Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgor newydd i ail-siapio gwyddor y môr yn sylfaenol

21 Rhagfyr 2021

Image source: Mitra A, Irigoien X (2021), Mixoplankton – marine organisms that break the rules. EU Research Autumn Issue 2021 Blazon Publishing pp 37-39.

Mae ymchwilydd o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd yn cynnull gweithgor Pwyllgor Gwyddonol Ymchwil Gefnforol newydd i nodi ffyrdd o integreiddio’r paradeim micsoplancton newydd.

Bydd Dr Aditee Mitra, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, gyda George McManus, Athro Gwyddorau’r Môr ym Mhrifysgol Connecticut, yn Cadeirio gweithgor Pwyllgor Gwyddonol Ymchwil Gefnforol (SCOR) newydd, Micsotroffi yn y Cefnforoedd - Dyluniadau ac Adnoddau Arbrofol Newydd ar gyfer paradeim troffig newydd, a elwir yn MixONET.

Mae’r gweithgor yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol byd-eang o arbenigwyr mewn ecoffisioleg plancton a bioleg foleciwlaidd, technoleg samplu maes a monitro a chefnforeg fiolegol a ffisegol.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf gwelwyd newid paradeim o ran ein dealltwriaeth o’r we fwyd forol. Mae’r ddeuoliaeth rhwng “ffytoplancton tebyg i blanhigyn” a “phrotosõoplancton tebyg i anifail” bellach yn cael ei chydnabod fel gorsymleiddiad. Mae canfyddiadau diweddar yn awgrymu bod llawer o blancton protist yn cyfuno ffotosynthesis (cynhyrchiant sylfaenol) a bwydo (cynhyrchiant eilaidd) mewn un gell. Enw’r organebau hyn yw micsoplancton. Drwy fethu â chydnabod cyffredinrwydd gweithgarwch micsoplancton, nid yw gwyddor y môr ond wedi bod yn astudio hanner ffisioleg ac ecoleg ffurf bwysig ar fywyd ac, yn yr un modd, mae gwrth-ddweud tebyg mewn polisïau rheoli ansawdd dŵr a physgodfeydd.

Prif nod MixONET yw nodi ffyrdd o integreiddio’r paradeim newydd mewn ecoleg forol o fewn modelau ymchwil cyfredol. Mae’r paradeim newydd hwn sy’n canolbwyntio ar ficsoplancton yn disodli dros 100 mlynedd o ddealltwriaeth o gefnforeg fiolegol, a gallai ail-siapio ecoleg forol yn sylfaenol.

Er bod modelau cysyniadol a meintiol diweddar wedi’u haddasu i ddarparu ar gyfer y paradeim newydd, nid yw hynny’n wir am ddulliau samplu a monitro. Mae hyn wedi creu bwlch gwybodaeth sylweddol am sylfeini’r we fwyd forol. Bydd y grŵp yn eirioli ar gyfer ailalinio cofnodion plancton cyfredol gan ystyried y paradeim micsoplancton, yn ogystal â nodi cysylltiadau rhwng cymunedau micsoplancton ac amrywiannau morol hanfodol. Bydd hefyd yn ailwerthuso dulliau ymchwil ac arferion cefnforeg fiolegol safonol cyfredol i’w defnyddio o dan y paradeim micsoplancton.

Mae angen i lunwyr polisi ddwyn sylw myfyrwyr at bwysigrwydd y paradeim micsoplancton mewn cefnforeg fiolegol. Felly, bydd y grŵp yn datblygu deunydd hyfforddi amlieithog, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y paradeim micsoplancton mewn cefnforeg fiolegol, ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, rheolwyr ecosystemau, athrawon a myfyrwyr, i wella llythrennedd morol.

Er mwyn deall sut y bydd ecoleg plancton yn ymateb i newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni ddeall sut y bydd micsoplancton yn ymateb. Bydd gwaith MixONET, felly, yn gwneud cyfraniad cadarn at ateb y cwestiwn hwn a helpu i gyflawni blaenoriaethau Degawd Forol y Cenhedloedd Unedig.

Mae SCOR yn sefydliad anllywodraethol nid-er-elw rhyngwladol a ffurfiwyd gan y Cyngor Gwyddorau Rhyngwladol i helpu i fynd i’r afael â chwestiynau gwyddoniaeth rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â’r cefnfor.

Rhannu’r stori hon