yn un o 12 y mae CPE yn eu darparu. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Rhannu’r stori hon