Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarfod cychwynnol bwrdd ymgynghorol newydd Canolfan Wolfson

15 Gorffennaf 2021

A laptop showing a zoom call with lots of people and a cup of tea on a table

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf bwrdd ymgynghorol Gweithredu ac Ymgysylltu Canolfan Wolfson y mis hwn.

Mae'r bwrdd yn dwyn ynghyd academyddion, y GIG, ysgolion, Llywodraeth Cymru, partneriaid trydydd sector, a phobl ifanc eu hunain i roi cyngor ar sut gall ymchwil yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson wneud gwahaniaeth i bobl ifanc y mae anawsterau iechyd meddwl yn effeithio arnynt.

Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr ieuenctid, clinigwyr o’r GIG, partneriaid trydydd sector, yn ogystal â Chomisiynydd Plant Cymru, ac ymgynghorwyr o Lywodraeth Cymru.

Yn y cyfarfod, a gadeiriwyd gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, cytunodd y grŵp ar ei gylch gorchwyl a chafwyd cyfle i dîm Canolfan Wolfson glywed yn uniongyrchol gan bartneriaid cydweithredol am yr hyn yr hoffent ei weld gan y ganolfan ymchwil. Mewn trafodaeth eang, roedd y pynciau sgwrsio yn cynnwys y fframwaith ar gyfer ymgorffori dull ysgol gyfan yng Nghymru, pwysigrwydd cysylltiadau polisi ac ymarfer ymchwil yng ngwaith y Ganolfan, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a hyfforddiant yn ei gylch, stigma, a phwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc yn rhan o bob cam o’r gwaith ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a wneir gan y ganolfan.

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson, yr Athro Stephan Collishaw, “Mae'r bwrdd ymgynghorol newydd yn dwyn ynghyd ein partneriaid cydweithredol o wahanol sectorau a disgyblaethau i sicrhau y gall ein hymchwil fod o fudd gwirioneddol wrth wella canlyniadau iechyd meddwl ieuenctid. Roedd cyfarfod cyntaf y bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu (IEB) yn llwyddiant mawr ac mae wedi rhoi cyngor amhrisiadwy inni ar ystyriaethau ar gyfer gwaith Canolfan Wolfson wrth symud ymlaen.”

Ychwanegodd yr Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr: “Un o’r heriau mwyaf ar gyfer gwella iechyd meddwl pobl ifanc yw’r bwlch mawr rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer. Bydd yr IEB yn ein helpu i bontio'r bwlch hwn. Trwy adolygu a chynghori ar ein hymchwil, mae aelodau’r IEB yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau y bydd ein hymchwil yn berthnasol yn y byd go iawn ac yn cael ei throsi’n gyflym yn bolisi ac ymarfer.”

Un o’r heriau mwyaf ar gyfer gwella iechyd meddwl pobl ifanc yw’r bwlch mawr rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer. Bydd yr IEB yn ein helpu i bontio'r bwlch hwn.
Yr Athro Frances Rice Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Daeth yr Athro Collishaw i'r casgliad: “Mae’n gyfnod cyffrous i Ganolfan Wolfson wrth i ni gychwyn ar ein hymchwil ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â’n bwrdd ymgynghorol i sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar wella iechyd meddwl pobl ifanc.

"Bydd cynnig cyfleoedd cyfranogiad ymchwil dilys ac adnoddau a gyd-gynhyrchwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc, er enghraifft trwy ein grwpiau ymgynghorol newydd i bobl ifanc, yn un o'n blaenoriaethau allweddol wrth i'r Ganolfan barhau i ehangu a datblygu."

Bydd Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu Canolfan Wolfson (IEB) yn cynghori ar nodau ymchwil, strategaethau i ymgysylltu â phobl ifanc, mecanweithiau ar gyfer gweithredu mewn ymarfer a pholisi, ac yn cynnig cysylltiadau partneriaeth traws-sector. Bydd y bwrdd newydd yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol y blynyddoedd sydd i ddod.

Rhannu’r stori hon