Ewch i’r prif gynnwys

Penodi arbenigydd ar gyfraith yr Undeb Ewropeaidd i fwrdd golygyddol cyfnodolyn yn Iwerddon

28 Medi 2021

Penodwyd yr Uwch Ddarlithydd yng Nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Chystadleuaeth, Dr Sara Drake, i fwrdd golygyddol prif gyfnodolyn cyfraith Ewrop Iwerddon, yr Irish Journal of European Law (IJEL).

Sefydlwyd yr IJEL ym 1992 ac mae'n cyhoeddi papurau ar gyfraith Ewrop gan arbenigwyr o bob cwr o'r byd gan gynnwys barnwyr, ymarferwyr, academyddion a gweision sifil sy'n ysgrifennu o safbwynt personol. Cyhoeddir yr IJEL dan nawdd Cymdeithas Cyfraith Ewrop Iwerddon (ISEL), cymdeithas uchel ei bri o gyfreithwyr gweithredol ac academaidd a sefydlwyd yn 1973 â'r nod o hyrwyddo astudiaethau ac ymarfer Cyfraith Ewrop yn Iwerddon. ISEL yw aelod cyswllt Iwerddon o'r Fédération Internationale de Droit Européen (FIDE) nodedig.

Dewiswyd Dr Drake i ymuno â thîm golygyddol newydd a benodwyd yn dilyn adolygiad llywodraethu a drefnwyd gan Lywydd yr ISEL, Prif Ustus Iwerddon, yr Anrhydeddus Mr Ustus Frank Clarke gyda'r bwriad o ailsefydlu presenoldeb y cyfnodolyn fel y prif bwynt cyfeirio ar gyfer ysgolheictod ar gyfraith Ewrop yn Iwerddon yn dilyn Brexit.

Ers dechrau'r flwyddyn, mae Dr Drake a'i chydweithwyr wedi bod yn gweithio ar rifyn diweddaraf y cyfnodolyn a gyhoeddwyd yr wythnos hon ac sydd ar gael ar wefan IJEL.

Daw'r Athro Drake â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i fwrdd IJEL. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ym maes cyfraith yr UE gan gynnwys ei pherthynas â chyfraith Iwerddon. Mae'n ymgymryd â rôl golygydd erthyglau (hir) gan weithio'n agos mewn partneriaeth â gweddill y tîm golygyddol sydd wedi'u lleoli ar draws Ewrop ac yn dod o'r byd academaidd, practis preifat, sefydliadau'r UE a'r farnwriaeth. Mae'r cyfnodolyn yn cyhoeddi erthyglau hir a byrrach, nodiadau achos, nodiadau deddfwriaeth yn ogystal â darnau ymarfer proffesiynol ac mae ar gael ar-lein trwy Westlaw a HeinOnline.

Wrth siarad am ei phenodiad i'r Bwrdd, dywed Dr Drake, "Wrth i'r DU dynnu'n ôl o aelodaeth yr UE, rwy'n croesawu'r cyfle i weithredu fel pont rhwng ysgolheictod cyfreithiol yn y DU, Iwerddon a'r UE wrth i ni ailffurfio'r perthnasoedd hanfodol hyn. Mae gen i wybodaeth gadarn eisoes am berthynas Iwerddon â'r UE ar ôl dysgu cyfraith yr UE ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, a byddaf yn gallu tynnu ar fy rhwydweithiau sy'n ymestyn ledled Ewrop fel cydlynydd arweiniol rhwydwaith ymchwil ryngddisgyblaethol ar orfodi cyfraith a pholisi'r UE yn effeithiol.  Mae hefyd yn gyffrous cael ymwneud â mandad yr IJEL i annog ysgolheictod gan ysgolheigion newydd yn ogystal â chynnyddu amrywiaeth ymhlith ei awduron."

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.