Ewch i’r prif gynnwys

Cynhyrchiad dawns a ysbrydolwyd gan ficrosgopeg laser yn mynd ar daith

4 Chwefror 2022

Jack Philp Dance OPTO NANO
Image credit: Kirsten McTernan

OPTO NANO yn daith fywiog ac egnïol drwy ymchwil delweddu celloedd arloesol yr Athro Paola Borri

Gwnaeth cyfarfyddiad mewn dosbarth dawns amatur ysgogi cynhyrchiad dawns-gwyddoniaeth cyfoes newydd, sy’n mynd i’r llwyfan ym mis Mawrth.

Aeth y coreograffydd, Jack Philp, ymlaen i gysgodi'r Athro Borri yn y labordy a chael gwybod am ei gwaith, sef adeiladu microsgopau newydd unigryw a defnyddio laserau i ddadansoddi systemau biolegol.

Er nad yw’r labordy i’w weld yn fan cychwyn naturiol ar gyfer natur gorfforol dawns, gwnaeth y defnydd o ddirgryniad, symudiad, golau a mater ar raddfa nano daro tant gyda Mr Philp.

Dywedodd: "Mae cael y cyfle i gyfleu ymchwil yr Athro Borri mewn ffordd greadigol wedi bod yn fraint. Mae OPTO NANO yn fynegiant corfforol o fethodolegau a nodweddion deinamig yr ymchwil a’r offer sy’n cael eu defnyddio. Roedd iaith y labordy a'r maes ymchwil hwn yn hynod o ginesthetig mewn sawl ffordd; mae symudiad yn ganolog i’r cyfan. Yn y bôn, rydym yn cyfleu hynny mewn gofod artistig. Rwy'n edrych ymlaen at weld pobl yn ystyried y syniadau hynny mewn ffordd newydd oherwydd y cynhyrchiad hwn”.

Dywedodd yr Athro Borri: "Rwy'n credu'n gryf bod meddwl creadigol o werth mawr i faes gwyddoniaeth, ac rwy’n falch iawn o gael bod yn rhan o'r prosiect hwn. Mae Jack wedi cymryd cysyniadau cymhleth fy ymchwil, sy’n cydgysylltu ffiseg a’r gwyddorau bywyd, a chreu gwaith sy’n mynd y tu hwnt i adloniant i’w rannu â chynulleidfa newydd sbon na fyddem fel arfer yn gallu ei chyrraedd."

Mae'r darn yn cynnwys sgôr electronig gan y cyfansoddwr R. Seiliog o Gymru ac yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

OPTO NANO trailer

Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer y daith:

03.03.22 - SWANSEA // ABERTAWE
Taliesin

19.03.22 - CARDIFF // CAERDYDD
Dance House / Ty Dawns

07.04.22 - BANGOR
Pontio

30.04.22 - CARDIFF // CAERDYDD
CULTVR LAB
*perfformiad digidol trochi

Rhannu’r stori hon