Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn darganfod y dystiolaeth enetig gyntaf a allai wahanu diagnosis o seicosis ôl-enedigol oddi wrth anhwylder deubegynol

23 Rhagfyr 2021

A pregnant woman having a consultation with a doctor

Mae papur ymchwil newydd ar seicosis ôl-enedigol a'i gysylltiad ag anhwylder deubegynol, dan arweiniad ymchwilwyr yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol, wedi cadarnhau gwahaniaethau rhwng y ddau am y tro cyntaf.

Hyd yma, mae seicosis ôl-enedigol ac anhwylder deubegynol mewn menywod wedi cael eu trin yn yr un modd.

Mae’r ymchwil, sydd wedi'i chyhoeddi yng nghyfnodolyn The Lancet Psychiatry, ac sy’n cael ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Ganolfan Ymchwil Feddygol (MRC), yn gobeithio cael effaith ar arferion clinigol yn y dyfodol, gan gynnig rhaglenni triniaeth a rheoli penodol i fenywod ar gyfer pob cyflwr.

Mae'r tîm hefyd yn gobeithio y bydd y papur yn codi ymwybyddiaeth o seicosis ôl-enedigol ac yn helpu o ran ei gydnabod fel clefyd ynddo’i hun o fewn y sbectrwm anhwylder deubegynol.

Dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Arianna Di Florio:

Dyma’r dystiolaeth enetig gyntaf a allai lywio’r broses o ailddiffinio a dosbarthu seicosis ôl-enedigol.
Yr Athro Arianna Di Florio Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Mae seicosis ôl-enedigol wedi bod yn ddadleuol ers dros 150 mlynedd.

Mae'r diffyg cydnabyddiaeth swyddogol mewn llawlyfrau diagnostig wedi rhwystro ymchwil ac wedi achosi cryn ddryswch i glinigwyr a menywod, gyda chanlyniadau negyddol posibl.

Roedd yr astudiaeth yn y DU yn cynnwys 203 o fenywod â seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf, ynghyd â 1,225 o fenywod ag anhwylder deubegynol a oedd wedi rhoi genedigaeth, a grŵp rheoli o 2,809 o fenywod o'r boblogaeth gyffredinol nad oeddent yn profi'r cyflyrau.

Rhoddodd y Cynorthwy-ydd Ymchwil Jessica Yang fanylion am yr ymchwil, “Mae ymchwil flaenorol wedi dangos rhai gwahaniaethau clinigol rhwng seicosis ôl-enedigol ac anhwylder deubegynol.

“Felly fe wnaethon ni gymharu geneteg yr anhwylderau hyn er mwyn deall yn well y gwahaniaethau a’r elfennau tebyg."

Mae’r papur yn awgrymu y gallai seicosis ôl-enedigol fod yn rhannol wahanol o safbwynt genetig i anhwylder deubegynol sy’n dychwelyd ar ôl genedigaeth, lle roedd y profiadau hyn gynt yn cael eu cymharu.

Ychwanegodd Jessica:

Yn y gorffennol, mae ymchwilwyr wedi dangos bod gwahaniaethau clinigol rhwng y ddau, ond dyma'r tro cyntaf i'r gwahaniaethau hyn gael eu cadarnhau. Mae'n awgrymu bod mecanweithiau biolegol ar waith sy’n wahanol ond yn gorgyffwrdd, a bydd yn helpu o ran cydnabod seicosis ôl-enedigol fel anhwylder mewn llawlyfrau diagnostig.
Jessica Yang Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Wrth sôn am ymchwil yn y dyfodol, dywedodd Jessica “Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r gwaith a wnaed yn yr astudiaeth hon drwy gasglu sampl fwy o fenywod â seicosis ôl-enedigol, gan gasglu samplau yn fyd-eang, gan fod y sampl hon yn cynnwys pobl o dras Ewropeaidd yn unig.

“Rydyn ni hefyd yn gobeithio datblygu dulliau asesu ar gyfer seicosis ôl-enedigol y gellir eu defnyddio mewn gwahanol wledydd a diwylliannau, gyda chymorth gweithwyr gofal iechyd a menywod sydd â phrofiad go iawn o’r cyflwr.”

Darllenwch y papur llawn: Postpartum psychosis and its association with bipolar disorder in the UK: a case-control study using polygenic risk scores

Rhannu’r stori hon