Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn darganfod na wnaeth bron hanner y bobl â symptomau canser posibl yn y don gyntaf o’r pandemig gysylltu â meddyg teulu

25 Chwefror 2021

Mae canfyddiadau cychwynnol arolwg ledled y DU wedi awgrymu na wnaeth bron hanner y bobl a brofodd symptomau canser posibl yn nhon gyntaf pandemig COVID-19 gysylltu â'u meddyg teulu.

Gwnaed yr ymchwil gan Brifysgol Caerdydd ac Ymchwil Canser y DU, gyda chanfyddiadau rhagarweiniol yn canolbwyntio ar brofiadau 7,543 o bobl rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020.

Profwyd symptomau canser posibl gan lawer yn ystod y don gyntaf, yn ôl yr arolwg, gyda 40.1% o’r cyfranogwyr (3,025 o bobl) yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un symptom posib.

O'r rhai a brofodd symptomau, nododd cyfran sylweddol (44.8%) nad oeddent wedi cysylltu â'u meddyg teulu ar gyfer unrhyw symptom, hyd yn oed ar gyfer rhybuddion pwysig fel pesychu gwaed (ni cheisiodd 30.7% o'r rhai a brofodd y symptom hwn gymorth), lwmp anesboniadwy neu chwyddo (ni cheisiodd 41% gymorth) na newid mewn sut roedd man geni yn edrych (ni cheisiodd 58.6% gymorth).

Mae papur briffio polisi ar y canfyddiadau a ryddhawyd heddiw yn galw am ymgyrchoedd wedi’u cydlynu ledled y DU i dynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau'r GIG ar agor yn ddiogel i unrhyw un sydd â symptomau anarferol neu barhaus.

Dywedodd y prif ymchwilydd yr Athro Kate Brain, seicolegydd iechyd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, fod pobl wedi “anwybyddu eu pryderon iechyd er mwyn amddiffyn y GIG”.

Mae'r papur briffio polisi hefyd yn amlinellu’r canlynol:

  • Nododd mwy na dwy ran o dair o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel rhag COVID-19 pe bai angen iddynt fynd i apwyntiad yn eu meddyg teulu (68.2%) neu'r ysbyty (61.2%) – ond roedd bron tri chwarter (72.3%) yn poeni am oedi o ran profion canser ac ymchwiliadau oherwydd COVID;
  • Nodwyd poeni am wastraffu amser gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (15.4%), poeni am roi straen ychwanegol ar y GIG (12.6%), ddim eisiau cael eu hystyried yn bobl sy'n gwneud ffwdan (12%), anhawster o ran cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd (10.3% ) a phoeni am ddal COVID-19 (9.6%) fel rhwystrau rhag ceisio cymorth meddygol. I’r gwrthwyneb, nid oedd ymgynghori o bell yn rhwystr cyffredin i geisio cymorth meddygol (4.8%).

Cyfwelwyd 30 o gyfranogwyr hefyd am eu profiadau:

  • Gwnaethant ddisgrifio anwybyddu eu pryderon er mwyn osgoi rhoi baich ar y GIG – fodd bynnag, pan wnaethant gysylltu â'u meddyg teulu, roeddent yn falch o'r gofal a dderbyniwyd ac roeddent am gadw ymgynghoriadau â meddygon teulu o bell fel opsiwn yn y dyfodol ochr yn ochr ag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb;
  • Gwnaethant fynegi rhywfaint o ofn neu nerfusrwydd ynghylch defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol – a phryderon mwy ynghylch defnyddio gofal eilaidd yn ymwneud â dal neu drosglwyddo'r feirws. Fodd bynnag, disgrifiodd y rhai a gafodd gymorth wyneb yn wyneb mewn gofal sylfaenol a/neu eilaidd eu bod yn teimlo'n “ddiogel” wrth wneud hynny.

Dywedodd yr Athro Brain: “O'r data cynnar a gasglwyd gennym ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, gallwn weld bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar agweddau'r cyhoedd at geisio cymorth ar gyfer arwyddion a symptomau canser a allai droi i ohirio atgyfeiriadau, colli profion a chael diagnosis mewn cam diweddarach.

“Mae hyn yn awgrymu bod neges y llywodraeth i 'aros gartref, diogelu'r GIG ac achub bywydau' a fwriadwyd i reoli lledaeniad COVID-19, hefyd wedi anfon neges gref i'r cyhoedd y gall canser aros. Er ein bod yn cydnabod bod mesurau i reoli lledaeniad COVID-19 yn hanfodol, mae angen i ni hefyd anfon neges gref a chlir na all canser aros, y dylai pobl gysylltu â'u meddyg teulu gydag unrhyw symptomau anarferol neu barhaus a bod gwasanaethau'r GIG ar agor yn ddiogel.”

Mae'r adroddiad yn argymell bod angen gwaith pellach i’w wneud yn glir bod gwasanaethau'r GIG ar agor yn ddiogel.

Daw i'r casgliad bod angen gwybodaeth glir i fagu hyder i gysylltu â'r meddyg teulu yn brydlon, esbonio'r newidiadau i weithdrefnau meddygfeydd teulu a beth i'w ddisgwyl mewn ymgynghoriad, ac i leddfu pryderon ynghylch gallu'r GIG a rheoli heintiau.

Dywedodd Michelle Mitchell, prif weithredwr Ymchwil Canser y DU: “Mae dal canser yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau posibl i oroesi’r afiechyd, felly rydym yn hynod bryderus bod pobl wedi gohirio’r broses o geisio cymorth ar gyfer symptomau canser, hyd yn oed pe bai hyn am y bwriadau gorau. Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar gam a goroesiad canser. Mae hyn yn destun pryder, felly mae'n hanfodol nad yw pobl yn oedi cyn cysylltu â'u meddyg teulu os ydyn nhw'n sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol i'w corff.

“Mae staff y GIG wedi gweithio’n anhygoel o galed i reoli’r straen cynyddol y mae COVID-19 wedi’i roi ar system sydd eisoes dan bwysau, ond rhaid i’r llywodraeth amddiffyn gwasanaethau canser os ydym am osgoi’r gwir bosibilrwydd y gallai cyfraddau goroesi canser fynd gan yn ôl am y tro cyntaf ers degawdau.”

Dywedodd Dr Neil Smith, cynghorydd meddygon teulu Ymchwil Canser y DU: “Mae meddygon teulu ledled y DU yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, felly os ydych chi wedi sylwi ar symptom anarferol neu barhaus, dywedwch wrth eich meddyg. Rydym ni eisiau clywed gennych chi. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn ganser, ond os ydyw’n ganser, mae ei ddal yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i gael triniaeth lwyddiannus. I'r rhai sydd wedi methu â chysylltu â’ch meddygfa arferol, er y gallai fod yn rhwystredig, byddwn yn eich annog i ddal ati, mae meddygon teulu fel fi yma o hyd i'ch helpu chi."

Gwneir ymchwil a dadansoddiadau i ddeall sut mae agweddau at sgrinio canser ac ymddygiadau iechyd yn newid dros amser. Caiff canfyddiadau'r arolwg hwn eu cyhoeddi cyn bo hir cyn eu hargraffu, gyda'r tîm ymchwil yn anelu at gyhoeddi mewn cyfnodolyn eleni.

Mae'r gwaith ymchwil, y disgwylir iddo gael ei gynnal am 18 mis, yn cael ei wneud gan Brifysgol Caerdydd ac Ymchwil Canser y DU, ynghyd â Choleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Surrey ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fe’i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesedd y DU i COVID-19.