Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth newydd i lansio Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge

17 Awst 2021

Image of four students, two males and two females sat in a lecture theatre. Female in front row is wearing a headscarf.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gyhoeddi ei bod yn ymestyn ei phartneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad Hodge.

Mae'r Sefydliad wedi addo £450,000 o gymorth dros dair blynedd, er mwyn sicrhau manteision i fyfyrwyr, ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.

Bydd Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge yn cyflwyno pedair menter ar draws Ysgol Busnes Caerdydd i roi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr i ddiogelu economi, cymdeithas ac amgylchedd Cymru yn y dyfodol.

Mae'r ymrwymiad newydd hwn yn cryfhau perthynas 20 mlynedd yr Ysgol â'r Sefydliad, a ddechreuodd pan wnaeth Syr Julian Hodge ymrwymiad dyngarol i fyfyrwyr ac ymchwil.

  • Bydd Rhaglen Ysgoloriaeth PhD yn hyfforddi arweinwyr meddwl y dyfodol.

    Byddant yn blaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru ac yn enwedig y rhai o gefndir difreintiedig, neu fyfyrwyr y mae eu cynnig ymchwil yn canolbwyntio ar Gymru a'i nod yw cynhyrchu gwybodaeth newydd o werth i economi Cymru ac i gymdeithas.

    Bydd prosiectau sy'n mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol ar ôl COVID 19 hefyd yn cael eu hannog.
  • Bydd pum Lleoliad gwaith dros yr haf pob blwyddyn yn galluogi 15 o fyfyrwyr israddedig i gael profiad ymchwil ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol.

    Fel rhan o fentrau Rhaglen Arloesedd Addysg a Chyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd, nod y lleoliadau yw cynyddu hyder myfyrwyr a gwella sgiliau academaidd. Gall myfyrwyr ychwanegu’r wybodaeth ddiddorol ac unigryw ar eu CV am yr hyfforddiant ychwanegol a gawsant ar leoliadau.
  • Bydd Cronfa Sbarduno Menter Gymdeithasol yn cefnogi israddedigion yn eu blwyddyn olaf a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir sy'n astudio entrepreneuriaeth, drwy eu helpu i sefydlu busnesau newydd gyda chenhadaeth gymdeithasol ac economaidd.

    Bydd myfyrwyr yn cystadlu am gyllid drwy gyflwyno eu syniad i banel o arbenigwyr gan gynnwys academyddion, ymarferwyr ac Entrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl (PVEiR)Ysgol Busnes Caerdydd.
  • Bydd elfen olaf y rhaglen yn dyfarnu Gwobrau Myfyrwyr i'r israddedigion a'r ôl-raddedigion hynny sydd wedi cyflawni rhagoriaeth academaidd yn nigwyddiad gwobrwyo blynyddol yr Ysgol.

"Mae'r aliniad cryf rhwng Sefydliad Hodge a'n Hysgol yn seiliedig ar werthoedd cyffredin sy’n canolbwyntio ar Gymru a'n cymuned leol. Ac felly, rwy'n falch iawn y bydd yr arian hael hwn yn ein galluogi i ymestyn ein partneriaeth drwy Raglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge."

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Ychwanegodd yr Athro Ashworth: "Bydd y rhaglen yn ein helpu i barhau i greu mannau lle mae ein myfyrwyr yn cael eu hannog i herio, i gadw meddwl agored a chael golwg eang ar y byd. Bydd yn eu galluogi i ddatblygu lefel uchel o wybodaeth a sgiliau yn eu hymchwil a'u hastudiaethau. Byddant yn gadael gyda'r hyder i ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru a'r byd, gydag ymdeimlad ehangach o bwrpas economaidd a ffyrdd newydd o feddwl a gwneud.

Caerdydd yw Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, gyda chenhadaeth glir o gael effaith gadarnhaol ar y byd. Yn ogystal â llwyddiant economaidd, nod yr Ysgol yw dod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.

Meddai Karen Hodge, Ymddiriedolwr Sefydliad Hodge: "Rydym yn falch o'n partneriaeth ag Ysgol Busnes Caerdydd ac yn falch o gefnogi Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i addysg a dysgu, a chredwn yn gryf mewn rhoi cyfle i bobl ifanc o bob cefndir gyflawni eu potensial a ffynnu."

Mae rhoddion fel y rhain gan Sefydliad Hodge, yn ogystal â'r rhai gan unigolion a sefydliadau hael, yn helpu Prifysgol Caerdydd i gynnig gwasanaethau rhagorol i gefnogi myfyrwyr, meithrin ymchwil sy'n arwain y byd, a meithrin arloesedd a phartneriaethau busnes.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.