Ewch i’r prif gynnwys

WSA yn dathlu dyfarnu'r radd Meistr gyntaf mewn Gweinyddu Dylunio

9 Medi 2021

Elisa Migliorini, MDA graduate
Elisa Migliorini, MDA graduate

Elisa Migliorini yw'r myfyriwr cyntaf o Ysgol Pensaernïaeth Cymru i raddio â gradd Meistr Gweinyddu Dylunio (MDA) a hi yw enillydd gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu am y perfformiad cyffredinol gorau yn yr MDA. Cawsom ni sgwrs gyda hi i holi pam y dewisodd gwblhau'r cwrs a sut mae wedi ei helpu gyda'i dyheadau gyrfa yn y dyfodol.

Pam ddewisoch chi astudio'r MDA?

Dewisais i'r MDA i ddeall yn well y byd caffael a chontractau yn y DU, gan fy mod wedi datblygu fy addysg mewn gwlad arall.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau am y cwrs?

Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r amrywiaeth o bynciau ar y sector adeiladu, yn amrywio o gontractau a rheoliadau i gaffaeliadau a strategaethau rheoli i ymdrin â phob cam mewn prosiect. Hefyd fe fwynheais i gyfarfod ag arbenigwyr y diwydiant yn fawr. Arweiniodd y rhyngweithio rhwng gwahanol gefndiroedd yr arbenigwyr, myfyrwyr ac athrawon prifysgol at ddadansoddi difyr iawn yn ystod y cwrs. Roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi dealltwriaeth staff addysgu'r Ysgol o ran y myfyrwyr oedd yn gweithio a'u hanghenion.

Beth ydych chi wedi'i ddysgu sydd wedi eich helpu i wella'ch rhagolygon gyrfa?

Rwy'n deall nawr pa ffigurau a rolau eraill sy'n dod i'r amlwg yn y farchnad adeiladu a'r anghenion sy'n datblygu. Fe ddes i'n ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn rheoli da a datblygu prosiect, gan fagu hyder gyda materion fel caffael ffurf ar gontractau a chyfraith adeiladu. Rwy'n sicr ei bod yn hanfodol cynyddu fy ngwybodaeth er mwyn deall ac wynebu senarios gwahanol, a thrwy hynny wella cyfleoedd.

Sut mae eich tiwtoriaid wedi eich helpu i gwblhau'r cwrs?

Mae'r tiwtoriaid yn barod eu cymorth a'u dealltwriaeth ac yn drylwyr iawn wrth gynnig cyngor a syniadau ar sut i fynd i'r afael â'r tasgau yn ystod y cwrs. Hefyd, maen nhw'n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar ble a sut i ddod o hyd i ffynonellau ar gyfer eich ymchwil, gan wneud defnydd da o'ch amser.

Beth yw eich gobeithion / dyheadau ar gyfer y dyfodol?

Fy ngobaith yw mynd ati i roi'r wybodaeth newydd rwyf i wedi'i dysgu ar waith a symud at ddylunio/rheoli prosiectau. Ar ben hynny, hoffwn roi fy hyder ar waith a gallu gweithio mewn unrhyw wlad.

A fyddech chi'n argymell y cwrs?

Byddwn i'n argymell y cwrs yn fawr gan ei fod yn cynnig toreth o wybodaeth ymarferol yn ymwneud â’r maes adeiladu yn y DU ac yn fyd-eang. Mae hefyd yn fuddiol iawn i'r rheini â chefndiroedd gwahanol ond sy'n sy'n awyddus gyrraedd ffiniau newydd o ran arbenigedd. Mae'r athrawon hefyd yn awyddus iawn i'ch helpu chi i ddilyn eich dyheadau ac arwain eich ymchwil i'w cyflawni. I gloi, prin yw'r cyfleoedd i gwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau y tu allan i'r brifysgol, ac mae'r MDA yn cynnig y cyfle hwn drwy greu rhwydweithiau cydweithio newydd.

Cwblhaodd Elisa yr MDA gyda theilyngdod. Yn sgil pandemig y coronafeirws mae bellach wedi dychwelyd i'r Eidal ac ar hyn o bryd mae’n gweithio i Grŵp Môr yr Eidal ar brosiect o'r enw “Tecnomar for Lamborghini 63“ - pob dymuniad da iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol!

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen MDA, ewch i dudalennau'r cwrs.

Rhannu’r stori hon