Ewch i’r prif gynnwys

Llwybro cerbydau yn well gyda Grŵp Ocado

17 Tachwedd 2021

Line of vans from above in a car park

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd, wedi'u hymsefydlu mewn tîm ochr yn ochr ag arbenigwyr Ocado Technology,  wedi arloesi gydag ymchwil i lwybro cerbydau yng Ngrŵp Ocado fel rhan o brosiect KTP.

Ariennir y prosiect yn rhannol gan grant Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth oddi wrth Innovate UK a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC). Ei nod yw gwella’r system a ddefnyddir gan Ocado ar hyn o bryd i ddod o hyd i’r llwybrau gorau drwy ddefnyddio algorithmau cymhleth a thechnegau optimeiddio datblygedig gan adeiladu ar y galluoedd gwyddorau data soffistigedig sydd gan Ocado Technology ar hyn o bryd.

Problem Llwybro Cerbydau (VRP) yw craidd yr ymchwil wyddonol ar ddosbarthu a chludo nwyddau. Diolch i ddatblygiadau mewn algorithmau newydd sy'n ymdrin â VRP, gallwn gael gwell atebion llwybro hyd yn oed ar gyfer achosion mawr. Mae hyn yn arbennig o bwysig i Ocado gan eu bod nhw a'u partneriaid manwerthu yn gweithredu mewn rhwydwaith trafnidiaeth mor ddwys.

Yr Athro Emrah Demir Professor of Operational Research, The PARC Professor of Manufacturing and Logistics, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Llwyddodd y prosiect, a gynhaliwyd dros ddwy flynedd, i addasu amgylchedd efelychu Ocado gan ei alluogi i efelychu sawl depot ar yr un pryd. Ychwanega Dr Demir y cafwyd allbynnau hefyd oedd yn fwy na'r hyn a amcangyfrifwyd yn wreiddiol. "Y buddion ychwanegol oedd defnyddio llai o faniau cyflenwi, costau tanwydd ac allyriadau is, a arweiniodd at gynnydd ym mhroffidioldeb y busnesau. Yn ogystal, bydd y prosiect yn sicrhau arbedion cost i gleientiaid rhyngwladol Ocado."

Cytunodd y Gwyddonydd Data Arweiniol Tîm Bickley, gan ddweud y bydd "yr hyn a ddysgwyd o'r KTP hwn yn helpu Ocado Technology i gymryd cam sylweddol ymlaen o ran soffistigeiddrwydd ein system llwybro cerbydau, fydd yn caniatáu i'n partneriaid manwerthu ar draws y byd gynnal eu gweithrediadau gwerthu bwyd ar-lein yn fwy effeithlon."

Aeth yn ei flaen, "mae gallu cydweithio gydag academyddion talentog, fel rydym wedi'i wneud gyda'r KTP hwn, wedi bod yn gyfle gwych i bob un ohonom. Gyda'n gilydd, rydym nid yn unig yn gwthio ffiniau'r hyn rydym ni'n ei wybod, ond hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a gafwyd i ddatblygu atebion yn y byd go iawn fydd yn trawsnewid effeithlonrwydd darparu bwyd ar-lein".

Doedd y KTP, a lwyddodd i wella algorithm llwybro craidd Ocado a'i alluogi i redeg ar broblemau mwy o faint, ddim heb ei heriau. Dechreuodd pandemig COVID-19 yn gymharol gynnar yn y prosiect. Llwyddwyd i addasu i hyn yn gyflym, gyda'r cydweithio rhwng Ocado, y cydymaith a thîm academaidd Caerdydd yn symud ar-lein.

Mae'r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Ocado ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi'i chryfhau ers y prosiect KTP, yn ôl Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Arweinydd Partneriaeth Ocado gyda'r Ysgol, "ers i ni ddechrau cyfrannu at Ocado yn ôl yn 2016, rydym ni wedi dangos y gwerth y gall Prifysgol Caerdydd ei roi i weithrediadau a chadwyni cyflenwi manwerthu bwyd, a dyw'r prosiect hwn yn ddim gwahanol".

Mae Ocado yn cytuno bod y cydweithio wedi sicrhau eu bod yn cael "mynediad at arbenigedd a dealltwriaeth tîm academaidd gwych o ran sut y gallwn gymhwyso ymchwil arloesol i'n hachos ni. Bu'r tîm academaidd yn cydweithio gyda'r cydymaith i gyfarwyddo'r ymchwil, gan sicrhau ein bod yn dod i ddatrysiad oedd yn gweithio i ni ac yn darparu allbwn gwych yn academaidd ac yn y byd go iawn."

Dywedodd Mark Lynch, y Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth, fod prosiectau technoleg uwch blaengar fel hwn yn "arddangos y manteision a ddarperir yn nodweddiadol gan raglen KTP Innovate UK. Mae paru busnesau blaengar, uchelgeisiol fel Grŵp Ocado gyda'r arbenigedd ymchwil gymhwysol o'r radd flaenaf sydd i'w ganfod yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn helpu i ddatrys yr heriau technegol anodd mae'r sefydliadau gorau yn eu hwynebu - gan arwain at fuddion masnachol sylweddol. Gan chwarae rhan ganolog yng nghyflawniad y prosiect, y Cydymaith KTP Dr Minh Vu Duc fu'n arwain y cynnydd, gan sicrhau cymorth ac arweiniad technegol a phroffesiynol strwythuredig. Mae'r prosiect yn agor y drws i arloesi parhaus yn y dyfodol, drwy ymchwil gydweithredol".

Roedd yn fanteisiol i Dr Minh Vu Duc, y Cydymaith KTP, gael bod dan gyd-oruchwyliaeth timau diwydiant ac academaidd a chanmolodd y bartneriaeth, "arweiniodd y cydweithio clos at ddatrysiadau ac ymagweddau newydd y gellir eu trosi'n enillion refeniw sylweddol bob blwyddyn o ganlyniad i well cynlluniau cludiant, llai o gerbydau a mwy o gwsmeriaid yn cael eu gwasanaethu."

Bydd ymchwil yn y dyfodol yn cynnwys ystyried uwchraddio i broblemau mawr mympwyol drwy strategaeth ddadelfennu a symud system llwybro OSP i un sy'n cefnogi safleoedd cyflenwi lluosog ar gyfer un optimeiddiwr, gan eu galluogi i ddefnyddio'r gwelliannau algorithmig a ddatblygwyd yn ystod y KTP hwn ar gyfer cynhyrchu.

Rhannu’r stori hon

Newyddion a safbwyntiau ein myfyrwyr, staff a phartneriaid ynghylch popeth sy’n gysylltiedig â byd busnes.