Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn datgelu effaith cyfnod clo ar drais ym mhrifddinas Cymru

2 Mawrth 2021

Yn ôl astudiaeth newydd, a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, yn ystod cyfnod clo COVID-19 cyntaf y DU gwelwyd gostyngiad "cyflym a pharhaus" mewn trais y tu allan i'r cartref ym mhrif ddinas Cymru.

Astudiodd ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch (CSRI) Prifysgol Caerdydd a Chanolfannau Rheoli ac Atal Clefydau yr Unol Daleithiau ddata o unig adran achosion brys (ED) Caerdydd rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020 a'i gymharu â data wythnosol o fis Ionawr 2019 ymlaen.

Darganfuwyd, yn ystod y cyfnod clo cyntaf, bod bron i 60% yn llai o bobl bob wythnos yno oherwydd anafiadau treisgar a gafwyd y tu allan i'r cartref. Cyfnod lle caniatawyd i bobl fynd allan am resymau cyfyngedig yn unig megis, rheswm meddygol, ymarfer corff neu siopa bwyd.

Hefyd, canfu'r ymchwilwyr ostyngiad sylweddol yn nifer y dynion o bob oedran oedd wedi ymweld â'r ED o ganlyniad i ddefnyddio arfau neu drais.

Yn groes i'r disgwyliadau, ni wnaeth y dadansoddiad ganfod cynnydd mewn ymweliadau o ganlyniad i drais yn y cartref.

Cyhoeddir y canfyddiadau – y dadansoddiad cyntaf o drais o'r safbwynt hwn yn ystod pandemig COVID-19 – heddiw yn 'the Journal of the American Medical Association'.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Jonathan Shepherd, o CSRI: "Y gostyngiad cyflym hwn mewn anafiadau treisgar yw'r mwyaf mae unrhyw un ohonom wedi'i weld erioed. Mae'n debygol o adlewyrchu tafarndai a chlybiau canol y ddinas yn cau, sef lle mae'r mwyafrif o drais yn digwydd, a chydymffurfiad eang â chyfyngiadau'r cyfnod clo."

Ymchwiliodd yr ymchwilwyr i'r cysylltiad rhwng cyfnod clo COVID-19 a'r ymweliadau â'r ED o ganlyniad i anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais gan ddefnyddio system sgrinio trais manwl a roddwyd ar waith am y tro cyntaf yng Nghaerdydd dau ddegawd yn ôl. Astudiwyd amser y trais, p'un a ddigwyddodd y tu mewn neu'r tu allan i'r cartref, a ddefnyddiwyd arf, y math o droseddwr ac oedran a rhyw yr unigolyn a anafwyd.

Ystyriwyd ymweliadau yn unig adran achosion brys Caerdydd – yn Ysbyty Athrofaol Cymru – ar gyfer anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais o 1 Ionawr 2019 i 9 Mehefin 2020. Roedd y cyfnod a astudiwyd cyn y cyfnod clo yn 63 wythnos o hyd a pharhaodd y cyfnod clo am 12 wythnos.

Defnyddiwyd model atchweliad "gwahaniaeth-mewn-gwahaniaeth” i nodi newidiadau sylweddol o ran ystadegau yn ystod y cyfnod clo. Roedd y model hwn yn cyfrifo newidiadau tymhorol yn nifer yr ymweliadau.

Ar gyfer trais y tu allan i'r cartref, gwelwyd gostyngiadau sylweddol mewn ymweliadau â'r ED yn ystod y cyfnod clo o 92% ymhlith menywod o dan 18 oed a 65% ymhlith dynion o bob oed, a gostyngiad sylweddol (92%) yn y rhai a anafwyd gydag arf. Er bod y bobl a anafwyd gan ddieithriaid wedi gostwng yn sylweddol (65%), ni fu newid sylweddol i'r nifer a anafwyd gan aelodau'r teulu.

O ran trais yn y cartref, ni welwyd unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw gategori.

“Mae’r diffyg tystiolaeth o gynnydd mewn trais yn y cartref yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU yn galonogol,” meddai’r Athro Shepherd.

“Mae’r gostyngiad enfawr yn yr achosion y tu allan i’r cartref ond dim cynnydd yn y cartref yn adlewyrchu natur y ddau amgylchedd. Mae'r economi yn ystod y nos (tafarndai a chlybiau a'r strydoedd lle maent wedi'u lleoli) yn amgylchedd sy'n hwyluso trais ac anafiadau treisgar.

“Ar y llaw arall, yn ôl ein hastudiaeth, mae amgylchedd y cartref yn llawer llai ffafriol i drais ac anafiadau treisgar. Nid yw pobl a fyddai wedi cael eu hanafu'n dreisgar yn economi’r nos yn cael eu hanafu'n dreisgar pan maen nhw'n aros gartref.”

Canfu'r ymchwilwyr, yn ystod y misoedd cyntaf o epidemig COVID-19 bu gostyngiad o 43% yn yr ymweliadau â'r ED ar gyfer pob rheswm o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dywedon nhw, er y gallai ofnau ynghylch cael COVID-19 fod wedi effeithio ar nifer yr ymweliadau â'r ED mewn achosion sy'n gysylltiedig â thrais, mae'n annhebygol y bydd hyn wedi effeithio ar y canfyddiadau cyffredinol.

Disgwylir i Brifysgol Caerdydd gyhoeddi dadansoddiad o drais yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru a Lloegr y mis nesaf.

The researchers investigated the association between COVID-19 lockdown and ED visits for violence-related injuries using detailed violence screening first implemented in Cardiff two decades ago. They studied violence time, whether it took place inside or outside the home, weapon use, perpetrator type and the age and sex of the injured.

They examined visits at Cardiff’s only emergency department – at the University Hospital of Wales – for violence-related injury from 1 January 2019 to 9 June 2020. The pre-lockdown period studied was 63 weeks and the lockdown period, 12 weeks.

They used a “difference-in-difference” regression model to identify statistically significant changes during lockdown. This model accounted for seasonal changes in the number of attendances.

For violence outside the home, they found significant decreases in ED visits during the lockdown of 92% among females under the age of 18 and 65% in males of all ages, and a significant decrease (92%) in those injured with a weapon. While people injured by strangers decreased significantly (65%), numbers of those injured by family members did not change significantly.

Regarding violence in the home, no significant change was found in any category.

“The lack of evidence of increase in violence in the home during the first UK lockdown is reassuring,” said Professor Shepherd.

“The massive decrease outside the home but no increase in the home reflects the nature of the two environments. The night-time economy (pubs and clubs and the streets where they are situated) is an environment which facilitates violence and violent injury.

“On the other hand, in our study, the home environment is much less conducive to violence and violent injury. People who would have been injured in violence in the night-time economy are not injured in violence when they stay at home.”

The researchers found that during these first months of the COVID-19 epidemic ED visits for all reasons dropped by 43% relative to the previous year. They said that while fears about catching COVID-19 may have affected the number of violence related ED visits, it is unlikely this affected the overall findings.

Cardiff University is due to release an England and Wales analysis of violence during the COVID-19 pandemic next month.

Rhannu’r stori hon