Ewch i’r prif gynnwys

Ffrindiau a helpodd yn yr ymdrech i frechu pobl rhag COVID-19 yn sôn am ba mor falch ydynt o raddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf

6 Awst 2021

Mae tair o fyfyrwyr ymsang Prifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech i frechu pobl rhag COVID-19 wedi dathlu gyda'i gilydd ar ôl graddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf.

Mae canolfannau brechu torfol ym mhrifddinas Cymru wedi bod yn brysur tu hwnt ers iddynt agor ym mis Rhagfyr, ac mae llawer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cynnig eu sgiliau ers hynny.

Gwnaeth Lily Scourfield, sy’n 23 oed ac yn dod o Landaf, ddechrau gweithio yn y canolfannau brechu ym mis Mawrth. Yn ddiweddar, gwnaeth orffen ei blwyddyn ymsang – blwyddyn ychwanegol rhwng y 4edd a’r 5ed flwyddyn o astudio ar gyfer gradd Meddygaeth – ym maes Ffarmacoleg.

Dywedodd: “Cefais y cyfle i gwrdd â phobl anhygoel ac, yn bwysicaf oll, mwynheais fod yn rhan o dîm mor wych. Roedd yn dda cael y profiad hwn o wneud gwaith clinigol a chyfathrebu â chleifion. Roeddwn yn gweithio ar y wardiau yn ystod y don gyntaf ac felly’n chwilio am rôl wahanol i gael newid.”

Ychwanegodd: “Hefyd, roeddwn yn teimlo bod rheidrwydd arnaf, mewn ffordd. Bob cyfle posibl, roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy sgiliau i helpu i ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i’r gymdeithas.”

Roedd yn byw gyda myfyriwr arall, sef Joanna o Dorset, a dreuliodd ei blwyddyn ymsang ym maes Ffisioleg wrth helpu yn y canolfannau brechu.

“Yn gyffredinol, roedd pawb yn bositif iawn ac yn ddiolchgar am ein gwaith a’r brechlyn ei hun,” meddai Joanna, sy’n 24 oed. “Fodd bynnag, yn ddealladwy, roedd rhai pobl yn nerfus, ac roedd angen tawelu eu meddwl, yn ogystal â phobl a oedd eisiau atebion i’w cwestiynau cyn iddynt gydsynio.

“Rwyf mor ddiolchgar fy mod yn dechrau gweithio mewn proffesiwn lle mae teimlad mor wych o waith tîm,” ychwanegodd. “Mae’r pandemig wedi gwneud i mi werthfawrogi a pharchu’r holl waith y mae gwahanol bobl yn ei wneud yn rhan o dîm ysbyty. Rwy’n credu y bydd hyn yn amhrisiadwy pan fyddaf yn dechrau gweithio fel meddyg iau.”

Mae Natasha Jones, sy’n 23 oed ac yn dod o Fryste’n wreiddiol, yn graddio ar ôl blwyddyn ymsang yn astudio Addysg Feddygol.

“Mwynheais siarad â meddygon a nyrsys a oedd yn dod yn ôl i helpu er eu bod wedi ymddeol, am fod ganddynt gymaint o straeon diddorol a phrofiad blaenorol i ddysgu ohono,” meddai. “Roedd yn ysbrydoliaeth gweld faint o bobl a oedd wedi ateb yr alwad am gymorth.”

Gan fod y seremonïau graddio’n rhai rhithwir eleni, gwnaeth y ffrindiau gwrdd â rhai o’u cydfyfyrwyr ar lawntiau Neuadd y Ddinas ar ôl llogi gwisgoedd graddio i gynnal eu dathliad eu hunain.

“Rwy'n falch o’r ffaith fy mod wedi bod yn rhan o’r GIG yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol hwn,” meddai Joanna. “Er gwaethaf yr heriau, rwy'n gobeithio y bydd yn ein helpu i gyd i fod yn feddygon gwell yn y dyfodol.”