Ewch i’r prif gynnwys

Dr David Beard yn sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme

1 Tachwedd 2021

Dr David Beard smiling

Mae'r darllenydd Dr David Beard yn yr Ysgol Cerddoriaeth wedi sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gefnogi ei waith ar fonograff, The Music of Judith Weir.

Bydd y gymrodoriaeth 18 mis, sy'n dechrau'r semester hwn, yn arwain at gyhoeddi'r llyfr yn rhan o gyfres 'Music Since 1900' Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

Dyma fydd yr astudiaeth sylweddol gyntaf o gerddoriaeth Weir, o’i gwaith cynnar yng nghanol y 1970au hyd at heddiw. Hi yw’r fenyw gyntaf i ymgymryd â swydd Meistr Cerddoriaeth y Frenhines (2014-2024), a bydd yr astudiaeth yn rhoi trosolwg o’i chyfraniad.

Bydd y llyfr yn cyfeirio at sgyrsiau a chyfweliadau helaeth yr awdur â'r gyfansoddwraig dros y 15 mlynedd diwethaf, yn trafod darnau heb eu cyhoeddi ac a dynnwyd yn ôl ac yn dadansoddi brasluniau cerddorol.

Yn benodol, bydd yn archwilio cerddoriaeth Weir o safbwynt rhywedd a hunaniaeth, natur a chymuned, opera, adrodd straeon a theatr gerddorol, ochr yn ochr â'i hymgysylltiad â moderniaeth, rhamantiaeth, cerddoriaeth werin a thraddodiadau hanesyddol ac amhendant eraill, a fydd yn dangos ble mae ei cherddoriaeth arni o’i chymharu â cherddoriaeth ei chyfoedion Prydeinig a chyfansoddwyr benywaidd eraill yn fwy cyffredinol.

Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Dr David Beard: "Anrhydedd yw sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i weithio ar gerddoriaeth Judith Weir. Er ei bod yn ymgymryd â swyddi teilwng Meistr Cerddoriaeth y Frenhines a Llywydd Cymdeithas Frenhinol Cerddorion Prydain Fawr, nid yw cerddoriaeth Weir wedi cael digon o sylw mewn ysgolheictod cerddorol. Mae fy ymchwil yn unioni hyn ac yn cyfrannu at fudiad ehangach sy'n ceisio sicrhau bod artistiaid a’u cyflawniadau’n cael eu cynrychioli’n fwy.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.