Ewch i’r prif gynnwys

Un o athrawon Prifysgol Caerdydd wedi’i benodi’n llywydd partneriaeth academaidd dros gynghori ar bolisïau byd-eang hollbwysig.

16 Mehefin 2021

Professor Richard Catlow

Mae’r Athro Richard Catlow, Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, yn llywio partneriaeth cyrff academaidd ar y cyd ers mis Ebrill eleni pan gymerodd awenau cynghrair o academïau a chymdeithasau gwyddonol sy’n ymwneud â materion o bwys i’r byd.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys dros 140 o academïau cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang sy’n ‘cydweithio i gyflawni rôl hanfodol gwyddoniaeth ynghylch datrys problemau mwyaf y byd trwy atebion wedi’u seilio ar dystiolaeth’.

Mae’r bartneriaeth yn gweithio yn ôl gofynion pwyllgor llywio - chwe chadeirydd y pwyllgor gweithredol yw aelodau’r corff hwnnw ac mae dau yn rôl cyd-lywydd.

Y diben yw manteisio ar arbenigedd gorau’r byd i hyrwyddo polisïau doeth, gwella iechyd cyhoeddus, hybu rhagoriaeth mewn addysg wyddonol a chyflawni nodau pwysig eraill ynghylch datblygu.

Mae Richard Catlow, Athro Cemeg Gatalytig a Chyfrifiadurol, yn ysgolhaig uchel iawn ei barch ymhlith staff yr ysgol hon ac mae’i ymchwil yn ymwneud â llunio a defnyddio modelau cyfrifiadur ar gyfer cemeg cyflyrau solet a deunyddiau.

Mae’n gemegydd o fri sy’n gweithio ym maes astudiaethau cyfrifiadurol ac arbrofol deunyddiau cymhleth ers dros 30 mlynedd yn ogystal â bod yn llysgennad pwysig dros wyddoniaeth ledled y byd yn rôl Ysgrifennydd Materion Tramor y Gymdeithas Frenhinol.

Mae’i waith wedi’i gydnabod trwy ei ddyrchafu yn farchog am ei gyfraniadau ‘nodedig’ a ‘chryf’ ym maes ymchwil wyddonol.

Ac yntau’n gyd-lywydd, bydd yr Athro Catlow yn helpu’r bartneriaeth i ‘gynnull a galluogi academïau gwyddonol, peirianegol a meddygol y byd i gydweithio er mwyn trin a thrafod materion sydd o bwys rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol’.

Yn y rôl, bydd yn defnyddio ei arbenigedd a’i brofiad eang i roi cynghorion awdurdodol ac annibynnol ar bynciau pwysig megis rhaglenni addysgol byd-eang ym maes gwyddoniaeth, y newid hinsoddol a dosbarthu moddion ac arbenigedd meddygol yn deg ledled y byd.

Mae’r Athro Catlow wedi derbyn rôl cyd-lywydd y bartneriaeth yn ddiolchgar, gan ddweud:

“Bydd yn fraint olynu Volcker yn y cyfnod cyffrous a phwysig yma. Wrth wynebu gorchwylion ymestynnol megis brechu byd-eang, adfer yn sgîl pandemig a’r newid hinsoddol, mae angen i gymuned academaidd y byd gynghori a chyfrannu’n fwy nag erioed.”

Meddai Pennaeth Ysgol Cemeg Caerdydd, Damien Murphy:

“Mae’n wych gweld Richard yn y rôl wyddonol fyd-eang bwysig yma - rwy’n gwybod ei fod yn wir wyddonydd cydweithredol am fod ei gylch yn cydweithio mor dda â Sefydliad Catalysis Caerdydd, Ysgol Cemeg a phartneriaid ledled y byd. Yn ei rôl newydd, bydd cyfle iddo ddefnyddio ei syniadau gwyddonol craff i ddylanwadu ar bolisïau’r byd.”

Mae Richard Catlow wedi’i benodi yn lle Volker ter Meulen (Academi Gwyddorau’r Almaen, Leopoldina), a ildiodd yr awenau ar ôl dau gyfnod yn gyd-lywydd ers 2017.

Bydd yn cynrychioli gwledydd uchel eu hincwm ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Athro Depei Liu, sy’n cynrychioli gwledydd isel a chanol eu hincwm.

Rydyn ni’n llongyfarch yr Athro Catlow am gyflawni camp i’w hedmygu unwaith eto.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.