Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr PhD yn ennill Gwobr y Papur Gorau mewn Symposiwm Rhyngwladol

18 Hydref 2021

Llongyfarchiadau i Stephanie Müller, sydd wedi ennill Gwobr y Papur Gorau 2021 yn y nawfed Symposiwm Rhyngwladol ar Hydroleg Amgylcheddol.

Cafodd Stephanie Müller, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Peirianneg, ei chydnabod am ei phapur ymchwil o’r enw “Fish swimming behaviour and kinematics in the wake of a vertical axis turbine” yn y nawfed Symposiwm Rhyngwladol ar Hydroleg Amgylcheddol.

Mae Stephanie’n ymchwilio i’r defnydd o dyrbinau echelin-fertigol hydrocinetig i harneisio ynni o afonydd ac aberoedd sy'n llifo'n rhydd. Mae’r rhain yn cynnig dewis ynni dŵr amgen ar raddfa fach sy'n fwy ecogyfeillgar na pheirianwaith ynni dŵr mawr traddodiadol. Mae Stephanie’n ymchwilio’n benodol i effaith un tyrbin echelin-fertigol ar hydrodynameg wêc a symudiad pysgod, a hynny drwy ddefnyddio arbrofion labordy graddedig.

Yn rhan o’r prosiect amlddisgyblaethol mae Dr Valentine Muhawenimana, Guglielmo Sonnino Sorisio a Dr Catherine Wilson o Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol yr Ysgol Peirianneg, yr Athro Jo Cable o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Pablo Ouro o’r Ysgol Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Awyrofod a Pheirianneg Sifil ym Mhrifysgol Manceinion.

Cynhadledd ymchwil flaenllaw yw’r Symposiwm Rhyngwladol ar Hydroleg Amgylcheddol. Mae’n canolbwyntio ar bob agwedd ar lif hydrolig, gan gynnwys atmosffer a chefnforoedd, ym maes peirianneg a gwyddoniaeth. Mae’r symposiwm yn rhan o’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Peirianneg ac Ymchwil Hydro-Amgylcheddol.

Gwnaeth y nawfed symposiwm, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul, Korea, ac ar-lein rhwng 19 a 21 Gorffennaf, ddod ag arbenigwyr ac ymchwilwyr talentog ifanc ynghyd at ddibenion rhannu ymchwil i’r prif thema, sef Datblygiadau ym Maes Hydro-Amgylcheddau ar gyfer Oes o Newidiadau Mawr.

Llongyfarchiadau mawr i Stephanie ar y gydnabyddiaeth wych hon o ansawdd ei hymchwil ddoethurol.

Rhannu’r stori hon