Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr sy’n gwneud y cwrs MA Dylunio Trefol yn ennill y brif wobr am brosiect gan fyfyriwr

6 Rhagfyr 2021

The Green Loop
The Green Loop

Mae’n bleser gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd gyhoeddi bod myfyriwr sy’n gwneud cwrs MA Dylunio Trefol y Brifysgol wedi ennill gwobr arbennig am y prosiect gorau gan fyfyriwr yn y DU gan y Grŵp Dylunio Trefol cenedlaethol.

Mae’r Gwobrau Dylunio Trefol Cenedlaethol yn ceisio adlewyrchu’r mathau gwahanol o waith a wneir gan ymarferwyr ym maes dylunio trefol, o lunio polisïau, datblygu fframweithiau dylunio trefol ac uwch-gynllunio i baratoi cynlluniau adeiladu, lle mae’r meini prawf yn seiliedig ar ganllawiau/safonau dylunio yn y byd go iawn a dyletswyddau statudol.

Dywedodd yr Athro Aseem Inam, cyn-Gyfarwyddwr y cwrs ac arweinydd y modiwl Stiwdio Dylunio Trefol yn ystod Hydref 2020-21:

“Dyma foment falch i He Wang a’r cwrs MA Dylunio Trefol, yn enwedig y tiwtor stiwdio, Lotte Hoeijmakers. Diben y cwrs, fel y’i cynrychiolwyd yn y stiwdios dylunio ym mlwyddyn academaidd 2020-21, yw helpu ein myfyrwyr i drawsnewid dyfodol y maes.  Mae prosiect He Wang, sy’n canolbwyntio ar ardal Butetown Caerdydd, yn esiampl o ymarfer trefol hollbwysig.”

Mae ‘The Green Loop’ yn ceisio creu math newydd o gymuned sy’n gynaliadwy nid yn unig mewn ffordd economaidd ond hefyd mewn ffordd amgylcheddol, a hynny drwy ymddiriedolaethau tir cymunedol a dylunio trefol hyblyg ac arloesol. Man dechrau’r prosiect yw ymchwilio i’r berthynas rhwng economeg yr amgylchfyd cyhoeddus a’r math o ddefnydd a wneir o dir. Mae’r dadansoddiad yn awgrymu bod dolen werdd rhwng y ddau, sef bod safle mwy cymysg ac amrywiol yn caniatáu ystod fwy amrywiol o bobl yn yr ardal a mwy o duedd i bobl gerdded a seiclo i’w cyrchfannau. Mae hyn, yn ei dro, yn hyrwyddo mynediad at fannau cyhoeddus gerllaw. Bydd mannau cyhoeddus mwy bywiog yn y gymuned yn cynyddu gwerth economaidd y gymuned honno a theimlad pobl o berthyn. Mae’r prosiect yn seiliedig ar safle model, dull economaidd o weithredu sy’n unol â’r weledigaeth ar gyfer y dyluniad, egwyddorion cynllunio hyblyg ac arloesol a dosbarthiad swyddogaethol i greu cymuned ddynol sy’n seiliedig ar annog y gymuned i gymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth am He Wang a ‘The Green Loop’ ar gael ar dudalen y Grŵp Dylunio Trefol ar YouTube.

Llongyfarchiadau i He Wang a’r tîm MA Dylunio Trefol cyfan ym Mhrifysgol Caerdydd!

Rhannu’r stori hon