Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Cwmnïau Deillio Caerdydd

24 Tachwedd 2020

Main Building_BlueSky_GreenGrass

Mae Prifysgol Caerdydd wedi parhau yn y trydydd safle yn nhabl cynghrair y DU o gwmnïau deillio prifysgolion.

Mae'r safle yn rhestru sefydliadau am eu gallu i drosi ymchwil yn gwmnïau ffyniannus gwerth uchel.

Dim ond Prifysgol Queen’s, Belfast a Phrifysgol Caergrawnt oedd yn well na Chaerdydd ar y rhestr, a luniwyd gan Octopus Ventures, un o gronfeydd cyfalaf menter mwyaf Ewrop.

Llwyddiant Cwmnïau Deillio: Roedd Rhestr Effaith Entrepreneuraidd 2020 yn mesur effeithiolrwydd prifysgolion y DU o ran cynhyrchu eiddo deallusol, creu cwmnïau deilliannol a llwyddiant wrth adael cwmnïau deilliannol, o'i gymharu â chyfanswm yr arian nawdd a gawsant.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, “Rydym yn falch iawn o gadw ein safle yn 2020. Mae gan Gaerdydd draddodiad balch o fasnacheiddio ymchwil. Mae'r adroddiad yn nodi ein darpariaeth o fynediad at arian sbarduno ar gyfer datblygu syniadau prawf o gysyniad a phrototeipiau, a budd rhwydweithiau a chynghreiriau fel y Bartneriaeth SETSquared wrth helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd."

“Nod ein buddsoddiad yng Nghampws Arloesedd Caerdydd, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yw cynnal llwyddiant cwmnïau deilliannol yn y dyfodol drwy helpu arbenigwyr blaenllaw i bontio'r bwlch rhwng ymchwil gynnar a'r cam masnachol."

Bydd y Campws yn gartref i sbarc | spark, canolfan o'r radd flaenaf sy'n cynnwys unedau masnachol, lle mewn labordai i gwmnïau deilliannol a busnesau newydd, a chanolfan ddelweddu. Bydd Hwb Ymchwil Drosiadol drws nesaf yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu technolegau’r dyfodol. Disgwylir i'r Campws agor yn 2022.

Dywedodd Dr David Bembo, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae Caerdydd yn deilwng o aros ymhlith y tri uchaf, o ganlyniad i’w hymrwymiad hirdymor i fasnacheiddio ymchwil.  Mae hon yn ymdrech hynod gydweithredol sy'n llwyddo trwy gyfraniad dyfeisgar staff academaidd a sylfaenwyr, ymrwymiad gweithwyr proffesiynol sy’n trosglwyddo technoleg a'r cyngor beirniadol, doeth a'r cyfalaf a ddarperir gan ein buddsoddwyr allanol, arbenigwyr a mentoriaid.

Mae ein technolegau yn parhau i gefnogi cystadleurwydd busnesau ac adferiad economaidd yn Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Nid ydym yn fodlon gorffwys ar ein bri ac yn 2020-21 mae Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru newydd HEFCW yn darparu adnoddau ychwanegol i'w croesawu i gefnogi ein cwmni deillio a'n hecosystem fentro.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhagori ar droi ymchwil yn arloesedd. Y llynedd, sicrhaodd y Brifysgol y swm uchaf erioed o £150 miliwn mewn grantiau a chontractau ymchwil newydd ac mae cyfanswm o fwy na £100 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn cwmnïau deillio Prifysgol Caerdydd / Fusion IP.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.