Ewch i’r prif gynnwys

Cael gwared ar bla gyda chemegau Natur

11 Rhagfyr 2020

Aphid

Dan arweiniad yr Athro Rudolf Allemann o'r Ysgol Cemeg, mae'r tîm wedi datblygu prosesau sydd wedi caniatáu i'r cemegau gael eu cynhyrchu mewn meintiau mawr ac ar ffracsiwn o bris plaladdwyr traddodiadol.

Mae'r dull newydd yn cael ei raddio ar hyn o bryd i'w gynhyrchu er mwyn amddiffyn cnydau letys gwerthfawr rhag pryfed gleision yn Sbaen, drwy gydweithrediad masnachol yng Nghaerdydd.

Mae'r tîm, sydd hefyd yn cynnwys yr Athro John Pickett FRS o'r Ysgol Cemeg, wedi canolbwyntio'n benodol ar semiogemegion - cemegion signalau a ddefnyddir i gario gwybodaeth rhwng organebau byw.

Yr enghraifft amlycaf o semiogemegyn yw fferomon, sy'n cael ei ryddhau gan aelodau o rywogaeth i addasu ymddygiad aelodau eraill o'r un rhywogaeth.

Mae pryfed plâu gan amlaf yn defnyddio eu synnwyr arogli i ganfod fferomonau, wrth iddynt adnabod ac osgoi ecosystemau anaddas.

Mae yna gred gynyddol ymhlith gwyddonwyr y gallai semiogemegion fod yn allweddol i gael gwared ar blâu o gnydau mawr ledled y byd, yn bennaf oherwydd eu bod yn gallu targedu'r rhywogaethau sy'n achosi niwed yn unig.

Mae'r plaladdwyr a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ddiwydiant yn wenwynau sbectrwm eang, sy'n golygu y gall y plâu a'r pryfed cyfeillgar gael eu heffeithio gan y driniaeth i’r cnwd.

Mae'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn datblygu dulliau ar gyfer creu amrywiadau o semiogemegion yn y labordy gan ddefnyddio cemegau naturiol, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y broses ddatblygu yn fwy rhagweladwy ac addas ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr.

Mae'r dull yn seiliedig ar eplesu, sy'n defnyddio cynhyrchion naturiol a gynhyrchwyd gan organeb i greu cynhyrchion sy'n ddefnyddiol i bobl.

Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi cynhyrchu deunyddiau ymlid pryfed gleision sy'n deillio o blanhigion sydd wedi'u difrodi â phlâu, y dangoswyd eu bod yn llwyddo i gael gwared ar ystod o blâu.

Ar ben hynny, addasodd y tîm y deunyddiau ymlid ymhellach fel bod y gweithgaredd yn cael ei wrthdroi, gan arwain at atynnwr pwerus i bryfed gleision.

Mae gan y syniad hwn o allu i ‘denu' a 'gwrthyrru' pla i ffwrdd o'r cnwd botensial enfawr ac mae'n golygu y gellir nid ymlid plâu yn unig ond eu tywys hefyd i ardaloedd eraill i amddiffyn y cnwd rhagddynt.

Yn ogystal â chymhwyso'r broses newydd ledled Ewrop, mae'r dull hefyd ar fin ehangu i ymchwil yn erbyn plâu cnydau mawr ledled y byd, gan gynnwys pryfed gwyn a phryfed tywod sy'n fectorau sy'n gysylltiedig â chlefyd dynol yn Ne America, Asia ac Affrica Is-Sahara.

Meddai’r Athro Rudolf Allemann: “Yn draddodiadol, ceir sylweddau naturiol drwy echdynnu neu drwy synthesis cemegol yn y labordy, dulliau sydd yn aml yn anodd yn weithredol ac yn gostus.

“Mae ein dull newydd yn defnyddio ensymau a gynhyrchir yn naturiol drwy eplesu. Mae catalyddion natur yn aml yn gallu sbarduno'r broses o drosi cyfansoddion tebyg i rai naturiol yn foleciwlau bioactif mewn prosesau effeithlon a graddadwy iawn, sydd â'r potensial i fod yn fasnachol hyfyw i'w creu, gan agor y ffordd i lawer o gymwysiadau, er enghraifft ar gyfer cynhyrchu cnydau."

Dywedodd yr Athro John Pickett FRS: “Ar gyfer rheoli plâu yn gynaliadwy mae angen offer perfformiad uchel newydd arnom lle caiff signalau cemegol newydd, gan gynnwys fferomonau, eu cynnig ond mae'n rhaid i ni roi help llaw i dechnolegau o'r fath drwy arloesiadau cemegol newydd fel y'u cynrychiolir yma.”

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.