Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr am Gasgliad Golygedig Eithriadol i Academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth

15 Tachwedd 2021

Clair Rowden holding her book 'Carmen Abroad'

Mae Carmen Abroad gan Dr Clair Rowden wedi ennill Gwobr Llyfr 2021 y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol (RMA) / Gwasg Prifysgol Caergrawnt am Gasgliad Golygedig Eithriadol. 

Daeth y llyfr, a gyd-olygwyd gyda'r Athro Richard Langham Smith (Y Coleg Cerdd Brenhinol), hefyd i'r brig ar restr cylchgrawn cerddoriaeth glasurol y BBC o'r 'llyfrau gorau am gerddoriaeth glasurol i’w cyhoeddi yn 2021 hyd yma'. Mae'n trafod perfformiadau o Carmen gan Bizet o'r dechrau yn 1875 hyd at gyfieithiadau, addasiadau a chydfeddiannau diweddarach ar draws y byd tan 1945.

Mae Carmen Abroad yn canolbwyntio ar yr opera a dylanwad amrywiol lensys diwylliannol ac felly safbwyntiau gwleidyddol yn ogystal â'r sbectrwm o ddehongliadau artistig sy'n debygol o fod wedi'u llywio gan y cyd-destunau hyn. Ceir dadansoddiad hefyd o bwysigrwydd diwylliannol yr opera yn Rwsia Sofietaidd, yn Japan yn y cyfnod Gorllewino, yn Sbaen ac yn ne Ffrainc ranbarthol.

Ceir gwefan i gyd-fynd â'r llyfr yn cynnwys cofnod o'r perfformiadau ar draws y byd rhwng 1875 a 1945 yn ogystal â map a llinell amser rhyngweithiol sy'n dangos nid yn unig y gwledydd ond y dinasoedd ac union leoliad pob perfformiad.

Fel hanes trawswladol o berfformiad opera sy'n adrodd hanes menyw ymfudol o leiafrif ethnig, yn dibynnu ar fyd gwaith â chyflog isel, gweithgareddau anghyfreithlon a phuteindra 'meddal', mae Carmen Abroad yn ymdrin â rhywedd, hunaniaeth ac economïau cam-fanteisiol, a sut y cyflwynwyd ac y derbyniwyd y rhain mewn cyd-destunau diwylliannol amrywiol iawn. Wrth gwrs, mae hefyd yn ymdrin â materion mwy traddodiadol natur Sbaenaidd ac ymladd teirw, ond roedd Richard Langham Smith a fi am symud oddi wrth weledigaeth a phersbectif Ewropeaidd i gwmpasu'r cyfnewid a'r trawsbeillio a ddigwyddai pan berfformiwyd Carmen yn Tokyo dyweder, neu Havana, lle ganwyd aria enwocaf Carmen, yr 'Habanera'. Mae cael ein cynnwys ar y rhestr hon yn golygu ein bod wedi llwyddo i gael cydbwysedd rhwng y manylion hanesyddol trylwyr am y perfformiadau a tharo nodyn cyfoes sy'n berthnasol i fynychwyr operâu ein hoes ni.

Yr Athro Clair Rowden Professor of Musicology

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.