Ewch i’r prif gynnwys

Nod ap arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yw cefnogi pobl nad ydynt yn gallu cael plant

26 Ionawr 2021

Stock image of a woman looking at a mobile phone

Mae ap arloesol wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth a chefnogaeth gam wrth gam i bobl sy’n methu cael plant.

Datblygwyd MyJourney gan y Grŵp Ymchwil Astudiaethau Ffrwythlondeb yn yr Ysgol Seicoleg a chredir mai hwn yw'r adnodd cyntaf o'i fath sydd ar gael yn rhwydd ac wedi'i seilio ar ymchwil.

Mae'n rhaglen ryngweithiol hunangymorth rhad ac am ddim sy'n seiliedig ar therapïau gwybyddol ymddygiadol cyd-destunol. Mae’n canolbwyntio ar therapïau derbyn ac ymrwymo a chefnogaeth sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod astudiaethau wedi nodi y gall pobl sy'n methu â chyflawni eu dymuniad i gael plant - waeth beth yw'r rheswm - fynd trwy broses alaru a bod angen y gefnogaeth gywir.

Mae'r gefnogaeth hon yn bwysicach nag erioed ynghanol pandemig a allai fod wedi dod â gobeithion llawer o bobl o gael plant i ben trwy driniaethau ffrwythlondeb sydd wedi'u gohirio neu eu canslo, ynghyd â phwysau ariannol neu iechyd meddwl.

Mae'r ymchwilwyr yn gofyn i ddynion a menywod gofrestru i gymryd rhan i dreialu'r ap fel y gellir ei werthuso'n llawn a'i gyflwyno i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim o'r haf hwn.

“Pan fydd pobl yn cyrraedd pen eu taith i gael plant ac nid ydyn nhw'n gallu cyflawni'r dymuniad hwnnw, mae angen amser arnynt i dderbyn hyn - a gall hyn fod yn heriol iawn,” meddai'r ymchwilydd doethuriaeth Bethan Rowbottom, a ddyfeisiodd a datblygodd yr ymyrraeth fel rhan o'i PhD.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu y gall cefnogaeth seicogymdeithasol dan arweiniad helpu gyda’r addasiad tymor hir hwn a gallai hefyd annog pobl i geisio cymorth pellach os ydynt yn teimlo bod ei angen arnynt.

“Mae pobl sy’n ei chael yn anodd cael plant eisoes yn wynebu rhwystrau enfawr gyda rhestrau aros am driniaeth, anhawster i ariannu eu teithiau a phwysau iechyd meddwl enfawr - ac mae’r pandemig presennol wedi ychwanegu rhwystr arall eto."

I lawer o bobl efallai mai 2020 oedd eu cyfle olaf i gael plant felly mae angen y gefnogaeth hon nawr yn fwy nag erioed, yn enwedig lle nad yw ar gael wyneb yn wyneb.

Mae'r ap yn seiliedig ar ymchwil gyhoeddedig helaeth, gyda mewnbwn gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl na allent gael plant, ac mae wedi'i anelu at bawb, waeth beth fo'u rhyw neu amgylchiadau.

Mae'n gwahodd defnyddwyr i gymryd 10 cam dros 10 wythnos (neu ddewis eu cyflymder eu hunain) i helpu i ddatblygu sgiliau i fynd i'r afael â sawl agwedd ar eu dymuniad sydd heb ei gyflawni. Er enghraifft, mae un dasg yn cynnwys rhoi sgôr i wahanol werthoedd tra bod un arall yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar. Po fwyaf y mae'r defnyddiwr yn ymgysylltu, mwyaf y mae’n cael ei deilwra atynt.

Dywedodd Dr Sofia Gameiro, sy'n arwain y grŵp ymchwil: “Mae ein hymchwil yn nodi’n rheolaidd bod pobl yn wynebu amrywiaeth o heriau seicolegol, fel galar, wrth ddelio â dymuniad i gael plant sydd heb wireddu.

“Hyd yn hyn, nid oedd unrhyw ymyrraeth wedi’i seilio ar ymchwil ar gael yn rhwydd i gefnogi’r rhai sy’n ceisio derbyn y golled hon. Nod MyJourney yw llenwi'r bwlch hwn a chynnig cefnogaeth gam wrth gam hawdd ei defnyddio i helpu pobl i ddelio â meddyliau, teimladau a sefyllfaoedd anodd; datblygu mewnwelediad newydd i bwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei werthfawrogi ac archwilio llwybrau newydd mewn bywyd, gan edrych tuag at ddyfodol gobeithiol.

“Rydyn ni'n hyderus y bydd yn helpu mwy o bobl i ddod i delerau â'r heriau ffrwythlondeb sy'n eu hwynebu.”

Mae'r Grŵp Ymchwil Astudiaethau Ffrwythlondeb yn ymchwilio i bob agwedd ar iechyd ffrwythlondeb er mwyn deall yn well brofiadau dynion a menywod sy'n ceisio dod yn rhieni, yn ogystal â phobl nad ydyn nhw'n gallu gwireddu eu gobeithion i gael plant.

Cafodd yr ap ei greu mewn cydweithrediad â dwy o'r elusennau ffrwythlondeb mwyaf o Bortiwgal a’r DU, APFertilidade a Fertility Network UK. Mae ar gael yn Saesneg a Phortiwgaleg ar hyn o bryd - ond mae'r ymchwilwyr yn disgwyl y bydd ar gael yn y pen draw ym mhob iaith a diwylliant.

Mae'r adnodd yn cael ei werthuso ar hyn o bryd mewn hap-dreial rheolyddedig - mae bron i 150 o bobl wedi cymryd rhan yn y treial gwerthuso hyd yn hyn - ond mae'r ymchwilwyr yn gobeithio recriwtio hyd yn oed mwy o gyfranogwyr.

Y gobaith yw y bydd y treial wedi'i gwblhau erbyn yr haf ac o fis Awst ymlaen bydd MyJourney ar gael i bawb yn rhad ac am ddim. Yna bydd yr ap yn parhau i gael ei ddatblygu a'i ddiweddaru hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gyflwyno.

Ariennir yr ap gan Brifysgol Caerdydd, Cymdeithas Ffrwythlondeb Portiwgal a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth am sut i gofrestru ar gael yma.