Ewch i’r prif gynnwys

Cyfle newydd i rannu profiadau o fyw yn ystod pandemig

3 Chwefror 2021

Stock image of drawn heads

Wrth i'r bandemig barhau i reoli ein bywydau, mae gofyn i bobl yng Nghaerdydd rannu eu profiadau'n rhan o ymchwil barhaus ar sut mae'r boblogaeth yn ymdopi â COVID-19.

Cafodd Lles Cymru, dan arweiniad yr Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd a'r Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, ei lansio fis Mehefin y llynedd i archwilio effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a lles emosiynol.

Gyda chefnogaeth gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, bydd canfyddiadau'r prosiect yn cael eu defnyddio i helpu'r GIG yng Nghymru ddeall nid yn unig y materion sy'n effeithio ar bobl, ond hefyd sut i siapio gwasanaethau cymorth i'r dyfodol.

Bu i dros 15,000 o bobl yng Nghymru gymryd rhan yn arolwg cynta'r prosiect, ac arweiniodd y canfyddiadau at ymchwilwyr yn dod i'r casgliad bod Cymru'n wynebu ystod eang o broblemau iechyd meddwl yn sgîl COVID-19.

Dysgon nhw mai oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig oedd yn dioddef fwyaf. Dangosodd oddeutu hanner y cyfranogwyr straen seicolegol sylweddol, gyda thua 20% yn dioddef o effeithiau dwys.

Nawr, hoffai'r ymchwilwyr weld a yw'r pandemig parhaus wedi arwain at waethygiad pellach yn lles meddyliol y boblogaeth, yn ogystal â chanfod a oes sefydlogrwydd o ran lefelau straen seicolegol, neu os yw lefelau iechyd meddwl wedi mynd yn ôl i sut yr oeddent cyn COVID-19.

Dywedodd yr Athro Snowden: “Mae hon yn ymchwil bwysig iawn. Ar ôl cynnal dim ond un arolwg, roeddem yn gallu adnabod materion difrifol fydd yn cael goblygiadau hirdymor ar bawb ohonom yng Nghymru."

Cawsom gefnogaeth wych gan bobl Cymru, ac rydym yn gobeithio y byddant yn awyddus i barhau i fod yn rhan o'r prosiect hanfodol hwn. Peidiwch â phoeni os na wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg fis Mehefin y llynedd, rydyn ni dal eisiau clywed gennych chi.

Yr Athro Robert Snowden Professor

Mae grŵp ymchwil Lles Cymru hefyd yn cynnwys Dr Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda chymorth y gweithiwr marchnata proffesiynol Stuart Williams a myfyrwyr PhD Prifysgol Abertawe James Knowles, Jennifer Pink a Nicola Simkiss.

Mae'r arolwg diweddaraf, sydd ar agor tan 20 Chwefror, yn hollol ddienw ac yn gofyn i gyfranogwyr roi gwybodaeth am bynciau fel pryderon parhaus a allai fod ganddynt, sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu sefyllfa ariannol neu os bu'n rhaid iddynt ganslo digwyddiadau mawr megis priodasau neu wyliau.

Ychwanegodd yr Athro Gray: “Fodd bynnag, rydym hefyd yn awyddus i ddarganfod a fu profiadau cadarnhaol, felly rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym beth maent wedi gallu ei fwynhau, os oes rhywbeth, yn ystod cyfnod y coronafeirws - fel cael mwy o amser gyda'r teulu neu'n gwerthfawrogi eu hamgylchedd efallai?”

Bydd canfyddiadau'r arolwg hwn ac arolygon eraill yn cael eu rhannu â phob bwrdd iechyd yng Nghymru, fel bod modd eu defnyddio i weld ble a pha fath o gefnogaeth sydd ei hangen, a gan ba sectorau'r boblogaeth.

Ewch i wefan Lles Cymru i ddysgu mwy am y prosiect neu i gymryd rhan. Mae'n hawdd iawn cael gafael ar yr holiadur ar-lein, a bydd ond yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff a myfyrwyr.