Ewch i’r prif gynnwys

Safleoedd yn cydnabod rhagoriaeth ddisgyblaethol

3 Rhagfyr 2020

Mae safleoedd diweddar yn amlygu hanes yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio o ragoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil.

Cafodd Cynllunio sgôr uchel mewn nifer o restrau a chynghreiriau pwysig gan gynnwys 8fed am Gynllunio Gwlad a Thref a Thirlunio yn y Times/Sunday Times Good University Guide 2021. Amlygir cryfder yr Ysgol yn y ddisgyblaeth ymhellach gyda safle yn y deg uchaf yn The Complete University Guide 2021 (Cynllunio Gwlad a Thref a Thirlunio) a Chynghreiriau Prifysgol The Guardian 2021 (Adeiladu a Chynllunio Gwlad a Thref).

Head and shoulders image of young male student facing forward and smiling against a backdrop of green hedges
Robert Blake

Bu Robert Blake, myfyriwr BSc Cynllunio a Datblygu Trefol, yn sôn am ei resymau am ddewis ei bwnc, a Chaerdydd, yn ddiweddar: "Mae'n bwnc cyffrous sy'n ymdrin â materion pwysig yn y byd real, ac yn unigryw mae'n cyfuno elfennau o ddaearyddiaeth a chynllunio. Y cyfle i gwblhau blwyddyn ar leoliad gyda thâl yn ystod y cwrs oedd beth a'm denodd yn benodol i Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â'r cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol. Mae Caerdydd yn brifddinas sy'n esblygu gydag enghreifftiau go iawn o gynllunio'r gorffennol a'r presennol ar stepen y drws!"

Ochr yn ochr â chydnabyddiaeth i Gynllunio, cododd disgyblaeth Daearyddiaeth yr Ysgol i'r brig yng Nghymru yn The Times/Sunday Times Good University Guide 2021 ac mae'n parhau i fod yn y 100 gorau'n fyd-eang ar sail Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc (2020). Mae ei rhaglenni Daearyddiaeth Ddynol yn canolbwyntio ar ryngweithiadau a pherthnasoedd rhwng pobl, lle, gofod, cymdeithas a'r wladwriaeth. Maen nhw'n seiliedig ar ymchwil sy'n gosod yr agenda a dyna hefyd sy'n eu llywio, gyda phwyslais ar y cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Young male graduate stood wearing graduation cap and gown in front of a green hedge
Matthew Ellis

Roedd Matthew Ellis, a raddiodd gyda BSc Daearyddiaeth Ddynol yn 2019, yn gwerthfawrogi ehangder a pherthnasedd y ddisgyblaeth: “Byddwn yn dadlau bod Daearyddiaeth Ddynol yn bwnc heb ei debyg oherwydd ei fod yn gallu cynnig pynciau astudio diddorol, heriol ac amrywiol. Rwyf wedi colli cyfrif ar yr adegau y mae wedi newid y ffordd rwy’n ystyried y byd, y perthnasoedd sydd gennyf ag eraill, a’m gallu i ddadansoddi’n feirniadol y dadleuon sydd ar flaen y gad o ran trafodaeth fyd-eang.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.