Ewch i’r prif gynnwys

Dod o hyd i ôl troed archaeolegol y Derwyddon

12 Hydref 2021

Cynfyfyriwr arobryn yn cymryd rhan mewn trafodaeth yng Nghyfres Ymchwil Archaeoleg Caerdydd i lansio ei llyfr newydd

Archaeolegydd blaenllaw, yr Athro Miranda Aldhouse-Green, yn lansio ei gwaith newydd fel rhan o Gyfres Ymchwil Archaeoleg a Chadwraeth Caerdydd.

Bu’r Athro Emeritws Archaeoleg yn cymryd rhan mewn trafodaeth gydag academyddion o Gaerdydd, Dr Alan Lane, Dr Louis Rawlings, a’r Athro Paul Nicholson ynglŷn â’i llyfr Rethinking the Ancient Druids: an archaeological perspective mewn digwyddiad rhithwir cyhoeddus.

Mae awduron clasurol hynafol wedi rhoi enw gwael i’r Derwyddon, a’u diffinio fel offeiriadaeth farbaraidd a oedd yn cyflawni defodau gwaed ym Mhrydain hynafol a Gâl yn enw eu duwiau, 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae archaeoleg yn dweud stori wahanol a mwy cymhleth o’r offeiriadaeth enigmataidd hon; theocratiaeth â phŵer gwleidyddol a sanctaidd aruthrol.

Mae’r gwaith newydd hwn yn archwilio’r ‘ôl-troed diriaethol’ y mae’r Derwyddon wedi’i adael: mewn mannau sanctaidd, celf, offer defodol, lluniau o dduwiau, defodau claddu rhyfedd, ac aberth dynol. Mae eu diwylliant materol yn dangos pa mor agos oedd y berthynas rhwng y Derwyddon a’r byd ysbrydol, ac mae’r dystiolaeth yn dangos eu bod yn defnyddio cyffuriau i gyrraedd y byd hwnnw.

Wrth siarad cyn lansiad y llyfr, dywedodd yr Athro Aldhouse-Green, cynfyfyriwr a chyn-academydd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd:

“Nod y llyfr hwn yw archwilio o’r newydd yr ‘ôl-troed’ archaeolegol y mae’r offeiriadaeth enigmataidd a phwerus hon wedi’i adael - o gysegrfannau i lwyau proffwydo, ac o benwisgoedd i aberth dynol. Mae’r llyfr yn mynd i gyfeiriad newydd drwy roi Cymru’n ganolog i’r stori, ac mae’r dystiolaeth archaeolegol yn awgrymu mai dyna oedd y sefyllfa. Os felly, mae’n cyd-fynd â sylwadau Tacitus ynglŷn â man mwyaf sanctaidd y Derwyddon ar Ynys Môn”.

Ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, enillodd llyfr Aldhouse-Green, Bog Bodies Uncovered, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2016, a chafwyd canmoliaeth gan archaeolegwyr a nofelwyr trosedd fel ei gilydd am ei ddull hynod wahanol o fynd i’r afael ag achosion cynhanesyddol heb eu datrys mewn mawndiroedd.

Mae ei llyfrau diweddaraf hefyd yn cynnwys Sacred Britannia: The Gods and Rituals of Roman Britain, Boudicca Britannia a Caesar’s Druids: story of an ancient priesthood.

Cyhoeddir Rethinking the Ancient Druids: an archaeological perspective gan Wasg Prifysgol Cymru, gyda lansiad rhithwir ar gyfer y llyfr yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 21 Hydref (5pm BST).

Rhannu’r stori hon