Ewch i’r prif gynnwys

Bodlonrwydd myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel

3 Rhagfyr 2020

Two young female students sat in a lecture theatre writing notes

Cafodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd sgôr uchel yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr diweddaraf (2020).

Er gwaethaf yr heriau a effeithiodd ar fisoedd olaf blwyddyn academaidd 2019/20, ymatebodd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn gadarnhaol iawn i’w profiadau yn yr Ysgol.

O ran canlyniadau 2020, 94% oedd y sgôr ar gyfer bodlonrwydd cyffredinol ymysg myfyrwyr a chafwyd marciau uchel ar draws sawl maes thematig, gan gynnwys:

  • Ansawdd yr addysgu (93% yn gyffredinol) - gyda chytundeb o 100% bod y 'staff yn dda am egluro pethau' a bod y 'staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol'.
  • Y cyfleoedd dysgu (90% yn gyffredinol) - gyda chytundeb o 100% bod ‘fy nghwrs wedi rhoi cyfleoedd i mi ddwyn gwybodaeth a syniadau ynghyd o wahanol bynciau’.
  • Y gefnogaeth academaidd (90% yn gyffredinol) - gyda chytundeb o 94% bod ‘cyngor da ar gael pan oedd angen i mi wneud dewisiadau astudio ar fy nghwrs’.

Yn ogystal, teimlai 94% fod adnoddau’r llyfrgell wedi cefnogi dysgu'n dda tra bo 100% o'r ymatebwyr yn cytuno eu bod wedi gallu cael gafael ar adnoddau penodol ar gyfer y cwrs.

Gan adlewyrchu ar ddiwylliant cyfeillgar, cydweithredol a chynnes yr Ysgol, nododd 94% eu bod yn teimlo'n rhan o gymuned o staff a myfyrwyr.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: "Rydym yn hapus i dderbyn canlyniadau'r NSS bob blwyddyn. Maent yn gipolwg ar deimladau a phrofiad y myfyrwyr, ac rydym yn eu gwerthfawrogi’n fawr – mae’r sgoriau uchel a sylwadau ein myfyrwyr yn cydnabod ein cryfderoedd a hefyd yn ein helpu ni i wella. Mae’r adborth deallus a gawn gan y myfyrwyr yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ein ffyrdd o weithio er mwyn cynnig y profiad gorau posibl."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.