Ffilm newydd ar gyfer arddangosfa wedi’i churadu gan un o haneswyr Prifysgol Caerdydd
1 Medi 2021
Bydd arddangosfa fawr a gaeodd ychydig ddyddiau ar ôl ei hagor oherwydd pandemig COVID-19 yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar ôl i ffilm ddogfen fer gael ei rhyddhau.
Roedd yr Athro Hanna Diamond o Brifysgol Caerdydd a Dr Sylvie Zaidman, prif guradur a Chyfarwyddwr Amgueddfa Rhyddhau Paris, newydd agor yr arddangosfa proffil uchel pan gyhoeddodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, gyfyngiadau symud ar y wlad ar 17 Mawrth 2020.
Gwnaeth yr arddangosfa ddefnyddio ymchwil yr Athro Diamond a deunydd archif helaeth i adrodd straeon y ddwy filiwn o ddynion, menywod a phlant a ffoes o Baris wrth i'r Almaenwyr ddynesu at brifddinas Ffrainc ym mlwyddyn gyntaf yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd yr Athro Diamond, arbenigwr mewn Hanes Ffrengig o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: “Rwy’n falch iawn na fydd yr holl ymchwil a’r gwaith caled a wnaethom ar gyfer yr arddangosfa bwysig hon wedi bod yn wastraff ar ôl i’r pandemig roi terfyn arni’n ddirybudd.
“Mae wedi bod yn arbennig o ddiddorol gweld perthnasedd cyfoes y digwyddiadau hyn yn datblygu. Er enghraifft, pan gyhoeddwyd y llynedd y byddai cyfnod clo yn Ffrainc, gwnaeth y cyfryngau lawer o gymariaethau uniongyrchol rhwng y delweddau o Barisiaid yn gorlenwi’r gorsafoedd a’r ffyrdd a’r delweddau a gafodd eu cyhoeddi o ymadawiad y Parisiaid ym 1940. Hefyd, yn fwy diweddar eto, mae delweddau tebyg wedi bod yn y cyfryngau o bobl yn ffoi rhag yr argyfwng presennol yn Affganistan.”
Mae’r ffilm, sydd wedi’i chyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn mynd â’r gwylwyr drwy'r arddangosfa, gan ddangos ffilmiau newyddion, ffotograffau, atgofion ysgrifenedig a lluniadau plant iddynt, i rannu profiadau personol pobl a wnaeth fyw drwy ‘Ymadawiad y Parisiaid’, sef enw’r cyfnod erbyn hyn.
Bydd fersiynau Ffrangeg o'r ffilm, sy’n cynnwys isdeitlau dewisol yn Ffrangeg a Saesneg, ar gael at ddibenion addysgu.
Ychwanegodd yr Athro Diamond: “Mae’r ffilm yn gyfle i’n gwaith gyrraedd mwy o bobl, er mwyn i ni allu ail-fyw a chofio’r straeon hyn gyda chenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Dyma ein ffordd ni o ymateb i'r nifer fawr o geisiadau gan y rhai nad oedd yn gallu dod i Baris i weld yr arddangosfa yn bersonol oherwydd y pandemig.”
Mae'r ffilm, a gafodd ei rhyddhau ar 3 Medi 2021, yn nodi 82 mlynedd ers i Brydain a Ffrainc gyhoeddi rhyfel ar yr Almaen. Roedd y misoedd a ddilynodd yn gyfnod o aros (‘y Rhyfel Ffug’) lle na welwyd llawer o ymgyrchoedd mawr, cyn i ymgyrchoedd yr Almaen gael eu lansio ar 10 Mai 1940.
Ym Mehefin 1940, gadawodd y llywodraeth Baris yn dawel bach, wythnos ar ôl i’r brifddinas gael ei bomio’r tro cyntaf. Yn fuan wedi hynny, gwnaeth tri chwarter o boblogaeth y ddinas yr un fath. Llawn braw, gwnaeth trigolion adael mewn ceir, ar feiciau, ar geirt neu ar droed â chymaint o’u pethau â phosibl.
Ychwanegodd Dr Sylvie Zaidman, prif guradur a Chyfarwyddwr Amgueddfa Rhyddhau Paris – Amgueddfa’r Cadfridog Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin: “Fel cyfarwyddwr amgueddfa ynglŷn â’r Ail Ryfel Byd ym Mharis, un o’m mhrif ddyheadau ar gyfer y ffilm oedd ei bod yn cyfleu maint y digwyddiadau, oedd i’w weld yn yr arddangosfa ar yr ymadawiad.
“Gwnaeth curadu’r prosiect hwn gyda Hanna ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ei gwneud yn bosibl i ni ddangos nad stori Parisaidd na Ffrengig oedd hon ond stori sy’n berthnasol i Ewrop a llawer o wledydd eraill.
“Gobeithio bod y ffilm hon yn cyfleu ein diddordeb angerddol mewn hanes i’r cyhoedd a myfyrwyr yn yr un modd ag y gwnaeth yr arddangosfa i’n hymwelwyr.” Anogir y rhai sydd â diddordeb yn y cyfnod i ymweld â'r arddangosfa barhaol yn yr amgueddfa.