Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu Max: bywyd a cherddoriaeth Peter Maxwell Davies

23 Rhagfyr 2021

Peter Maxwell Davies sitting at a desk writing, surrounded by a candle and a statue with an organ behind him.

Llwyddiant ysgubol yn yr Ysgol Cerddoriaeth gyda digwyddiad Datgelu Max: Cyngerdd a Diwrnod Astudio Peter Maxwell Davies.

Ar 4 Rhagfyr cynhaliodd yr Ysgol Cerddoriaeth gyngerdd a diwrnod astudio Datgelu Max: Peter Maxwell Davies a dynnodd sylw at ei waith enwog yn ogystal â’i ddarnau nad ydynt wedi cael digon o sylw, ynghyd â sawl trafodaeth gan siaradwyr uchel eu proffil.

Roedd Peter Maxwell Davies (1934 – 2016) yn gyfansoddwr rhyngwladol blaenllaw yn y cyfnod ar ôl y rhyfel a oedd yn adnabyddus am ei waith theatr gerddorol a’i gerddoriaeth gerddorfaol a lleisiol, ac yn 2004 cafodd y teitl mawreddog 'Meistr Cerddoriaeth y Frenhines'.

Roedd y detholiad o gyflwyniadau yn gwahodd siaradwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt i fyfyrio ar fywyd a gwaith y cyfansoddwr a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel Max.

Roedd Upa Mesbahian o Goleg y Brenin Llundain yn edrych yn fanwl ar yr opera siambr adnabyddus The Lighthouse, gan roi dadansoddiad seicolegol o'r cymeriadau, tra roedd Richard McGregor o Conservatoire Brenhinol yr Alban yn trafod dulliau cyfansoddi Max a'r operâu Taverner a Resurrection. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Rodney Lister (Prifysgol Boston), Alexander Kolassa (y Brifysgol Agored) a dau o ymddiriedolwyr The Max Trust, Sally Groves MBE a Sylvia Junge.

Students and a composer on stage performing.

Roedd toriad yng nghanol y dydd yn gyfle i fyfyrwyr ensemble Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes yr Ysgol Cerddoriaeth fynd i lwyfan y Neuadd Gyngerdd ar gyfer cyngerdd amser cinio o'r enw ‘Incarnations: Early Chamber Works’. Roedd y gyngerdd hon, wedi’i chyfarwyddo gan Dr Robert Fokkens, hefyd yn cynnwys y pianydd Yihan Jin a'r unawdydd soprano Jana Holesworth. Roedd y gyngerdd yn cynnwys perfformiad cyntaf y byd o saith darn o waith gan y cyfansoddwr diweddar. Fe wnaeth Nicholas Jones, a drefnodd y Diwrnod Astudio, ddod o hyd i bump ohonynt yn y Llyfrgell Brydeinig.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ar y cyfan, a hoffwn longyfarch yr holl berfformwyr yn enwedig am eu dehongliadau hynod ymroddedig a chraff.

Dr Nicholas Jones Reader in Musicology

I'r rhai a gollodd y digwyddiad neu sydd am wylio eto, gallwch wylio recordiadau fideo o gyflwyniadau'r Diwrnod Astudio. At hynny, cadwch lygad am docynnau ar gyfer perfformiad o fonodrama enwog Davies, ‘Eight Songs For A Mad King’ a fydd yn cael ei berfformio yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd ym mis Mai 2022.