Angen ‘ffordd ymlaen’ wrth i adroddiad newydd ddadlennu cost darparu ‘gofal personol am ddim’ i oedolion hŷn yng Nghymru
23 Hydref 2020
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n edrych ar y gwersi y gellir eu dysgu o drefn yr Alban o gynnig Gofal Personol am Ddim, ac yn archwilio goblygiadau posibl cyflwyno’r un polisi yng Nghymru.
Gan ddadlau bod angen ffordd ymlaen o ran ariannu gofal cymdeithasol i oedolion hŷn yn y dyfodol, mae’r ymchwilwyr yn dangos y gallai darparu 'gofal personol am ddim' i oedolion hŷn ar batrwm yr Alban gostio tua £300m y flwyddyn (sy'n cyfateb i 1.5% o gyllideb Cymru ar gyfer gwariant o ddydd-i-ddydd). Fodd bynnag, mae'r ymchwilwyr yn cydnabod bod y sefyllfa yng Nghymru yn wahanol i'r Alban mewn nifer o ffyrdd, ac yn nodi y gallai’r costau gynyddu oherwydd bod poblogaeth Cymru yn cynnwys canrannau uwch o bobl hŷn a bregus.
Mae adroddiad Dadansoddi Cyllid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod gwariant cyhoeddus ar ofal cymdeithasol i oedolion hŷn wedi gostwng bron i 10%, o £1,058 i £956 y pen rhwng 2009–10 a 2018–19 gan gymryd chwyddiant i ystyriaeth. Mae hyn yn dilyn adroddiad arall gan Dadansoddi Cyllid Cymru a dynnodd sylw at yr heriau a’r angen am fwy o adnoddau yn y sector.
Daw'r ymchwilwyr i'r casgliad ei bod hi’n anochel y bydd yn rhaid i Gymru wario mwy ar ofal cymdeithasol dros y degawd nesaf, a bod cyfle’n codi i ailystyried y trefniadau sy'n pennu sut mae pobl yn talu am ofal ar hyn o bryd.
Dywedodd Cian Siôn, un o awduron yr adroddiad:
"Mae gofal personol am ddim yn amlwg yn ddeniadol yng Nghymru ond bu pryderon erioed a fyddai trefn o’r fath yn fforddiadwy. Mae ein hadroddiad yn cynnig amcangyfrif cychwynnol o gost y polisi ac yn amlinellu'r ffactorau y byddai angen eu hystyried er mwyn dod i amcangyfrif manylach.
"Mae Cymru eisoes wedi lleihau rhai costau gofal cymdeithasol drwy osod cap wythnosol ar daliadau gofal cartref a chynyddu'r trothwy asedau ar gyfer talu costau gofal. Mae hyn yn golygu y byddai man cychwyn Cymru o ran cyflwyno gofal personol am ddim yn wahanol i'r Alban, gyda rhai o gostau cysylltiedig y polisi eisoes wedi'u cynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
"Ond mae ffactorau eraill a allai gynyddu cost y polisi. Mae canran y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru ychydig yn uwch na’r hyn ydyw yn yr Alban ac mae disgwyl i'r boblogaeth dros 85 oed gynyddu ychydig yn gyflymach. Gallai canrannau uwch o eiddilwch fod yn ffactor arall a fyddai'n cynyddu costau."
Mae'r papur hefyd yn trafod sut y bu'n rhaid i Lywodraeth yr Alban gamu i’r adwy i ad-dalu 'hunan-arianwyr' a gollodd eu Lwfans Gweini gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl i'r polisi gael ei gyflwyno yn yr Alban. Yn ôl yr ymchwilwyr, mae hyn yn cryfhau'r achos o blaid datganoli'r budd-dal hwn cyn cyflwyno gofal personol am ddim yng Nghymru.
Ychwanegodd Cian Siôn:
"Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd pwysau cost hirdymor darparu gofal cymdeithasol i boblogaeth sy'n heneiddio wedi’i gydnabod yn eang. Gallai’r galw parhaus am offer gwarchod personol a llefydd gwag mewn cartrefi preswyl gynyddu cost uned gofal hyd yn oed ymhellach.
"Mae angen trafodaeth genedlaethol ar sut i sicrhau bod gan y sector yr adnoddau priodol ochr yn ochr â thrafodaeth ar sut mae pobl yn talu am ofal. Mae Gofal Personol am Ddim yn un ffordd o ddiwygio'r trefniadau presennol a dylid ei ystyried fel opsiwn.
"Mewn cyfnod mwy normal, byddai ariannu’r polisi hwn yn her fawr, ac er mwyn bod yn opsiwn ymarferol, byddai angen iddo fod yn brif flaenoriaeth yn y gyllideb. Yn anochel, bydd effaith Covid-19 ar gyllid cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau ar flaenoriaethau yn anos; ond bydd dod o hyd i ffordd ymlaen o ran ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn parhau i fod yn gwbl allweddol."