Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn cydweithio gydag Ysgol Nyrsio Prifysgol Namibia ac UNAM Cares

5 Tachwedd 2021

Namibia Oxygen Training
Combined Nursing and UNAM Cares team at Oshakati Campus

Bu staff nyrsio academaidd o Brifysgol Namibia (yr Athro Louise Pretorius, Mrs Lilian Masule a Mrs Justa De Klerk), staff nyrsio Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd (Dr Anna Jones, Mr Ricky Hellyar) ac addysgwr ymarfer Uned Gofal Dwys Aneurin Bevan (Mrs Karla Hobbs) yn cydweithio i lunio deunyddiau addysgu ac addysg ar Therapi Ocsigen, i'w cyflwyno i nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Namibia.

Mae 117 o nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws chwe rhanbarth yn Namibia, sy'n gofalu am gleifion sy'n dioddef o COVID-19 ar hyn o bryd, wedi derbyn addysg a hyfforddiant ymarferol mewn therapi ocsigen.

Dechreuodd yr addysg yn Windhoek, prifddinas Namibia ac aeth ymlaen i Katima Mulilo yn rhanbarth Zambezi, lle bu'r Anrhydeddus Lawrence Alufea Sampofu, Llywodraethwr rhanbarth Zambezi, yn canmol Arweinydd Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, Arweinydd UNAM Cares, Dr Rachel Freeman a Hyfforddwyr Academaidd y Nyrsys Arweiniol, Mrs Lilian Masule a Mrs Justa De Klerk am yr addysg i nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn unedau gofal uchel o dan Grant Cymru ac Affrica 'Ocsigen Namibia':

'Mae'r hyfforddiant hwn yn weithred anrhydeddus gan Brifysgol Namibia a Phrifysgol Caerdydd drwy brosiect UNAM Cares i gryfhau ymateb y sectorau iechyd i COVID-19. Mae Swyddfa Llywodraethwr Zambezi'n gwerthfawrogi'r cyfraniad hwn gan y Prifysgolion uchel eu parch, sy'n cael effaith wirioneddol.'

Dywedodd tîm Caerdydd:

'Mae cymryd rhan, fel rhan o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn y gwaith o gyflwyno addysg nyrsio i helpu i ofalu am gleifion sy'n dioddef o SARS-CoV-2 wedi bod yn fraint; mae cael rhannu a datblygu pecynnau addysg ochr yn ochr â thîm addysg nyrsio gwych UNAM a phrosiect UNAM Cares i'w galluogi i ddarparu addysg i nyrsys ac ymarferwyr gofal iechyd ledled Namibia yn anrhydedd. Mae wedi bod yn gyfle gwych a byddwn yn parhau i feithrin a chynnal ein cysylltiadau â'n rhwydweithiau, gan alluogi ein diwylliannau addysgu a dysgu i ffynnu.'

Lead Nurse Educator training
Lead Nurse Educator Mrs Justa De Klerk- Oshikoto Region

Diolch byth, ar ôl brwydro yn erbyn trydedd don ofnadwy o Covid-19, mae Namibia bellach yn dechrau gwella.  Ond gyda'r cyfraddau brechu'n dal i fod yn isel, disgwylir pedwaredd don. Mae'r addysg a'r hyfforddiant yn paratoi nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Namibia gyda'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gofal yn llwyddiannus i gleifion â COVID-19. Roedd yr addysg a'r adnoddau hefyd yn cynnwys arweiniad a chymorth ar les ymarferwyr gofal iechyd, eu cydweithwyr a'u cyfoedion.

Mae'r holl weithgarwch wedi'i gefnogi gyda grant hael iawn gan ffrwd ariannu Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a roddwyd i Brosiect Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd a'i rannu i'w weithredu gan UNAM Cares a’r Ysgol Nyrsio yn UNAM. Mae'r tîm o Namibia wedi bod yn ddiflino ac yn ddygn yn eu tasg, ac wedi gwneud gwaith rhagorol.

Mae staff UNAM wedi teithio i wahanol ranbarthau yn Namibia i hyfforddi cynifer o weithwyr iechyd proffesiynol â phosibl, er mwyn gwella gofal a chanlyniadau cleifion â COVID-19. Ymhlith y rhanbarthau mae Khomas, Zambezi, Kavango-East, Oshana, Oshikoto, Karas. Y gobaith yw y bydd yr addysg a'r hyfforddiant hwn, ochr yn ochr â rhodd o PPE gan Lywodraeth Cymru, yn gwella canlyniadau cleifion a'r anawsterau presennol wrth frwydro pandemig COVID-19 yn Namibia.

Dywedodd Christopher, nyrs yn yr adran frys yn ysbyty Katima Mulilo:

'[Mae'r gweithdy wedi] gwella ein ffordd o feddwl, ein ffordd ymlaen, ac wedi rhoi gobaith i ni y gallwn lwyddo... Bydd yr hyfforddiant hwn yn help mawr gydag argyfwng critigol fel salwch sy'n gysylltiedig â COVID fel asthma. Rwyf i wedi dysgu sgiliau cyfathrebu da, defnyddio PPE priodol a gwneud i'r claf ymlacio.'

Athroniaeth yr holl dîm rhyngwladol yw cydweithio a chyd-gynhyrchu ar gyfer newid cynaliadwy ac mae ein storfa o adnoddau hyfforddi COVID-19 yn parhau i dyfu. Rydym ni'n rhagweld y bydd y cydweithio ffrwythlon yn parhau.

Nurse Training
Training group at Rundu Campus

Rhannu’r stori hon