Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda Chyfieithu - Cwrs ar-lein am ddim

15 Mawrth 2021

Mae cofrestru ar gyfer ein cwrs ar-lein, Gweithio gyda Chyfieithu, bellach ar agor!

O 15 Mawrth 2021 gallwch chi gofrestru, yn rhad ac am ddim, i'n cwrs, Gweithio gyda Chyfieithu, rydyn ni'n ei gynnal ar y cyd â Future Learn. Mae Future Learn yn blatfform ar-lein sy'n gweithio gyda 175 o bartneriaid yn y DU a rhyngwladol i gynnig Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr (Massive Open Online Courses neu MOOCs) ar draws amrywiaeth eang o bynciau.

O iechyd i’r system gyfiawnder, o’r sector gwirfoddol i chwaraeon a’r celfyddydau, rydym i gyd yn byw ac yn gweithio’n fwyfwy mewn cyd-destunau lle mae pobl yn siarad mwy nag un iaith. Mae gweithio gyda Chyfieithu yn pwysleisio pwysigrwydd cyfieithu ac yn tynnu ar ein hymchwil a'n harbenigedd i'ch helpu chi i ddod o hyd i awgrymiadau a gwybodaeth ymarferol am natur cyfieithu mewn byd amlieithog.

Byddwch yn trin a thrafod cyfieithu mewn cyd-destun byd-eang, a gobeithio dod o hyd i’ch 'cyfieithydd mewnol' yn y broses!

Dechreuon ni gynnig Gweithio gyda Chyfieithu yn 2016 ac, oherwydd ei boblogrwydd, rydym wedi cynnal saith iteriad ers hynny i bron i 50,000 o bobl ledled y byd. Hyd yn hyn, rydym wedi denu dysgwyr o'r DU, Brasil, Rwsia, yr Aifft, Saudi Arabia, Sbaen, yr Eidal, UDA, yr Wcráin, India a Fietnam felly nid yw’ch lleoliad yn broblem!

Os ydych chi'n ystyried ymuno â ni ar ein cyrsiau Cyfieithu Israddedig neu Ôl-raddedig yn ddiweddarach eleni, mae Gweithio gyda Chyfieithu yn gyflwyniad perffaith i'n harbenigedd a'r sector hynod ddiddorol hwn.

I gofrestru a chael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Gweithio gyda Chyfieithu ar wefan Future Learn.

Rhannu’r stori hon