£80,000 o arian sbarduno yn cael ei roi i brosiectau o’r sectorau sgrîn a newyddion yng Nghymru
15 Chwefror 2021
Mae gweithwyr llawrydd creadigol a micro-fusnesau yn datblygu ffyrdd newydd o weithio o ganlyniad i fenter a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Clwstwr, sy'n gyrru arloesedd yn y diwydiannau creadigol yn ne Cymru, wedi dyfarnu grantiau i wyth prosiect yn ei gylch cyllido diweddaraf. Bydd y garfan yn gweithio i ddod o hyd i dechnegau gwell mewn meysydd gan gynnwys cyfweld o bell, llif gwaith dylunio set mewn teledu o safon uchel, dynwared saethu mewn ffilm gan ddefnyddio offer digidol a newyddion Cymraeg i bobl ifanc.
Gall arloesiadau arfaethedig wella cynaliadwyedd, twristiaeth a chynhwysiant hefyd.
Dewiswyd carfan sbardun Clwstwr 2021 yn dilyn Lab Syniadau deuddydd, lle dysgwyd am egwyddorion ymchwil a datblygu ar gyfer arloesedd. Bydd y grŵp yn mynd ati nawr i weithio'n agos gydag arbenigwyr y diwydiant ac academyddion i ddatblygu eu syniadau dros gyfnod o dri mis.
Meddai Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr: “Mae cynnydd y prosiectau a ariannwyd gennym o'n Lab Syniadau cyntaf yn 2020 wedi creu argraff fawr arnom ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd y garfan newydd hon yn ei ddatblygu a'i gyflawni.
“Mae ein hymrwymiad i arloeswyr cam cynnar yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar weithwyr llawrydd a busnesau sy'n gweithio yn y diwydiannau diwylliannol. Gyda lwc, trwy gynnig cyfleoedd datblygu fel hwn, rydym yn helpu i gynnal sector creadigol ffyniannus a bywiog yn ne Cymru fydd yn tyfu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”
Cafodd Yeota Imam-Rashid, o gwmni cynhyrchu Caerdydd Little Bird Films, gyllid ar gyfer prosiect o'r enw Green Screen. Meddai Yeota: “Bydd Green Screen yn edrych ar sut gallwn gyflawni ôl-troed carbon net sero, neu mor agos â phosibl i hynny, wrth gynhyrchu cyfryngau ac edrych ar bob agwedd ar y broses.
“Mae Little Bird Films yn gyffrous iawn i fod yn rhan o rywbeth a allai gael effeithiau pellgyrhaeddol am genedlaethau i ddod. Mae ganddo botensial enfawr i roi Cymru ar y map fel arweinydd ym maes cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy.”
Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Clwstwr yn rhoi cyfle i ystod eang o fusnesau creadigol o Gymru edrych ar gynhyrchion a gwasanaethau newydd trwy eu cylch cyllido nesaf. Rwy'n falch iawn bod Cymru Greadigol yn rhoi'r arian cyfatebol i alluogi'r busnesau hyn i gael yr hwb mawr ei angen hwn trwy raglen Clwstwr sy’n uchel ei pharch. "
Mae Clwstwr, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd – yn rhaglen ymchwil a datblygu bum mlynedd o hyd sydd â'r nod o feithrin canolfan gynhyrchu'r cyfryngau o amgylch prifddinas Cymru.
Gyda chyllid o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a chyllid cyfatebol gan Gymru Greadigol, mae Clwstwr yn dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r llywodraeth at ei gilydd.
Ers 2019, mae rhaglen Clwstwr wedi rhoi £2m i 66 o brosiectau i ddatblygu eu syniadau ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y diwydiant y sgrîn a newyddion.
Ewch i www.clwstwr.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am y garfan sbarduno ddiweddaraf.