Ewch i’r prif gynnwys

Y newyddion diweddaraf am ein prosiect yng Nghwm Cynon

25 Chwefror 2022

A group of people at the Cynon Valley Organic Adventures site

Mae gwaith wrthi’n digwydd ar safle Anturiaethau Organig Cwm Cynon, ac mae nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill. 

Pobl a atgyfeiriwyd at y cynllun yn sgîl presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun lleoliad Kickstart sydd wedi creu’r ffyrdd ar gyfer y llwybr natur newydd ar y safle.

Mae gwaith bellach ar fin dechrau i adeiladu pont newydd dros y nant leol. Myfyrwyr peirianneg sifil o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd fydd yn cefnogi’r gwaith hwn.

Gyda chymorth Amgueddfa Cymru yng Nghaerllion, mae gwaith wedi dechrau ar greu gardd les Rufeinig ac mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu tŷ crwn Celtaidd. Rydyn ni hefyd wedi gwneud cais am arian i adeiladu ystafell ddosbarth ecolegol lle y byddwn ni’n cynnal gweithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur a lles.

Rydyn ni hefyd yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd lleol i ddeall yn well y rhwystrau sy'n atal cleifion rhag cael eu hatgyfeirio at weithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur a fydd yn cefnogi eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Rhannu’r stori hon