Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr meddygol yn dylunio gêm ‘Diagnosis Hanfodol’

24 Tachwedd 2020

Dr Chris Baker
Dr Chris Baker

Mae cynfyfyriwr meddygol o Brifysgol Caerdydd wedi creu gêm sy’n helpu meddygon y dyfodol i wella eu sgiliau diagnostig a chofnodi hanes.

Cafodd ‘Essential Diagnosis’ ei datblygu gan feddyg ysbyty, Chris Baker, yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol.

Gêm chwarae rôl yw hon sy’n efelychu sgwrs rhwng clinigwr a chlaf, ac mae’n cael ei datblygu’n fasnachol gan Focus Games sy’n creu gemau ‘o ddifrif’ sy’n newid ymddygiad a ffyrdd o feddwl.

Meddai Chris, 26 oed, sy’n wreiddiol o Gaint ac sydd bellach yn gweithio yn Ysbyty Tunbridge Wells: “Fe wnes i feddwl am y syniad ar gyfer Essential Diagnosis ar ôl bod mewn gweithdy diddorol am sgiliau cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnaeth fy ysbrydoli i greu cyfle dysgu rhyngweithiol i fi fy hun a myfyrwyr meddygol eraill er mwyn ymarfer ar gyfer ein harholiadau terfynol a’n gyrfaoedd yn y dyfodol.”

“Ar ôl paratoi fersiwn gychwynnol, fe wnes i brofi’r gêm gyda myfyrwyr eraill, a chefais ymateb gadarnhaol ganddyn nhw. Roedden nhw’n teimlo ei bod yn cynnig safbwynt wahanol ar y broses o roi diagnosis, yn creu trafodaethau pwysig, ac yn eu helpu nhw i ddeall gwerth y cwestiynau sydd eu hangen i wneud diagnosis.  Fe ddangosodd y myfyrwyr welliannau amlwg yn eu sgiliau meddwl yn ddiagnostig ar ôl chwarae’r gêm am 60 munud.”

Fe gyflwynodd Dr Baker ei syniad i Bartneriaeth Gwyddorau Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru (SEWAHSP) a roddodd yr arian a’r gefnogaeth i ddatblygu’r gêm yn y lle cyntaf.

Meddai Dr Corinne Squire, Rheolwr SEWAHSP: “Roedden ni’n gallu gweld ar unwaith y potensial i syniad Chris. Roedd wedi dyfeisio cysyniad rhyngweithiol a llawn hwyl i helpu myfyrwyr i ddysgu sut i ofyn y cwestiynau cywir er mwyn creu diagnosis pendant ar gyfer cyflyrau â symptomau cywir a’i ategu â gwybodaeth glinigol gywir sydd ar gael. Fe wnaethom ei gyflwyno i Focus Games a helpodd i fireinio a datblygu dyluniad Chris i ddatblygu’r gêm a gyhoeddwyd maes o law. Rydw i’n gobeithio y caiff ei defnyddio’n eang gan ysgolion meddygol yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae rhifyn cyntaf Essential Diagnosis ar gyfer meddygon iau ac ymarferwyr nyrsio uwch. Mae’n mynd i’r afael â thri symptom o bwys ac yn ystyried ystod eang o wahaniaethau: diffyg anadl, poen yn y frest a cholli ymwybyddiaeth.

Mae myfyrwyr meddygol wedi croesawu’r gêm. Meddai Dr Chay Markham a raddiodd yn yr Ysgol Meddygaeth:  “Mae Essential Diagnosis yn cynnig cyfle hwylus i ymarfer cofnodi hanes cyn arholiadau terfynol.”

Ychwanegodd Joseph Pickett, myfyriwr meddygol ail flwyddyn ym Mhrifysgol Southampton: “Roedd chwarae’r gêm gyda ffrindiau yn cynnig ffordd gymdeithasol o ddysgu am feddygaeth ymarferol a damcaniaethol.”

Fe gafodd y gem ei chymeradwyo hefyd gan Bartneriaeth Arloesedd Glinigol a ffurfiwyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2016.

Dywedodd yr Athro Ian Weeks OBE, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Deon Arloesedd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n hynod amserol bod y gêm yn dod ar y farchnad yn ystod pandemig Covid-19 oherwydd gall chwarae rôl bwysig yn addysg y myfyrwyr. Fe gafodd Essential Diagnosis ei chefnogi gan y Tîm Amlddisgyblaethol Arloesedd Clinigol ar y dechrau. Mae sawl aelod sydd wedi cael hyfforddiant meddygol yn gwybod bod meithrin sgiliau diagnostig a chofnodi hanes yn gallu bod yn dalcen caled. Mae sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda chleifion a gweithdai efelychu yn helpu fel arfer, ond nid yw rhai o’r cyfleoedd hyn ar gael i fyfyrwyr yn ystod y pandemig.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.