Ewch i’r prif gynnwys

Gwella gofal canser yng Nghymru a’r tu hwnt

17 Tachwedd 2020

Nurse and patient holding hands

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre’r GIG yn cydweithio i ehangu ymchwil a sefydlu canolfan gydnabyddedig i hybu rhagoriaeth nyrsio, arbenigedd iechyd cysylltiedig a gwyddorau gofal iechyd ynghylch gofal ac ymchwil canser yng Nghymru a’r tu hwnt.

Un o nodau’r bartneriaeth yw penodi am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd Athro Nyrsio a ddaw yn Athro Nyrsio a Gofal Canser Rhyngddisgyblaethol Felindre, yn ogystal â Chymrawd Ymchwil Felindre.  Mae’r bartneriaeth wedi’i sefydlu o ganlyniad i’r cymorth ariannol sydd ar gael i Elusen Canolfan Canser Felindre a Phrifysgol Caerdydd.

Bydd y rolau’n llunio rhaglen nyrsio o dan nawdd allanol, ymchwil proffesiynolion iechyd cysylltiedig a gwyddonwyr gofal iechyd i agweddau megis effaith triniaeth ar gleifion canser a datblygiad gofal diogel a thosturiol i gleifion canser sy’n agored i niwed ynghyd â’u teuluoedd gan anelu at ddechrau cywiro’r anghydraddoldeb ynghylch deilliannau canser - un o flaenoriaethau strategol Cynllun GIG Cymru 2020-23. Bydd hynny’n rhoi cyfleoedd newydd i staff Canolfan Canser Felindre i gydweithio ag ymchwilwyr mewn gwaith arloesol cyffrous.

Mae’r Athro Jane Hopkinson, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi’i phenodi’n Athro Nyrsio a Gofal Canser Rhyngddisgyblaethol Felindre yn ddiweddar. Meddai’r Athro Hopkinson, “Mae’n dda gyda fi ysgwyddo’r rôl yma. Bydda i’n gweithio gyda nyrsys, proffesiynolion iechyd cysylltiedig a gwyddonwyr clinigol yng Nghanolfan Canser Felindre i gynyddu ein gallu i gynnal ymchwil a sefydlu canolfan ragoriaeth gydnabyddedig ar gyfer nyrsio ac ymchwil proffesiynolion iechyd cysylltiedig i ganser.”

“Mae partneriaeth Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre’r GIG ac Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn bwysig i ymchwil a fydd o les i gleifion a’u teuluoedd ym maes gofal canser. Mae gofal canser diogel o safon yn gysylltiedig â gweithgarwch ymchwil. Bydd y fenter newydd yn cryfhau cydberthynas Canolfan Canser Felindre â Phrifysgol Caerdydd.”

“Bydd yn ychwanegu at yr arbrofion niferus sydd ar waith yng Nghanolfan Felindre ynghylch trin a thrafod canser, gan alluogi gweithwyr heb gefndir meddygol i arwain ymchwil i’r cymorth cyfannol mae’i angen ar gleifion a’u teuluoedd yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynolion Iechyd Cysylltiedig a Gwyddonwyr Gofal Iechyd, “Mae’r bartneriaeth yma yn gyfle unigryw i helpu cynifer o’n staff ag y bo modd i gydio mewn ymchwil ac arloesi yn ogystal â gwella byd cleifion sy’n dioddef â chanser. Bydd y dull yma yn ychwanegu at yr ymchwil glinigol sylweddol sydd ar waith yn Felindre.”

Mae Ysgol y Gwyddorau Iechyd wedi gwahodd pobl i ymgeisio am rôl Cymrawd Ymchwil Felindre.

Rhannu’r stori hon