Canslo hediadau, hawliau defnyddwyr a’r pandemig COVID-19
8 Medi 2021
Mae tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac Ysgol Busnes Caerdydd yn ymchwilio i ymwybyddiaeth defnyddwyr o hawliau cyfreithiol yn ystod y pandemig.
Dyfarnwyd cyllid gan Ganolfan y Gyfraith a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd i Dr. Sara Drake, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith, Dr. Carmela Bosangit, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata, a Dr. Stephanie Slater, Darllenydd mewn Marchnata, Strategaeth a Busnes, i’w galluogi i gynnal grwpiau ffocws i ddarganfod faint roedd defnyddwyr yn ei wybod am hawliau teithwyr awyr pan ganslwyd eu hediadau yn ystod y pandemig ac am unrhyw lwybrau unioni. Casglodd y tîm ddata hefyd ar sut roedd cyfranogwyr yn teimlo am eu profiad gyda chwmnïau hedfan ac a fyddai hyn yn effeithio ar eu hymddygiad teithio yn y dyfodol. Cynorthwywyd y tîm gan y Cynorthwy-ydd Ymchwil, Geena Whiteman.
Un o fanteision aelodaeth yr UE i ddefnyddwyr yn y DU yw’r lefel uchel o ddiogelwch a roddwyd gan gyfraith yr UE pan gaiff hediadau eu canslo. Pan darodd y pandemig Ewrop ym mis Mawrth 2020, roedd y gyfraith hon yn dal i fod yn gymwys yn y DU, a pharhaodd yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ffodus i ddefnyddwyr, mae'r un lefel o ddiogelwch wedi'i chadw ar ôl Brexit. Drwy Reoliad 261/2004, mae gan deithwyr awyr sy'n teithio naill ai o faes awyr yn y DU, yr UE, yr AEE neu'r Swistir, neu o faes awyr mewn trydedd wlad i'r DU, yr UE, yr AEE neu'r Swistir gyda chludwr aer sydd wedi'i drwyddedu yn un o'r gwledydd hyn yr hawl i gael ad-daliad arian parod llawn o fewn saith diwrnod os caiff eu hediad ei ganslo gan y cwmni hedfan. Gall teithiwr awyr ddewis derbyn taleb teithio, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.
Er nad yw methiant cwmnïau hedfan i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol yn rhywbeth newydd, gwnaeth y pandemig a’r orfodaeth i ganslo llwyth o hediadau godi ymwybyddiaeth o'r mater i lefel newydd. Roedd llawer o gwmnïau hedfan yn araf yn cydymffurfio â'r gyfraith ac aeth rhai o wledydd yr UE cyn belled â galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i atal diogelwch defnyddwyr i deithwyr awyr. Gwrthododd y Comisiwn Ewropeaidd ac mae'r rhan fwyaf o gwmnïau awyrennau wedi cyflawni eu rhwymedigaethau'n raddol, yn aml o dan bwysau gan gyrff gorfodi cenedlaethol fel Awdurdod Hedfan Sifil y DU.
Mae yna wahanol lwybrau unioni os yw teithwyr awyr yn anhapus ag ymateb eu cwmni hedfan a’u bod am fynd â’r mater ymhellach. Er na fydd cwyn i reoleiddiwr y DU, yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), yn sicrhau y gwneir iawn i'r defnyddiwr unigol, gall y CAA roi pwysau ar y cwmnïau hedfan i gydymffurfio â'r gyfraith y tu ôl i'r llenni a gall ddilyn hyn gyda chamau gorfodi gerbron y llysoedd. Gall defnyddwyr droi at ddau gorff ADR hedfan y DU, Aviation ADR a’r Ganolfan Datrysiad Anghydfod Effeithiol, ond ychydig o ddefnyddwyr sy'n gwybod am eu bodolaeth ac nid yw pob cwmni hedfan yn cytuno i ddatrys anghydfodau fel hyn. Nid yw cymryd camau cyfreithiol, naill ai drwy gwmni rheoli hawliadau neu'n uniongyrchol gerbron y llysoedd, bob amser yn opsiwn deniadol i ddefnyddwyr lle mae'r swm dan sylw yn gymharol fach.
Yr hyn sydd wedi taro'r tîm am y data a ddadansoddwyd hyd yma yw'r ystod o ffynonellau yn y cyfryngau lle dysgodd defnyddwyr am eu hawliau yn ystod yr argyfwng yn erbyn y lefel isel o ymwybyddiaeth o sut y gellir gorfodi'r hawliau hyn. Roedd yn amlwg o'r grwpiau ffocws fod gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd o unioni yn dameidiog iawn neu ar goll yn llwyr mewn rhai achosion.
Bydd y mewnwelediadau gwerthfawr a gafwyd o'r prosiect hwn yn helpu'r tîm i nodi bylchau a chyfyngiadau ar orfodi hawliau defnyddwyr yn effeithiol ac yn caniatáu iddo ddatblygu cynigion i lunwyr cyfreithiau a pholisi ar gyfer gwella'r gyfraith a'i gweithrediad. Mae'r ymchwil hon yn adeiladu ar ymchwil flaenorol a wnaed gan Dr. Drake ar orfodi cyfraith a pholisi'r UE yn effeithiol (Drake a Smith, 2016) gan gynnwys adroddiad a ysgrifennwyd ar gyfer Senedd Ewrop (2018) ar hawliau teithwyr awyr.