Ewch i’r prif gynnwys

Prifddinas Greadigol yn ennill arian o gronfa sbarduno

11 Awst 2020

People working at PC stock image

Mae consortiwm a arweinir gan Brifysgol Caerdydd wedi ennill £50k o gronfa sbarduno wrth geisio trawsnewid sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) o fod yn glwstwr rhanbarthol cryf i fod yn hwb byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau.

Bydd yr arian gan y llywodraeth a ddarperir drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU yn helpu Caerdydd a'i phartneriaid - darlledwyr, BBaChau rhanbarthol ym maes cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau a thechnoleg, prifysgolion yn y rhanbarth ac arbenigwyr diwydiant sgrin - ar draws y CCR i ddatblygu cyflwyniad llawn ar gyfer hyd at £50 miliwn drwy'r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd erbyn Tachwedd 2020.

Arweinir Prifddinas Greadigol gan Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd sy'n rhedeg Clwstwr, sef rhaglen Ymchwil a Datblygu ar gyfer y sector sgrîn yn ne Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, a Chaerdydd Greadigol, rhwydwaith dinas ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol. Nod Prifddinas Greadigol yw llunio a gweithredu ecosystem effeithiol er mwyn tyfu economi cyfryngau'r rhanbarth a'i ymgorffori fel ysgogiad economaidd ar gyfer sectorau rhanbarthol eraill.

Dywedodd Justin Lewis, yr Athro Cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Clwstwr: “Ar ôl effaith ddinistriol COVID-19, nid yw'r angen am arloesedd digidol yn y sector creadigol erioed wedi bod mor hanfodol. Caiff Caerdydd ei chydnabod yn rhyngwladol eisoes am gynhyrchu ffilmiau a chynnwys ar gyfer y teledu a bydd y consortiwm yn adeiladu ar y cryfder rhanbarthol hwn er mwyn helpu i greu hwb byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau.

“Bydd darlledwyr y DU, busnesau bach lleol a gweithwyr llawrydd yn gweithio gyda'i gilydd i ymchwilio a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer marchnadoedd byd-eang, ysgogi busnes a chynyddu nifer y swyddi yn sector y cyfryngau a'i gyflenwyr."

Mae cynhyrchu ffilmiau a chynnwys ar gyfer y teledu yn rhan sylweddol o economi leol CCR, gyda mwy na 600 o gwmnïau'n cyfrannu £350 miliwn mewn sector sy'n cynnwys ffilmiau, darlledu, gemau a chynnwys digidol. Mae'r rhai hynny sy'n gweithio yn y cyfryngau 'n cyfateb i 7% (sy'n codi) o weithlu'r rhanbarth - un o'r crynodiadau sectoraidd uchaf yn y DU.

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr Economi Creadigol, Prifysgol Caerdydd a Phrif Swyddog Gweithredu, Clwstwr: “Mae'r angen capasiti, integreiddio a phiblinell sgiliau ar y rhanbarth i ymelwa'n systematig ar ofynion marchnadoedd byd-eang sy'n tyfu, ac i ddyfeisio a chreu syniadau arloesol a bod yn berchen arnynt."

Bydd ein cais i ddatblygu Prifddinas Greadigol yn ein galluogi i drawsnewid sector cyfryngau'r rhanbarth yn ecosystem sy'n rhagori a all oresgyn cyfyngiadau presennol i fod yn fwy na chyfanswm eu rhannau.

Sara Pepper Director of Creative Economy

Yn ôl y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae'n newyddion gwych bod cais Cryfder mewn Lleoedd Prifddinas Greadigol ar y rhestr fer gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, ac mae'n dyst i statws ein sector creadigol yng Nghymru, yn ogystal â gwaith timau Clwstwr a Chaerdydd Greadigol sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y cais. Cydnabyddir ein dinas yn rhyngwladol ar gyfer ei gwaith yn y sector, yn enwedig ym maes cynhyrchu ffilmiau a chynnwys ar gyfer y teledu, a bydd cais Cryfder mewn Lleoedd Prifddinas Greadigol yn hwb pellach i gadarnhau ein safle fel un o brif glystyrau creadigol y byd."

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae'r diwydiannau creadigol yn wynebu eu her anoddaf hyd yma ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ddechrau ymateb ar y cyd ac yn arloesol yn dilyn y pandemig byd-eang. Mae gan y diwydiant yng Nghaerdydd a gweddill Cymru brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf mewn llawer o genres. Mae hwn yn gyfle gwych i harneisio'r ysbryd creadigol ymhellach a helpu i gyflwyno dull gweithredu aml-lwyfan i drawsnewid y diwydiant yn rym byd-eang."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru, Nia Thomas: “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer y sector sgrîn yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn ystod beth sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn ar gyfer cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau. Mae cysylltedd ar draws y clwstwr wedi bod yn cynyddu'n raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn debyg i gydweithio, a bydd cais Prifddinas Greadigol yn annog hyn i dyfu ymhellach. Yn fy marn i, mae llawer o botensial ac uchelgais yn ein sector, yn y bobl a'u syniadau, ac mae Prifddinas Greadigol yn gyfle da i gydnabod hynny'n fyd-eang."

Bydd cyflwyniad terfynol Caerdydd i UKRI yn cystadlu yn erbyn 16 o geisiadau eraill o ranbarthau'r DU ar gyfer cyllid llawn a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi yn 2021.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.