Ewch i’r prif gynnwys

Bwrdd Cynghori Gwyddonol yn arddangos cyrhaeddiad byd-eang canolfan ymchwil

10 Tachwedd 2021

Image of globe taken in orange light

Cynhaliodd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gyfarfod blynyddol cyntaf eu Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol y mis hwn.

Daeth y cyfarfod rhithwir ag arbenigwyr academaidd sy'n eistedd ar y Bwrdd Cynghori Gwyddonol ynghyd o bob cwr o’r byd i drafod chwe ffrwd waith ymchwil y Ganolfan.

Roedd nifer dda yn y cyfarfod, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Owen, gyda staff o bob rhan o Ganolfan Wolfson a chynrychiolwyr o Sefydliad Wolfson, a fu’n arsylwi’r sesiwn. Yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad gan y bwrdd o academyddion rhyngwladol trwy’r sgwrs eang ei chwmpas, bu’r bwrdd hefyd yn rhoi adborth ar y gwaith a wnaed hyd yma gan Ganolfan Wolfson, a thargedau i weithio arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson, yr Athro Stephan Collishaw: "Roeddem yn falch iawn bod ein Bwrdd Cynghori Gwyddonol wedi ymuno â ni ar gyfer cyfarfod blynyddol cyntaf y bwrdd. Rhoddodd ein cydweithwyr rhyngwladol arweiniad a chyngor amhrisiadwy ar gyfeiriad, strategaeth a gweithgarwch hirdymor y Ganolfan yn y dyfodol, yn ogystal ag ysbrydoliaeth i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio gwyddonol yn y dyfodol."

Ychwanegodd yr Athro Frances Rice, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: "Rydym mor ddiolchgar i'r arbenigwyr o’r radd flaenaf am roi o’u cyngor a’u barn i ni, ac ymuno â ni ar-lein, er ein bod ni i gyd yn gweithio ar draws tri pharth amser gydag aelodau'r bwrdd yn mewngofnodi o India, yr Unol Daleithiau a gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.

"Mae'r bwrdd yn arddangos y cysylltiadau rhyngwladol cryf sydd gennym yma yn y Ganolfan a'r cyrhaeddiad byd-eang posibl sydd i’n hymchwil ei gael ym maes iechyd meddwl."

Dywedodd Dr Ellen Leibenluft, sy'n aelod o'r Bwrdd Cynghori Gwyddonol ac sy’n gweithio yn y Sefydliad Cenedlaethol er Iechyd Meddwl yn yr Unol Daleithiau: "Roedd yn bleser gwirioneddol ymuno â thîm Canolfan Wolfson ac eistedd ar eu bwrdd cynghori. Roedd meddyliau'r bwrdd yn unfrydol gadarnhaol ac rydym yn frwdfrydig ynghylch dyfodol y ganolfan ymchwil hon.

"Mae'r gweithwyr yng Nghanolfan Wolfson wedi gosod sylfaen gref ar gyfer eu gwaith ym maes iechyd meddwl ieuenctid ac edrychwn ymlaen at weld sut bydd eu hymchwil wedi datblygu ymhellach pan fyddwn yn cyfarfod eto'r flwyddyn nesaf."
Dr Ellen Leibenluft

I gloi, dywedodd yr Athro Stephan Collishaw: "Hoffem ddiolch, unwaith eto, i'n holl gydweithwyr rhyngwladol am eu cymorth a'u cyngor hyd yma. Mae cyfarfod y Bwrdd Cynghori Gwyddonol wedi sicrhau bod gan y tîm cyfan gymhelliant pellach a’u bod yn canolbwyntio ar ein cynlluniau ymchwil yng Nghanolfan Wolfson.

"Edrychwn ymlaen at groesawu'r bwrdd eto'r flwyddyn nesaf, p’un a fydd hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu o bosib cyfuniad o’r ddau, a pharhau i greu ein partneriaethau rhyngwladol cryf rhwng Canolfan Wolfson a chydweithwyr ar draws y byd."

Rhannu’r stori hon

Edrychwch ar ein themâu ymchwil a dysgwch am yr academyddion sy'n eu harwain.