Ewch i’r prif gynnwys

Bioffiseg yn ysbrydoli dawns gyfoes newydd

6 Tachwedd 2019

Contemporary dance
Image credit: Jonathan Dunn

Efallai nad microsgopeg laser yw'r ysbrydoliaeth fwyaf amlwg i ddawns.

Ond mae ymchwil arloesol un gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn cael ei defnyddio'n sail i waith cyfoes newydd.

Wedi'i ysbrydoli gan waith yr Athro Paola Borri, sy'n ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng gwyddorau bywyd a'r gwyddorau ffisegol, mae'r coreograffydd Jack Philp wedi creu OPTO NANO.

Yn benodol, mae'n tynnu ar waith yr Athro Borri ar ficrosgopeg optegol sy'n sganio laserau.

Mae'r Athro Borri, sy'n ddawnsiwr ei hun, yn datblygu technolegau microsgopeg newydd, gan adeiladu microsgopau newydd yn y labordy a gweithio gyda laserau i ddadansoddi systemau biolegol.

Mae dirgryniadau, symudiadau, golau a mater ar y raddfa nano yn gysyniadau craidd yr ymchwil, y mae Mr Philp yn gobeithio eu hadlewyrchu yn y coreograffi.

Professor Borri
Professor Borri

Dywedodd yr Athro Borri, o Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol, fod hyn yn “gyffrous iawn” a'i bod yn edrych ymlaen at weld yr ymateb i'r ddawns.

“Fel gwyddonydd a dawnsiwr, rwy'n credu'n gryf yn y gwerth y mae meddwl creadigol yn ei gynnig i wyddoniaeth, ac rwyf wrth fy modd o gael ymwneud â'r prosiect hwn sy'n cynnig dull newydd a chyffrous o ymwneud â'r cyhoedd,” meddai.

“Drwy greu gwaith sy'n mynd y tu hwnt i adloniant, mae Jack wedi cymryd cysyniadau cymhleth fy ymchwil sy'n ymwneud ag uwch dechnegau micro-spectrosgopeg laser ac wedi'u hagor nhw i gynulleidfa newydd sbon.”

Cyfarfu'r ddau drwy ddosbarthiadau dawnsio amatur ac mae Mr Philp wedi cysgodi'r Athro Borri yn y labordy er mwyn dysgu am ei gwaith.

“Rwy' wedi ymddiddori erioed mewn archwilio’r man cyfarfod rhwng yr academaidd a'r creadigol, gan edrych ar sut gallwn ni gymryd methodoleg gymhleth a gwneud iddi fod yn fwy hygyrch i'r cyhoedd,” meddai Mr Philp.

“Does dim llawer o enghreifftiau o ddawns-gwyddoniaeth yn digwydd yng Nghymru – er ei fod yn digwydd yn llwyddiannus mewn mannau eraill – ac rwy'n awyddus i ddefnyddio dull mentrus ac uchelgeisiol sy'n dod â'r ddau faes gwaith hyn at ei gilydd ac yn cynnig profiadau newydd i bobl.”

Mae Mr Philp yn gweithio gyda thri dawnsiwr a'r cyfansoddwr R. Seiliog o Gymru i ddatblygu'r darn ymhellach. Mae'r darn yn cael ei gefnogi gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a chafodd £3,000 o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd mai ei nod yn y pen draw yw datblygu'r ddawns yn gynhyrchiad a mynd ar daith.

Cynhelir ymarfer agored ar gyfer OPTO NANO am 3pm ar 6 Tachwedd yn Nhŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil