Ewch i’r prif gynnwys

Cymru yn y Cyfnod Clo

25 Chwefror 2021

COVID-19 signage in North Wales tourism spot

Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi galluogi Cymru i ddefnyddio ei phwerau datganoledig fwy nag erioed, yn ôl Golygydd Gwleidyddol Gweithredol Media Wales.

Gan dynnu ar ganfyddiadau yn ei gyfrol newydd Lockdown Wales a'i brofiad uniongyrchol o ohebu ar y pandemig i ddarparwr newyddion mwyaf Cymru, dadleuodd Will Hayward fod COVID-19 wedi deffro ymwybyddiaeth ddatganoledig Cymru yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Dechreuodd y sesiwn drwy ofyn cyfres o gwestiynau:

  • Ydy pobl Cymru'n fwy ymwybodol o ddatganoli nag o'r blaen?
  • Ydyn nhw'n fwy ymwybodol o'r ffordd mae'n effeithio ar eu bywyd bob dydd?
  • Ydyn nhw'n fwy ymwybodol o'u teimladau ato? Ac, ydy'r teimladau hynny wedi newid?

Gan droi at y cwestiwn cyntaf, dywedodd Will: “Rwy'n credu mai'r ateb heb os nac oni bai yw ydyn! Mae COVID wedi newid y canfyddiad o ddatganoli yng Nghymru yn ddramatig.

“Enghraifft dda o hyn yw'r cyferbyniadau rhwng nawr a blwyddyn yn ôl. Ar ddechrau'r pandemig, roedd y syniad y byddai Cymru'n gwneud rhywbeth gwahanol y tu hwnt i bob dychymyg. Y dybiaeth oedd y byddai llywodraeth y DU yn arwain.

“Ymlaen at y cyfnod clo ddiwedd 2020 a hyd yn oed y 'toriad tân' fel y'i galwyd cyn hynny. Roedd y rhain yn dangos hyder nad oedd yno o'r blaen.”

Man delivering presentation via Zoom
Will Hayward, Golygydd Gwleidyddol Gweithredol Media Wales

Yn ôl Will digwyddodd y newid hwn dros gyfnod o chwe mis, gan ddadwneud degawdau o arfer.

Ond fel yr eglurodd, dylid cadw dwy ystyriaeth mewn cof wrth esbonio penderfyniad Cymru i ddilyn ei thrywydd ei hun dros y cyfnod hwn:

  • Dibyniaeth Cymru ar y Cynllun Ffyrlo a reolwyd gan y Trysorlys yn San Steffan.
  • Ffin dyllog Cymru a Lloegr, yn enwedig yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Yna cafwyd trafodaeth ar arweinyddiaeth Cymru yn ystod y pandemig.

“Mae gweld arweinydd amlwg yn datblygu yng Nghymru'n rhan allweddol o'r ymwybyddiaeth ddatganoledig yna rydyn ni'n ei thrafod,” dywedodd Will.

“Fe wyddom fod pobl yn colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth am lu o resymau, ond un peth sy'n ennyn diddordeb pobl yw os ydyn nhw'n meddwl y bydd yr hyn sy'n cael ei ddweud yn effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau...”

“Yn ystod y pandemig mae pobl wedi sylweddoli'n fwy nag erioed, rwy'n meddwl, bod penderfyniadau gweinidogion datganoledig yma yng Nghymru'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau. Dwyf i ddim yn meddwl y bydd y genie hwn yn dychwelyd i'w botel. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth parhaol.”

Will Hayward Golygydd Gwleidyddol Gweithredol Media Wales

Unwaith eto rhoddodd Will gafeat ar y pwynt hwn drwy esbonio er bod poblogrwydd ac ymwybyddiaeth yn bodoli ymhlith y cyhoedd o ran yr arweinwyr datganoledig, efallai nad yw hyn yn wir am y cabinet ehangach yng Nghymru.

Cyn symud at y sesiwn holi ac ateb, gorffennodd Will ei gyflwyniad drwy ystyried rhai o'r gwersi y gallwn ni eu dysgu o'r pandemig i symud at system well o lywodraeth a sylw yn y cyfryngau ar draws yr Undeb yn y dyfodol.

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.